Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Sgipio cynnwys

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais o 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir eich babi. Y diweddaraf y gallwch wneud cais yw 6 mis ar 么l i鈥檆h babi cael ei geni.

Os ydych yn dod yn gyfrifol am blentyn, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais o fewn 6 mis i hyn ddigwydd. Er enghraifft, os ydych yn mabwysiadu plentyn, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais o fewn 6 mis i鈥檙 plentyn yn cael ei osod gyda chi.

Gwneud cais trwy鈥檙 post

Argraffwch a llenwch y ffurflen gais Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (SF100W).

Mae angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o鈥檙 beichiogrwydd neu鈥檙 enedigaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol (fel meddyg neu fydwraig). Gallant naill ai:

  • llenwi ffurflen MAT B1 (dylai fod ganddynt gopi o鈥檙 ffurflen yn barod)
  • ysgrifennu datganiad yn cadarnhau鈥檙 beichiogrwydd neu鈥檙 enedigaeth

Postiwch eich ffurflen gyda鈥檙 dystiolaeth o鈥檙 beichiogrwydd neu鈥檙 enedigaeth i 鈥楩reepost DWP SSMG鈥�. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.

Gallwch anfon eich ffurflen heb dystiolaeth o鈥檙 beichiogrwydd neu鈥檙 enedigaeth os bydd angen i fodloni鈥檙 terfyn amser. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwn yn cysylltu 芒 chi ynghylch trefnu cael y dystiolaeth hon yn nes ymlaen.

Mae yna .

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych os yw鈥檆h cais yn llwyddiannus o fewn 28 diwrnod i鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) dderbyn eich ffurflen a thystiolaeth. Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar, gallai gymryd mwy o amser.

Cael help gyda鈥檆h cais

Ffoniwch linell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Llinell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Ff么n: 0800 169 0240
Ff么n Testun: 0800 169 0286
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 169 0240
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Llinell Saesneg: 0800 169 0140
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gallwch hefyd cysylltu 芒鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith.

Ffurfiau gwahanol

Ffoniwch linell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i ofyn am ffurfiau gwahanol, fel braille, print bras neu CD sain.

Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad

Gallwch herio鈥檙 penderfyniad am eich cais. Mae hyn yn cael ei adnabod fel gofyn am ailystyriaeth orfodol.