Apelio eich prawf gyrru
Gallwch apelio at lys ynghylch eich prawf gyrru os nad oedd eich arholwr wedi dilyn y gyfraith, ond ni ellir newid canlyniad eich prawf.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Gallwch apelio at lys os credwch na ddilynodd eich arholwr gyrru鈥檙 gyfraith ynghylch sut y mae鈥檔 rhaid iddynt gynnal profion gyrru.
Ni all y llys newid canlyniad eich prawf. Os byddwch yn ennill eich ap锚l, gallant benderfynu y dylech naill ai鈥檔:
- cael sefyll eich prawf eto am ddim
- derbyn ad-daliad o ffi eich prawf
Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol sylweddol os byddwch yn colli鈥檆h ap锚l.
Mae鈥檔 fwy cyflym ac yn haws gwneud cwyn i鈥檙 Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) os oes gennych brawf na ddilynodd eich prawf y gyfraith.
Sicrhau bod gennych sail i apelio n erbyn y penderfyniad
Gallwch dderbyn cyngor cyfreithiol i鈥檆h helpu i sicrhau a oes gennych sail i apelio.
Gallwch apelio os na ddilynodd eich arholwr gyrru鈥檙 gyfraith. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau fel:
- ni wiriodd yr arholwr eich golwg ar ddechrau鈥檙 prawf
- fe wnaethoch dreulio llai na 30 munud ar y ffordd
- ni ofynnodd yr arholwr i chi wneud ymarfer bacio
- ni ofynnodd yr arholwr y cwestiynau 鈥榙angoswch i mi, dywedwch wrthyf鈥�
Ni allwch apelio os na chyflawnwyd rhywbeth oherwydd i鈥檙 arholwr ddod 芒鈥檙 prawf i ben oherwydd bod eich gyrru鈥檔 beryglus.
Gwiriwch y darnau hyn o ddeddfwriaeth i gael y rhestr lawn o鈥檙 hyn roedd yn rhaid i鈥檆h arholwr gyrru ei gynnwys:
- os sefoch brawf cymhwyso fel hyfforddwr gyrru cymeradwy (ADI)
Rhesymau na ddylech apelio
Ni fydd eich ap锚l yn llwyddiannus os:
- ydych yn anghytuno 芒 chanlyniad eich prawf
- ydych yn anghytuno 芒 barn eich arholwr gyrru
- ydych yn credu nad oedd yn deg bod yr arholwr wedi nodi camsyniad peryglus neu ddifrifol
- nad oeddech yn hoffi eich arholwr gyrru
- oeddech yn teimlo鈥檔 s芒l yn ystod y prawf
- oedd eich car wedi torri i lawr yn ystod y prawf
- oedd defnyddiwr arall y ffordd wedi gwneud rhywbeth o鈥檌 le ac na wnaethoch ymateb iddo鈥檔 gywir
Mae proses wahanol i wneud cwyn ynghylch eich arholwr gyrru, er enghraifft, os oeddech yn meddwl eu bod yn anghwrtais i chi. Ni all y DVSA newid canlyniad eich prawf.
Apelio yn erbyn y penderfyniad
Mae sut rydych yn apelio yn erbyn y penderfyniad yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Lloegr a Chymru
Cysylltwch 芒鈥檆h llys ynadon lleol o fewn 6 mis ar 么l eich prawf gyrru i apelio yng Nghymru a Lloegr.
Yr Alban
Cysylltwch o fewn 21 niwrnod ar 么l eich prawf gyrru i apelio yn yr Alban.
Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi
Dywedwch wrth y llys eich bod am apelio am eich prawf gyrru o dan adran 90 y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.
Os byddwch yn apelio yn erbyn canlyniad prawf cymhwyso fel ADI, mae angen i chi apelio o dan adran 133 y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn lle hynny.
Pan fyddwch yn llenwi unrhyw ffurflenni llys ynghylch pwy rydych yn apelio yn ei erbyn (鈥榶 diffynnydd鈥�), defnyddiwch y manylion hyn:
Central Policy
DVSA
1 Unity Square
Nottingham
NG2 1AY
Pan fyddwch yn apelio, bydd o gymorth os byddwch yn esbonio:
- pa adran o鈥檙 gyfraith na ddilynodd yr arholwr gyrru
- ym mha fodd na ddilynodd yr arholwr gyrru鈥檙 gyfraith
Mynd i鈥檙 ap锚l
Bydd y llys yn ysgrifennu atoch gyda鈥檙 manylion ynghylch pryd y cynhelir y gwrandawiad. Bydd y llythyr yn dweud wrthych beth i鈥檞 wneud ar y diwrnod.
Bydd barnwr, ynad neu siryf yn gwrando ar eich ap锚l yn y llys.
Gallwch ofyn i gyfreithiwr i鈥檆h cynrychioli yn y gwrandawiad, ond fel arfer bydd yn rhaid i chi eu talu.
Bydd y llys fel arfer yn gwrthod eich ap锚l os na fyddwch yn mynd i鈥檙 gwrandawiad.
Rhoi tystiolaeth
Efallai y gofynnir i chi:
- sut rydych yn meddwl na ddilynodd yr arholwr gyrru鈥檙 gyfraith yn ystod eich prawf
- rhoi tystiolaeth
- ateb cwestiynau am eich prawf (a elwir yn 鈥榞roesholi鈥�)
Yn y mwyafrif o achosion, bydd gan y DVSA gynrychiolydd cyfreithiol yn y llys. Mewn rhai achosion, mae鈥檔 bosibl y bydd yr arholwr gyrru yn y gwrandawiad hefyd i roi tystiolaeth ac ateb cwestiynau.
Yr hyn sydd angen i chi ei ddangos i鈥檙 llys
Mae angen i chi brofi ei bod yn fwy tebygol na pheidio na ddilynodd yr arholwr gyrru鈥檙 gyfraith.
Derbyn canlyniad eich ap锚l
Fel rheol bydd y llys yn dweud wrthych am ganlyniad eich ap锚l ar ddiwedd y gwrandawiad.
Os byddwch yn ennill eich ap锚l
Ni all y llys newid canlyniad eich prawf os byddwch ychi鈥檔 ennill eich ap锚l.
Bydd yn dyfarnu y dylech naill ai:
- cael sefyll eich prawf eto am ddim
- derbyn ad-daliad o ffi eich prawf
Bydd y DVSA yn cysylltu 芒 chi os byddwch yn ennill eich ap锚l.
Os byddwch yn colli鈥檆h ap锚l
Bydd angen i chi drefnu a thalu am sefyll eich prawf gyrru eto os byddwch yn colli鈥檆h ap锚l.
Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol sylweddol os byddwch yn colli鈥檆h ap锚l.