Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth wedi ei 么l-ddyddio os ydych yn fenyw drawsryweddol
Efallai bydd menywod trawsryweddol a anwyd rhwng 31 Hydref 1953 a 6 Tachwedd 1953 yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth o 31 Hydref 2018 hyd at ddyddiad eu pen-blwydd yn 65 oed.
Cymhwysedd
Efallai y bydd gennych hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth wedi ei 么l-ddyddio os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol:
- cawsoch eich geni rhwng 31 Hydref 1953 a 6 Tachwedd 1953
- roeddech wedi byw yn eich rhywedd a gaffaelwyd am o leiaf 2 flynedd erbyn 31 Hydref 2018
- rydych wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd
Mae hyn oherwydd bod dyfarniad llys yn golygu bod rhaid cydnabod unigolyn trawsryweddol sydd wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd ac wedi byw yn ei ryw a gaffaelwyd am gyfnod sylweddol yn ei ryw a gaffaelwyd at ddibenion Pensiwn y Wladwriaeth.
Sut i wneud cais
Cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn a gofynnwch am ffurflen mynegi diddordeb.
Y Gwasanaeth Pensiwn
Cymraeg:
Ff么n Cymraeg: 0800 731 0453
Ff么n testun Cymraeg: 0800 731 0456
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 3.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Saesneg:
Ff么n Saesneg: 0800 731 0469
Ff么n o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU: +44 (0)800 731 0469
Ff么n testun Saesneg: 0800 731 0464
(os na allwch glywed na siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 731 0469
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
E-bost:
[email protected]
Trwy鈥檙 post:
GR Team (iyn gyfrinachol)
Newcastle Pension Centre
TJ001
Tyneview Park
Benton
Tyne and Wear
NE98 1BA
Beth fyddwch ei angen i wneud cais
Pan ddychwelwch y ffurflen, bydd angen i chi anfon prawf eich bod wedi bod yn byw yn eich rhywedd a gaffaelwyd am o leiaf 2 flynedd erbyn 31 Hydref 2018. Gallai hyn gynnwys cop茂au o鈥檆h:
- pasbort
- trwydded yrru
- slipiau cyflog
- dogfennau budd-daliadau
- biliau cyfleustodau
- dogfennau swyddogol eraill
Mae rhaid i鈥檙 holl ddogfennau fod yn eich enw a鈥檆h rhywedd a gaffaelwyd. Mae rhaid bod y ddogfen gynharaf wedi ei dyddio cyn 31 Hydref 2016.
Bydd angen i chi hefyd anfon prawf eich bod wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd, er enghraifft llythyr gan eich meddyg.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Cewch lythyr a fydd yn dweud wrthych a oes gennych hawl i 么l-ddyddio Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes gennych hawl, telir unrhyw arian sy鈥檔 ddyledus i chi.