Gwirio a allwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr
Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp wrth brynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr.
Mae鈥檔 bosibl y gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn prynu tir neu adeiladau mewn safle treth arbennig Porthladd Rhydd neu safle treth arbennig Parth Buddsoddi yn Lloegr.
Os ydych yn prynu tir neu adeiladau mewn Parth Buddsoddi neu Borthladd Rhydd sy鈥檔 safle treth arbennig wedi鈥檌 leoli:
- yn yr Alban, mae Rhyddhad Rhag Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau mewn Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd ar gael ar gyfer trafodion cymhwysol mewn safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd dynodedig
- yng Nghymru, mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth i ddarparu Rhyddhad Rhag Treth Trafodiadau Tir 鈥� bydd y rhyddhad hwn ar gael i鈥檙 Porthladd Rhydd Celtaidd ar 26 Tachwedd 2024 hyd at 30 Medi 2029 i gychwyn, a bydd ar gael i Borthladd Ynys M么n ar 23 Ionawr 2025 hyd at 30 Medi 2029
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau ar聽
- Treth Trafodiadau Tir ar聽
Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, gelwir safleoedd treth arbennig yn 鈥榮afleoedd treth Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi鈥�. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi鈥檌 awdurdodi ar wah芒n i safle tollau Porthladd Rhydd, ond gall gwmpasu鈥檙 un darn o dir.
Ni allwch hawlio hyd nes bod y safle treth Parth Buddsoddi arbennig neu鈥檙 safle treth Porthladd Rhydd arbennig perthnasol wedi鈥檌 ddynodi.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
Pryd y gallwch hawlio rhyddhad
Gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp, pan fyddwch yn:
- prynu unrhyw dir neu adeiladau mewn safle treth arbennig (os ydych yn defnyddio鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau mewn ffordd gymhwysol 鈥� darllenwch yr adran ynghylch pwy all hawlio rhyddhad am ragor o wybodaeth)
- prynu prydles ar gyfer y tir neu adeiladau, gan gynnwys naill ai:
- adnewyddu prydles hir
- unrhyw daliadau rhent ar gyfer y brydles
Gellir hawlio鈥檙 rhyddhad ar gyfer gwariant a ysgwyddwyd o鈥檙 dyddiad y dynodir safle treth arbennig, hyd at:
- 30 Medi 2031, ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034, ar gyfer Parthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
Gallwch hawlio rhyddhad o hyd os yw perchnogion blaenorol wedi gwerthu鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau cyn dyddiad gorffen y safle treth arbennig. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw鈥檙 perchennog blaenorol wedi hawlio rhyddhad.
Gwirio pa safleoedd sy鈥檔:
- Safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg)
- Safleoedd treth Parthau Buddsoddi arbennig dynonedig (yn agor tudalen Saesneg)
Pan na allwch hawlio rhyddhad
Ni allwch hawlio rhyddhad ar gyfer tir neu adeiladau sydd:
- wedi cael eu prynu y tu mewn i safle treth arbennig cyn iddo gael ei ddynodi, neu ar 么l:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Parthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- i鈥檞 defnyddio fel eiddo preswyl
- i鈥檞 datblygu neu eu hailddatblygu鈥檔 eiddo preswyl
- i鈥檞 cadw fel stoc gan y busnes i鈥檞 hailwerthu heb eu datblygu na鈥檌 hailddatblygu
Pwy all hawlio rhyddhad
Gallwch hawlio鈥檙 rhyddhad hwn os ydych yn bwriadu defnyddio鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau mewn ffordd gymhwysol.
Mae ffyrdd cymhwysol yn cynnwys y canlynol:
- defnyddio鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau mewn masnach neu broffesiwn masnachol
- datblygu neu ailddatblygu鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau er mwyn eu hailwerthu
- rhoi鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau ar osod i berson arall sy鈥檔 talu rhent i chi 鈥� ar yr amod nad ydynt yn cael eu defnyddio fel eiddo preswyl
Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio rhyddhad llawn rhag Treth Dir y Tollau Stamp ar gyfanswm y pris prynu os yw o leiaf 90% o鈥檙 pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol.
Os yw llai na 90% o鈥檙 pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol, gallwch hawlio rhyddhad ar y rhan o Dreth Dir y Tollau Stamp ar gyfer y tir neu鈥檙 adeiladau sy鈥檔 gymwys, cyhyd 芒 bod pris y tir neu鈥檙 adeiladau cymwys yn 10% neu fwy o gyfanswm y pris.
Ni allwch hawlio unrhyw ryddhad os yw llai na 10% o gyfanswm y pris prynu ar gyfer tir neu adeiladau cymhwysol.
Sut i hawlio rhyddhad
I hawlio鈥檙 rhyddhad, mae鈥檔 rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen treth trafodiadau tir cyn pen 14 diwrnod i鈥檙 trafodiad. Dysgwch sut mae llenwi鈥檆h ffurflen treth trafodiadau tir (yn agor tudalen Saesneg).
Mae鈥檔 rhaid gwneud pob hawliad ar neu cyn:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Parthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
Tynnu鈥檙 rhyddhad yn 么l
Mae cyfnod rheoli o 3 blynedd ar 么l dyddiad y pryniant.
Yn ystod y cyfnod rheoli, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau mewn ffordd gymhwysol.
Os, ar unrhyw adeg yn y cyfnod rheoli, nad yw鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau鈥檔 cael eu defnyddio mewn ffordd gymhwysol, mae鈥檔 rhaid i chi gymryd camau rhesymol i wneud y canlynol:
- dechrau defnyddio鈥檙 tir neu adeiladau mewn ffordd gymhwysol
- gwerthu鈥檙 tir neu鈥檙 adeiladau
Os nad yw鈥檙 naill na鈥檙 llall o鈥檙 camau hyn yn cael eu cymryd, caiff y rhyddhad ei dynnu鈥檔 么l a bydd rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno Ffurflen Treth Dir y Tollau Stamp arall
- talu鈥檙 dreth cyn pen 30 diwrnod
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn Llawlyfr Treth Dir y Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg).
Enghreifftiau o gyfrifo鈥檙 rhyddhad
Enghraifft lle mae rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei hawlio ar gyfer tir sydd yn llwyr o fewn safle treth arbennig
Caiff 拢800,000 ei dalu am dir sy鈥檔 llwyr o fewn safle treth arbennig, ond mae 拢200,000 (25%) o鈥檙 swm a dalwyd yn ymwneud 芒 thir na fwriedir iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.
Caiff 拢600,000 (75%) ei dalu am dir mewn safle treth arbennig sydd i鈥檞 ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol. Mae Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei gostwng 75% o gyfanswm y dreth sy鈥檔 ddyledus am y pryniant cyfan.
Enghraifft lle mae rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei hawlio ar gyfer tir sydd yn rhannol o fewn safle treth arbennig
Caiff 拢2 miliwn ei dalu am dir sydd yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan i safle treth arbennig.
Mae鈥檙 holl dir o fewn y safle treth arbennig i鈥檞 ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.
Mae 拢400,000 (20%) o鈥檙 swm a dalwyd ar gyfer tir y tu allan i鈥檙 safle treth arbennig.
Caiff 拢1.6 miliwn (80%) ei dalu am dir mewn safle treth arbennig sydd i鈥檞 ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.聽 Mae Treth Dir y Tollau Stamp yn cael ei gostwng 80% o gyfanswm y dreth sy鈥檔 ddyledus am y pryniant cyfan.
Enghraifft lle na all rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp gael ei hawlio ar gyfer tir sydd yn rhannol o fewn safle treth arbennig
Caiff 拢5 miliwn ei dalu am dir sydd yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan i safle treth arbennig.
Mae 拢500,000 ar gyfer tir y tu allan i鈥檙 safle treth arbennig.
Mae 拢4.5 miliwn ar gyfer tir y tu mewn i鈥檙 safle treth arbennig.
Dim ond 拢400,000 sydd wedi鈥檌 dalu ar gyfer tir y bwriedir ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol.
Gan fod 拢400,000 yn llai na 10% o gyfanswm y pris a dalwyd, sef 拢5 miliwn, ni ellir hawlio rhyddhad rhag Treth Dir y Tollau Stamp.
Updates to this page
-
Senedd Cymru has approved legislation to provide Land Transaction Tax relief for the Anglesey Freeport 鈥� initially this relief will be available on 23 January 2025 until 30 September 2029.
-
References to Scottish Green Freeports and Welsh Freeports have been removed as this relief is exclusively related to England.
-
The information about the reliefs available for land or buildings in a Freeport or Investment Zone special tax site in Scotland and Wales has been updated.
-
Added translation
-
The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.
-
This guidance has been updated to provide information about Investment Zones.
-
Welsh translation added.
-
You cannot claim Stamp Duty Land Tax (SDLT) if you鈥檙e buying land or buildings in a Freeport tax site in Scotland and Wales.
-
Added information about when you cannot claim relief for land or buildings which are purchased inside a Freeport tax site.
-
The examples of how Stamp Duty Land tax is calculated in Freeport tax sites have been updated.
-
First published.