Apelio yn erbyn penderfyniad iawndal gwaed heintiedig
Ap锚l yn erbyn penderfyniad iawndal gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).
Trosolwg
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad am eich cais cynllun iawndal gwaed heintiedig.
Penderfynir ar apeliadau gan y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant a gefnogir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF). Mae鈥檙 tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth a鈥檙 Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).
Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar 么l adolygu鈥檙 holl dystiolaeth a gwrando ar y ddwy ochr.
Cyn i chi apelio
Rhaid i chi ofyn i鈥檙 penderfyniad am eich cais gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio - gelwir hyn yn 鈥榩enderfyniad adolygu鈥�. Ar 么l yr adolygiad, bydd hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon atoch gyda chanlyniad yr adolygiad.
Sut i apelio
Nid yw鈥檔 costio arian i apelio yn erbyn penderfyniad gan y Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig.
Rhaid i chi apelio i鈥檙 tribiwnlys o fewn un mis calendr i chi gael eich hysbysiad o benderfyniad adolygu. Os yw eich ap锚l yn hwyrach nag un mis calendr, bydd yn rhaid i chi esbonio pam a bydd y tribiwnlys yn penderfynu a all eich ap锚l fynd yn ei blaen.
Penderfynir ar eich ap锚l mewn gwrandawiad tribiwnlys, a gallwch ddewis p鈥檜n a ydych am fynd i鈥檙 gwrandawiad hwnnw ai peidio.
Cymorth a chyngor
Gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim gan:聽
Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.
Cyflwyno eich ap锚l
I apelio i鈥檙 tribiwnlys bydd arnoch angen:
-
eich cyfeirnod IBCA
-
manylion y cynrychiolydd sy鈥檔 eich helpu gyda鈥檆h ap锚l (os ydych yn defnyddio un)
-
eich hysbysiad o benderfyniad adolygu - bydd hwn yn cael ei anfon atoch ar 么l i chi ofyn i benderfyniad yr IBCA gael ei ailystyried
Dechrau eich ap锚l
Apelio drwy鈥檙 post
Gwneud cais am ffurflen ap锚l
I apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch iawndal gwaed heintiedig, ffoniwch y rhif perthnasol i ofyn am ffurflen apelio.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu dramor
Ffoniwch: 0300 1312850
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 4pm
Gwybodaeth am brisiau galwadau
Os ydych yn byw yn yr Alban
Ffoniwch: 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am to 5pm
Gwybodaeth am brisiau galwadau
Ar gyfer siaradwyr Cymraeg
Ffoniwch: 0300 303 5170
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am to 5pm
Gwybodaeth am brisiau galwadau
Cofrestru cynrychiolydd i helpu gyda鈥檆h ap锚l
Gallwch enwebu rhywun fel 鈥榗ynrychiolydd鈥� i鈥檆h helpu gyda鈥檆h ap锚l. Gall cynrychiolydd:
-
eich helpu i gyflwyno eich ap锚l neu baratoi eich tystiolaeth
-
gweithredu ar eich rhan
-
rhoi cyngor i chi
Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy lyfrgell leol neu o sefydliad yn eich ardal sy鈥檔 rhoi cyngor ar geisiadau Iawndal Gwaed Heintiedig, megis .
Bydd gan eich cynrychiolydd ganiat芒d i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Bydd yr holl wybodaeth am eich ap锚l yn cael ei hanfon atynt, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.
I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:
-
enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno eich ap锚l
-
cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar 么l i chi gyflwyno eich ap锚l