Archwiliad crynhoad anifeiliaid
Gwybodaeth i ganolfannau casglu a pherchenogion meysydd sioe am archwiliadau a gynhelir ar safleoedd lle y caiff da byw eu crynhoi.
Pwy sy鈥檔 cael ei archwilio
Dim ond os byddwch yn cyflwyno cais neu gais i adnewyddu i weithredu fel canolfan gasglu neu faes sioe y cewch eich archwilio. Cynhelir y rhan fwyaf o archwiliadau ar safleoedd penodedig (nad ydynt yn ffermydd) megis tir cyhoeddus a ddefnyddir ar gyfer sioeau.
Os ydych yn adnewyddu eich cais, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cynnal asesiad risg er mwyn penderfynu a oes angen archwiliad.
Beth sy鈥檔 cael ei archwilio
Caiff safleoedd sy鈥檔 gwneud cais am drwydded crynhoi anifeiliaid eu harchwilio ar adeg y cais. Mae鈥檙 arolygydd yn asesu addasrwydd y safle ar gyfer y crynhoad, gan gynnwys:
- arwynebau y gellir eu glanhau a鈥檜 diheintio
- y pellter gwahanu oddi wrth weithgarwch anifeiliaid cyfagos
Amser a hyd
Mae archwiliadau yn cymryd rhwng 1 a 4 awr. Cytunir ar amser cyfarfod 芒 gweithredwr y safle.
Mae cymeradwyaethau yn para am flwyddyn.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Mae arolygwyr APHA yn anfon cop茂au o ddogfennau perthnasol, megis y drwydded, i鈥檙 cyngor lleol gyda chyfundrefn cydymffurfio ac archwilio a argymhellir.
Mae鈥檔 bosibl y bydd archwiliadau dilynol, a gynhelir fel arfer gan eich awdurdod lleol.
Bydd y cyngor a roddir i chi gan yr arolygwyr yn gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau. Os byddwch wedi torri unrhyw reolau mae鈥檔 bosibl y cewch eich cyfeirio ar yr awdurdod lleol er mwyn iddo ymchwilio i鈥檙 mater, o bosibl.