Gwirio os ydych mewn perygl o arbed treth
Dysgwch sut i wirio鈥檆h risg o fod yn rhan o arbed treth os ydych yn weithiwr asiantaeth neu鈥檔 gontractwr sy鈥檔 gweithio drwy gwmni ambar茅l.
Defnyddiwch y gwiriwr risg rhyngweithiol i ddarganfod a allai鈥檆h trefniadau cyflogaeth gynnwys arbed treth.
Cyn i chi ddechrau
Gallwch ddefnyddio鈥檙 offeryn hwn os ydych chi鈥檔 gweithio drwy gwmni ambar茅l. Os ydych chi鈥檔 ansicr, gallwch gael gwybod a ydych chi鈥檔 gweithio drwy gwmni ambar茅l drwy wirio鈥檆h:
- contract cyflogaeth
- dogfen gwybodaeth allweddol (yn Saesneg) gan yr asiantaeth recriwtio (os yw鈥檔 berthnasol)
Dysgwch ragor am yr hyn i鈥檞 ddisgwyl wrth weithio drwy gwmni ambar茅l (yn Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Casglwch y dogfennau y gallai fod eu hangen arnoch. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:
- slipiau cyflog
- cyfriflenni banc
- contractau neu gytundebau cyflogaeth
- dogfen gwybodaeth allweddol
- cyngor ar dalu
- unrhyw ddogfennau eraill sydd gennych sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h trefniadau cyflogaeth
Dydy鈥檙 rhestr hon ddim yn gynhwysfawr.
Sut i wirio
Mae鈥檙 gwiriwr risg rhyngweithiol hwn ond yn cwmpasu鈥檙 arwyddion mwyaf cyffredin o arbed treth i fod yn wyliadwrus ohonynt.
Does dim angen i chi roi unrhyw fanylion personol, fel eich enw neu鈥檆h cyfeiriad, wrth ddefnyddio鈥檙 gwiriwr hwn.