Canllawiau

Archwiliadau adnabod gwartheg: yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Gall arolygwyr ymweld 芒'ch daliad er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn y rheolau ar gyfer adnabod gwartheg, buail a byfflos a chadw cofnodion.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

O dan y gyfraith, mae鈥檔 rhaid i arolygiaethau da byw yng Nghymru a Lloegr gynnal archwiliadau adnabod gwartheg.

Bydd arolygwyr yn sicrhau eich bod yn dilyn y rheolau ar gyfer adnabod gwartheg a chadw cofnodion. Gallai gwallau arwain at gosbau yn cael eu gosod arnoch ac at gymhorthdal yn cael ei leihau.

Gallai archwiliad gynnwys edrych ar y canlynol:

  • y gwartheg ar eich daliad, eu tagiau clust a鈥檜 pasbortau
  • cofrestr eich daliad
  • eich tagiau clust nas defnyddiwyd.

Cynhelir archwiliadau yn ddirybudd neu ar fyr rybudd.

Sut y dewisir ffermydd i鈥檞 harchwilio

Mae鈥檙 arolygiaeth yn archwilio o leiaf 3% o ddaliadau bob blwyddyn. Mae鈥檙 gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i 20% o鈥檙 daliadau hynny gael eu dewis ar hap a dewisir 80% yn 么l risg (mae arolygwyr yn fwy tebygol o ymweld 芒 daliadau lle y maent wedi dod o hyd i broblemau o鈥檙 blaen).

Beth sydd angen ichi ei wneud ar gyfer archwiliad

Bydd yr arolygydd yn archwilio鈥檙 gwartheg sydd ar eich daliad neu鈥檆h daliadau ar y pryd.

Mae鈥檔 rhaid ichi adael i鈥檙 arolygydd weld yr holl ddogfennau a chofnodion y mae鈥檔 gofyn amdanynt. O dan y gyfraith, mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau bod dogfennau ar gael i鈥檞 harchwilio. Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cofrestr eich daliad (ar bapur neu ar gyfrifiadur)
  • pob pasbort a dogfen gofrestru anifail

Gwnewch yn si诺r y gall yr arolygydd archwilio eich anifeiliaid yn ddiogel. Mae鈥檔 rhaid ichi ddarparu cyfleusterau trin addas a phobl i gasglu鈥檙 gwartheg. Chi fydd yn gyfrifol am les yr anifeiliaid yn ystod yr archwiliad.

Ar ddiwedd yr archwiliad bydd yr arolygydd yn gofyn ichi lofnodi ffurflen sy鈥檔 cynnwys manylion yr ymweliad a bydd yn gadael copi gyda chi.

Os byddwch yn rhwystro鈥檙 arolygydd, gosodir eich buches gyfan o dan gyfyngiadau ac efallai na thelir unrhyw daliadau cymhorthdal sy鈥檔 ddyledus i chi.

Mae enghreifftiau o rwystro yn cynnwys y canlynol:

  • gwrthod caniat谩u i鈥檙 archwiliad ddigwydd
  • methu 芒 chasglu anifeiliaid i鈥檞 harchwilio
  • methu 芒 darparu cyfleusterau trin a llafur digonol
  • methu 芒 chyflwyno cofrestr y daliad a phasbortau
  • ymddygiad difr茂ol neu ymosodol

Faint o amser y bydd yn ei gymryd?

Bydd yr arolygydd yn cynnal yr archwiliad mor gyflym ac effeithlon 芒 phosibl, a chan darfu cyn lleied 芒 phosibl arnoch. Mae pa mor hir y bydd archwiliad yn para yn dibynnu ar faint eich daliad, faint o wartheg sy鈥檔 cael eu harchwilio a pha mor glir a chywir yw eich cofnodion.

Os oes angen cynnal archwiliadau ar eich daliad mewn perthynas 芒 chynlluniau cymorthdaliadau, yn ogystal ag adnabod gwartheg, bydd arolygwyr yn ceisio eu cynnal ar yr un pryd.

Yr hyn y bydd yr arolygydd am ei gadarnhau

Bydd yr arolygydd yn cadarnhau sawl peth gan gynnwys y canlynol:

  • bod cofrestr eich daliad yn dangos pa anifeiliaid sydd ar y daliad neu a fu ar y daliad
  • eich bod wedi cofnodi pob genedigaeth, symudiad a marwolaeth yn gywir
  • bod pob anifail wedi鈥檌 dagio鈥檔 gywir a bod eu tagiau yn cyd-fynd 芒鈥檜 dogfennau adnabod
  • bod pob dogfen adnabod gennych a鈥檌 bod yn gywir
  • eich bod wedi bodloni鈥檙 terfynau amser ar gyfer adnabod gwartheg a chadw cofnodion
  • eich bod wedi trosglwyddo pob dogfen adnabod ar gyfer anifeiliaid sydd wedi symud neu wedi marw i鈥檙 ceidwad newydd neu eich bod wedi鈥檜 dychwelyd i GSGP
  • eich bod yn storio pob tag clust nas defnyddiwyd yn ddiogel

Os nodir problemau

Os bydd yr arolygydd yn nodi problem o ran unrhyw basbortau gwartheg (er enghraifft, bod y rhyw anghywir wedi鈥檌 nodi), bydd yn casglu鈥檙 pasbortau hynny gennych ac yn rhoi derbynneb i chi.

Os gall GSGP gywiro鈥檙 pasbortau, bydd yn gwneud hynny ac yn eu dychwelyd atoch am ddim. Dylech eu gwirio鈥檔 ofalus pan fyddwch yn eu cael. Os na fyddwch wedi鈥檜 cael o fewn pedair wythnos i鈥檙 archwiliad, cysylltwch 芒 GSGP.

Os bydd yr arolygydd yn canfod unrhyw anifeiliaid sydd heb eu hadnabod, cewch Hysbysiad i Gadarnhau Manylion Adnabod ac Olrhain (CPP30/CPPS30). Nes ichi gadarnhau manylion adnabod yr anifeiliaid hyn, ni allwch eu symud oddi ar eich daliad.

Gofynnir ichi osod tagiau rheoli GSGP i鈥檙 anifeiliaid. Os na ellir cadarnhau manylion adnabod yr anifail a darparu tystiolaeth i ategu hyn, efallai y cewch Hysbysiad i Symud Gwartheg i鈥檞 Lladd yn Orfodol (CPP31/CPPS31).

Mae hysbysiad i ladd gwartheg yn orfodol yn golygu y caiff yr anifeiliaid eu difa, na chewch iawndal ac y gall GSGP fynnu eich bod yn talu鈥檙 costau.

Problemau gyda llai nag 20% o鈥檆h buches neu鈥檆h cofnodion

Os bydd yr arolygydd yn nodi:

  • anghysondebau rhwng tagiau, pasbortau a chofnodion, neu
  • fethiannau cofnodi

sy鈥檔 effeithio ar lai nag 20% o鈥檆h buches, efallai y bydd yn gosod cyfyngiad symud ar yr anifail unigol dan sylw.

Bydd yr arolygydd naill ai鈥檔 cymryd y pasbort i ffwrdd i鈥檞 gywiro neu鈥檔 rhoi hysbysiad cyfyngu ar symud (ffurflen CPP27/CPPS27) i chi sy鈥檔 disgrifio鈥檙 hyn sydd angen ichi ei wneud.

Yn y naill achos neu鈥檙 llall, mae鈥檔 drosedd symud yr anifail oddi ar eich daliad nes i鈥檙 pasbortau gael eu dychwelyd neu nes i鈥檙 cyfyngiad gael ei ddileu.

Cyn gynted ag y byddwch wedi cymryd y camau angenrheidiol mae鈥檔 rhaid i chi hysbysu GSGP. Bydd GSGP yn cynnal gwiriadau gweinyddol ac yn cadarnhau a yw鈥檙 cyfyngiad wedi鈥檌 ddileu. Efallai y bydd arolygydd yn dychwelyd i sicrhau bod yr anifail wedi鈥檌 nodi鈥檔 gywir.

Problemau gyda mwy nag 20% o鈥檆h buches neu鈥檆h cofnodion

Os bydd yr arolygydd yn nodi:

  • anghysondebau rhwng tagiau, pasbortau a chofnodion, neu
  • fethiannau cofnodi

sy鈥檔 effeithio ar fwy nag 20% o鈥檆h buches, bydd yn rhoi hysbysiad cyfyngu ar symud i chi ar gyfer eich buches gyfan (CPP28/CPPS28).

Bydd yr hysbysiad yn gwneud y canlynol:

  • rhestru pob anifail ar eich daliad
  • nodi a yw鈥檙 cyfyngiad yn gymwys i symudiadau i鈥檙 daliad ac oddi arno neu i symudiadau oddi ar y daliad yn unig
  • nodi鈥檙 hyn sydd angen ichi ei wneud i unioni pethau

At hynny, cewch lythyr gan GSGP yn cadarnhau鈥檙 hyn sydd angen ichi ei wneud er mwyn sicrhau bod y cyfyngiad ar symud anifeiliaid yn cael ei ddileu.

Mae鈥檔 drosedd symud anifeiliaid tra eu bod yn ddarostyngedig i鈥檙 cyfyngiad ar symud.

Pan fydd 80% o鈥檆h gwartheg yn bodloni鈥檙 rheoliadau, mae鈥檔 rhaid ichi naill ai:

  • hysbysu GSGP, neu
  • gyflwyno ffurflen hysbysiad o gydymffurfiaeth (CPP29/CPPS29)

Os nad ydych yn si诺r a ydych wedi cyrraedd lefel 80%, cysylltwch 芒 GSGP, a all gadarnhau hynny i chi.

Wedyn, bydd GSGP yn anfon llythyr atoch:

  • yn cadarnhau bod y cyfyngiad ar y fuches gyfan wedi鈥檌 ddileu
  • yn rhestru unrhyw anifeiliaid ag anghysondebau sy鈥檔 dal i fod wedi鈥檜 cyfyngu i鈥檆h daliad.

Efallai y bydd arolygydd yn ailymweld 芒鈥檆h daliad er mwyn cadarnhau eich bod wedi cymryd y camau cywir. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anwir er mwyn dileu cyfyngiad ar symud, efallai y cymerir camau pellach yn eich erbyn.

Lles anifeiliaid

Os bydd yr arolygydd o鈥檙 farn eich bod yn torri safonau lles anifeiliaid, bydd yn hysbysu鈥檙 awdurdod lleol, sy鈥檔 gyfrifol am orfodi rheolau lles.

Gallech hefyd fod yn torri rheolau trawsgydymffurfio, sy鈥檔 golygu y gallai unrhyw daliadau a gewch o dan gynlluniau cymorthdaliadau gael eu lleihau.

Cosbau

Erlyniad

Gallai camau cyfreithiol gael eu cymryd yn eich erbyn mewn perthynas 芒 phroblemau a nodwyd mewn archwiliad. Os bydd llys yn eich dyfarnu鈥檔 euog o drosedd, gall osod cosbau llym, gan gynnwys dirwyon o hyd at 拢5,000 ar gyfer pob anifail. Yn yr achosion gwaethaf, gall y llys hefyd gyhoeddi dedfrydau o garchar.

Gostyngiadau mewn taliadau

Os bydd yr arolygydd yn dod o hyd i broblemau, gallech wynebu cosbau a gostyngiad trawsgydymffurfio i unrhyw gymhorthdal rydych yn ei hawlio.

Ceir gwybodaeth fanylach am drawsgydymffurfio a Lloegr.

Cysylltu 芒 GSGP

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain

BCMS
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

E-bost [email protected]

Llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i geidwaid gwartheg yng Nghymru 0345 050 3456

Llinell Saesneg 0345 050 1234

Oriau agor arferol llinell gymorth GSGP: rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar y penwythnosau a gwyliau banc. Codir y gyfradd leol am bob galwad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Hydref 2021 show all updates
  1. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon