Canllawiau

Gwneud cais am brofant ar bapur fel ymarferydd

Sut i wneud ceisiadau profiant na ellir eu gwneud drwy MyHMCTS.

Pryd i wneud cais ar bapur

Grantiau profiant

Ni all MyHCMTS dderbyn ceisiadau am grant profiant ym mhob achos. Yn yr achosion hyn, rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio鈥檙 ffurflen bapur:

  • cais am ail grant ar gyfer yr un ystad
  • pan fo鈥檙 un sydd 芒 hawl wedi鈥檌 gael yn euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig neu fel arall wedi fforffedu鈥檙 hawl i wneud cais
  • yn achos ewyllys dramor
  • pan wneir y cais ynghyd 芒 chais i brofi copi o鈥檙 ewyllys
  • cais ynghyd 芒 chais am gywiriad neu gopi fiat o鈥檙 ewyllys
  • cais i gyplysu gweinyddwr, o dan reol 25
  • pan fo gan ddau neu fwy o bobl hawl i鈥檙 un graddau, o dan reol 27 (3) to (8)
  • pan fu farw鈥檙 ymadawedig a鈥檌 ddomisil y tu allan i Gymru a Lloegr, o dan reol 30, ac eithrio grant o dan reol 30 (3)(b)
  • i atwrneiod, o dan reol 31
  • yn ymwneud ag ailselio o dan Ddeddfau Profiant Trefedigaethol 1892 a 1927, o dan reol 39
  • i鈥檞 weinyddu o dan bwerau dewisol y llys adran 116, o dan reol 52

Os nad oes unrhyw un o鈥檙 amodau uchod yn berthnasol, yna mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio MyHMCTS.

Gallwch wneud cais ar-lein am gorfforaethau ymddiriedolaethau a chyrff corfforaethol eraill, o dan reol 36. Fodd bynnag, gallwch hefyd wneud cais gyda鈥檙 ffurflen bapur.

Llythyrau gweinyddu

Gallwch wneud cais ar lein gyda MyHMCTS os yw鈥檙 holl amodau canlynol yn eu cael eu bodloni:

  • nid oes ond un ceisydd ac ef yw鈥檙 unig un sydd 芒 hawli i鈥檙 ystad (y ceisydd yw鈥檙 unigolyn a fydd yn cael ei enwi yn y grant)
  • os yw鈥檙 ceisydd yn briod / partner sifil neu鈥檔 unig blentyn / plentyn mabwysiedig yr ymadawedig
  • lle鈥檙 oedd domisil yr ymadawedig y tu allan i Gymru a Lloegr, pan fo鈥檙 ystad yng Nghymru a Lloegr yn eiddo na ellir ei symud yn unig
  • pan nad oes hawliad arall ar yr ystad
  • nid oes budd i blentyn
  • pan fo鈥檙 ceisydd yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun
  • bu farw鈥檙 ymadawedig ar 么l mis 1 Hydref 2014

Ni allwch wneud cais ar-lein a bydd rhaid ichi wneud cais ar bapur os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • mae atwrnai yn cynrychioli鈥檙 ceisydd, o dan Reol 31
  • pan fo pob un sydd 芒 hawl wedi marw ac mae eu cynrychiolwyr personol cyfreithiol yn gwneud y cais
  • yn ymwneud ag ailselio o dan Ddeddfau Profiant Trefedigaethol 1892 a 1927, o dan reol 39
  • i鈥檞 weinyddu o dan bwerau dewisol y llys adran 116, o dan reol 52
  • pan fo鈥檙 un sydd 芒 hawl wedi鈥檌 gael yn euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad yr ymadawedig neu fel arall wedi fforffedu鈥檙 hawl i wneud cais

Llythyrau gweinyddu gydag ewyllys atodedig

Gallwch wneud cais ar-lein gyda MyHMCTS os bodlonir yr holl amodau hyn:

  • dim ond un ymgeisydd sydd ar gael a hwy yw鈥檙 unig unigolyn sydd 芒 hawl i鈥檙 ystad (yr ymgeisydd yw鈥檙 unigolyn a enwir ar y grant)
  • mae鈥檙 holl fuddiolwyr yn yr ewyllys a/neu鈥檙 codisiliau (y sawl fydd yn derbyn rhodd a鈥檙 sawl fydd yn cael y gweddill) dros 18 oed
  • mae鈥檙 ceisydd wedi鈥檌 enwi yn yr ewyllys a/neu鈥檙 codisiliau fel yr unig dderbyniwr cymynrodd neu gymynnwr neu鈥檙 unig dderbyniwr cymynrodd a chymynnwr
  • mae pob ysgutor, derbynwyr cymynrodd a chymynwyr sy鈥檔 dal yr ystad mewn ymddiriedolaeth wedi marw neu wedi dewis peidio 芒 gwneud cais

Rhaid i chi wneud cais ar bapur os yw鈥檙 cais:

  • am ail grant ar gyfer yr un ystad
  • am ewyllys tramor
  • ynghyd 芒 chais i brofi copi o鈥檙 ewyllys
  • ynghyd 芒 chais am gywiro ewyllys neu gael copi 鈥榝iat鈥� o鈥檙 ewyllys
  • ar gyfer cyplysiad gweinyddol, o dan reol 25
  • gyfer 2 unigolyn neu fwy sydd 芒鈥檙 un hawl, o dan reol 27 (3) i (8)
  • lle mae budd am oes

Sut i wneud cais

Os oes ewyllys dylid llenwi ffurflen gais PA1P ar gyfer ymarferwyr profiant proffesiynol.

Os nad oes ewyllys dylid llenwi ffurflen gais PA1A ar gyfer ymarferwyr profiant proffesiynol.

Gellir gwneud cais i atal cyhoeddi grant profiant hefyd.

Rhaid talu wrth wneud y cais.

拢300 yw鈥檙 ffi gwneud cais os yw gwerth yr ystad dros 拢5,000.

Nid oes ffi os yw gwerth yr ystad yn 拢5,000 neu鈥檔 llai.

Ar gyfer ail grant mewn ystad lle mae grant blaenorol wedi鈥檌 roi, y ffi yw 拢20, hyd yn oed os yw gwerth yr ystad yn 拢5,000 neu鈥檔 llai. Ar gyfer achosion gyda chyfyngiad tir a setlwyd, os yw gwerth yr ystad yn 拢5,000 neu鈥檔 llai, nid oes ffi, ac os yw werth dros 拢5,000, y ffi yw 拢300.

Gellir talu:

  • drwy anfon siec yn daladwy i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM gyda鈥檆h dogfennau
  • drwy nodi rhif eich Cyfrif Talu yn eich cais

Anfonwch eich ffurflen wedi鈥檌 llenwi at wasanaeth profiant GLlTEM gyda鈥檙 dogfennau a restrir yn y rhestr wirio ar y ffurflen.

Defnyddio ffurflen IHT400 i wneud cais

Anfonwch y ffurflen yn syth i Wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC):

Treth Etifeddu
Cyllid a Thollau EM
BX9 1HT

Arhoswch 15 diwrnod gwaith cyn cyflwyno鈥檆h cais i GLlTEM. Bydd cyflwyno鈥檙 IHT400 i Gyllid a Thollau EM ar yr un pryd 芒鈥檆h cais i GLlTEM yn achosi oedi.

Mae Cyllid a Thollau EM yn cymryd 15 diwrnod gwaith i brosesu鈥檙 IHT400 a chyhoeddi dogfen Treth Etifeddu 421 (IHT421). Ni fyddant yn dychwelyd yr IHT421 atoch - fe鈥檌 hanfonir yn uniongyrchol at GLlTEM.

Anfon eich cais

Dylech anfon eich dogfennau drwy wasanaeth post lle gofynnir am lofnod neu sydd 芒 threfn dracio ac sy鈥檔 danfon i flychau PO.

Ni allwn ddychwelyd yr ewyllys nac unrhyw ddiweddariadau iddi.

Ceisiadau yn Gymraeg

Cofrestrfa Brofiant Cymru
Y 3ydd Llawr, Llys Ynadon Caerdydd
Plas Fitzalan
Cardiff
CF24 0RZ

E-bost: [email protected]

Ceisiadau yn Saesneg

Newcastle District Probate Registry
2nd Floor
Kings Court
Earl Grey Way
North Shields
NE29 6AR

E-bost: [email protected]

Cymorth gyda鈥檆h cais

Gallwn ddarparu addasiadau rhesymol os oes gennych anableddau. Cysylltwch 芒 ni i ofyn am addasiad rhesymol neu am gymorth gyda鈥檆h cais.

贵蹿么苍

Llinell Gymraeg: 0300 303 0654 Dydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 5pm Dydd Gwener, 9am tan 4.30pm

Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost

[email protected]

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2024 show all updates
  1. Updated application fee if value of estate is over 拢5000.

  2. Added updated information on applying using the IHT400 form.

  3. Updated the phone line opening times

  4. Improved accessibility

  5. Updated April's bank holiday week opening times

  6. Updated probate helpline opening hours

  7. Edited the contact us section - The Probate helpline is closed on Saturdays.

  8. Updated probate fees

  9. Added translation

Argraffu'r dudalen hon