Anerchiad

Ysgrifennydd Cymru yn galw am addysg gryfach a mwy uchelgeisiol yng Nghymru

Stephen Crabb yn nodi'r her sgiliau sy鈥檔 wynebu Cymru mewn araith bwysig ar addysg.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

Gwirio yn erbyn yr araith a wnaed:

Mae鈥檔 braf bod yn 么l yma ym Mhencoed ac yn y ganolfan ragoriaeth wych hon ym maes Technoleg Ddigidol.

Does dim ond raid inni edrych ar Sony yma ym Mhencoed i gael ein hatgoffa o鈥檙 hyn y gall Cymru ei gynnig mewn oes o weddnewidiadau economaidd a chymdeithasol sy鈥檔 cael eu sbarduno gan dechnoleg.

Mae Sony wedi bod yn rhan bwysig o鈥檙 dirwedd economaidd yn Ne Cymru ers dros 40 mlynedd erbyn hyn, ac mae wedi dal ati a ffynnu drwy sawl cylch economaidd, gan ailddyfeisio ei fodel busnes, ac aros ar flaen y gad yn y maes cynhyrchu uwch-dechnoleg.

Mae鈥檙 safle hefyd yn gartref i鈥檙 Raspberry Pi - y cyfrifiadur maint cerdyn credyd sy鈥檔 creu ychydig o chwyldro yn y ffordd y mae plant yn dysgu sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol ac mae鈥檔 cael ei gynhyrchu yma ym Mhencoed.

A gadewch imi s么n am fy merch, a ddaeth adref o鈥檙 ysgol ar ddiwrnod cyntaf y tymor a dweud ei bod wedi ymuno 芒 Chlwb y Raspberry Pi - pan ofynnodd imi a oeddwn yn gwybod beth oedd clwb o鈥檙 fath, roeddwn yn gallu dweud fy mod. Ac yn fwy na hynny, roeddwn yn gallu dweud wrthi ei fod yn cael ei wneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn gynnyrch rwy鈥檔 falch iawn ohono.

Ond dysgais ddoe bod Raspberry Pi 2 newydd ar gael erbyn hyn - mewn ymateb i鈥檙 galw enfawr o bob rhan o鈥檙 byd a chynnydd arbennig mewn gwerthiannau sy鈥檔 creu 30 swydd newydd yma ym Mhencoed.

Ni allech gael lle gwell ar gyfer ystyried r么l addysg a sgiliau yn sbarduno llwyddiant economaidd Cymru i鈥檙 dyfodol.

Bedair wythnos yn 么l, clywodd rai ohonoch fy nisgrifiad o faint yr her economaidd sy鈥檔 wynebu Cymru.

Yn yr araith honno, siaradais am y cynllun hirdymor y mae llywodraeth y DU wedi bod yn ei roi ar waith ar gyfer yr economi dros y pum mlynedd diwethaf a pham fy mod yn credu mai鈥檙 cynllun hwn yw cyfle gorau Cymru i symud oddi ar waelod tabl cynghrair economaidd y DU.

Yn yr araith honno, siaradais am ailgydbwyso鈥檙 economi sydd wrth wraidd ein cynllun economaidd鈥�

鈥� ailgydbwyso ein heconomi i greu sylfaen gryfach a mwy diogel ar gyfer twf; y math o dwf a fydd yn creu ac yn lledaenu cyfoeth yn fwy cynaliadwy ac yn decach ar draws pob rhan o鈥檙 DU - gan gynnwys yma yng Nghymru.

Siaradais bryd hynny am y rhesymau dros fod yn optimistaidd am ddyfodol Cymru, y ffaith ein bod wedi gweld 20,000 o swyddi gweithgynhyrchu yn cael eu creu yma yng Nghymru ers 2010, gyda dros 5,000 o swyddi newydd yn y sector gweithgynhyrchu uwch yn unig鈥�

Mae鈥檙 broses o ailgydbwyso鈥檙 economi ar waith erbyn hyn, ac mae鈥檔 dechrau dwyn ffrwyth go iawn i Gymru.

Ond yn yr araith honno, siaradais hefyd am rai o鈥檙 cwestiynau difrifol y mae angen inni roi sylw iddynt yng Nghymru os ydym i wireddu鈥檙 weledigaeth economaidd hon.

Heddiw, hoffwn ystyried un yn unig o鈥檙 cwestiynau hyn yn fwy manwl - ac o bosib yr un mwyaf difrifol ohonynt i gyd.

Oherwydd rwy鈥檔 credu mai鈥檙 hyn a fydd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol fydd ein gallu i harneisio gwybodaeth, gwella ein lefelau sgiliau a chreu tir ffrwythlon ar gyfer arloesi yng Nghymru.

A bydd llwyddiant ein system addysg yn greiddiol i hyn.

Mae rhai yn rhybuddio yn erbyn cysylltu addysg bob amser 芒 nodau economaidd neu nodau yn ymwneud 芒鈥檙 gweithle. Ac maent yn iawn wrth gwrs. Mae addysg a dysgu yn gynhenid werthfawr ar eu telerau鈥檜 hunain. Ond, yma yng Nghymru, ni chredaf fod digon o ffocws wedi bod ar swyddogaeth hanfodol addysg mewn perthynas 芒鈥檔 perfformiad economaidd.

Yn aml, mae addysg yn cael ei thrin fel is-set o ddadleuon ehangach am wasanaethau cyhoeddus - ac am rai rhesymau da. Ond efallai nad ydym wedi dangos pa mor bwysig ydy addysg fel rhywbeth sy鈥檔 sbarduno llwyddiant economaidd hirdymor.

Ni chredaf mai damwain yw鈥檙 ffaith y dyfarnwyd mai Ffindir a Singapore, y ddwy wlad y barnwyd bod ganddynt y systemau addysg gorau yn y byd, yw鈥檙 ail a鈥檙 drydedd economi fyd-eang fwyaf cystadleuol gan Fforwm Economaidd y Byd.

Ac nid cyd-ddigwyddiad yw鈥檙 ffaith mai鈥檙 gwledydd hynny, dros y 50 mlynedd diwethaf, sydd wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn gwella sgiliau eu pobl sydd wedi gweld y twf cyflymaf.

Mae gwledydd fel y Swistir, yr Almaen, Singapore a Japan 鈥� rhai o econom茂au mwyaf cystadleuol y byd- i gyd yn cael sg么r uchel ar fynegai addysg yr OECD.

Ac mewn oes pan mae cyfalaf byd-eang yn symudol iawn, a gweithwyr fwyfwy hefyd, nid dim ond ymarfer damcaniaethol ydy cymariaethau rhyngwladol. Maent yn wirioneddol bwysig o ran y penderfyniadau sy鈥檔 cael eu gwneud am fewnfuddsoddi.

Wrth i鈥檙 economi fyd-eang barhau i newid, bydd lefelau addysg a sgiliau yn dod yn ffactor pwysicach byth ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch mewnfuddsoddi.

Ac rydym yn gwybod nad yw鈥檙 byd yn aros yn ei unfan.

Mae ein cystadleuwyr, ein partneriaid masnachu, y gwledydd 芒 mantolenni mawr a fydd gobeithio yn dod i fuddsoddi yng Nghymru 鈥� maent i gyd yn gwybod hyn.

Dyna pam mae ein gweledigaeth o economi wedi鈥檌 hailgydbwyso yn canolbwyntio gymaint ar addysg a sgiliau 鈥� ac ar y math iawn o addysg a sgiliau.

Mae鈥檔 egluro鈥檙 pwyslais cryf rydym yn ei roi ar drylwyrder a safonau yn yr ysgolion. Gan adeiladu ar y diwygiadau a gyflwynwyd gan Tony Blair dros ddegawd yn 么l, rydym wedi parhau i ehangu鈥檙 rhaglen academ茂au a diwygio鈥檙 cwricwlwm.

Dyna pam rydym wedi achub prentisiaethau o domen y sector addysg drwy roi mwy o sylw i鈥檙 llwybr galwedigaethol a鈥檌 hyrwyddo, a chreu dros 2 filiwn yn fwy o brentisiaethau ers 2010 a gwella ansawdd cyrsiau galwedigaethol.

Ac rwy鈥檔 credu bod Cymru angen y math hwn o ffocws gymaint ag unrhyw le arall 鈥� yn fwy efallai.

Oherwydd, gadewch inni fod yn onest a gweld y ffeithiau fel y maent.

Mae ein perfformiad economaidd yn dal ar waelod tabl cynghrair y DU.

Ac rwy鈥檔 cas谩u hynny.

Ie, cafwyd rhywfaint o symudiad cadarnhaol iawn o ran twf a chyflogau go iawn, ond mewn gwirionedd mae gennym gryn ffordd i fynd cyn inni gau鈥檙 bwlch rhyngom a gweddill y DU.

Ie, mae鈥檙 darlun economaidd yng Nghymru yn gwella, ond rydym yn cychwyn o sylfaen is.

Ac os ydych chi 鈥� fel fi 鈥� yn credu yn y berthynas hon rwyf wedi鈥檌 disgrifio rhwng canlyniadau addysgol a llwyddiant economaidd, fe ddylen ni fod yn gofyn rhai cwestiynau anodd iawn am dueddiadau addysgol Cymru dros y genhedlaeth ddiwethaf.

Mae wedi cael ei ddweud sawl gwaith o鈥檙 blaen y bydd llwyddiant yn yr 21ain ganrif yn dod i ran yr econom茂au hynny a fydd yn gallu defnyddio gwybodaeth ac arloesedd yn fwyaf llwyddiannus.

Os ydym yn wirioneddol gredu鈥檙 datganiad hwnnw, mae angen inni ystyried ein record yn ofalus iawn a bod yn barod i ddod i gasgliadau clir 鈥� a鈥檙 cyntaf ohonynt yw nad ydym wedi bod yn ddigon uchelgeisiol o ran ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.

Nid pan fyddwch yn ei gymharu 芒鈥檔 perfformiad yn y gorffennol; nid pan fyddwch yn ei gymharu 芒鈥檔 cymdogion yn y DU ac yn Ewrop ar hyn o bryd; ac nid pan fyddwch yn ei gymharu 芒鈥檙 hyn a fydd, mi gredaf, yn heriau inni i鈥檙 dyfodol.

Nid hanner digon uchelgeisiol.

A phan rwy鈥檔 s么n am y diffyg yn ein dyheadau 鈥� nid cyhuddiad gen i yw hyn 鈥� mae鈥檔 dod yn syth o鈥檙 gymuned fusnes yma yng Nghymru.

Rwy鈥檔 ymweld 芒 busnesau ymhob rhan o Gymru bob wythnos i ddysgu am yr heriau maent yn eu hwynebu ac i weld beth yn rhagor y gellir ei wneud i鈥檞 cefnogi wrth iddynt arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru. A phob wythnos, rwy鈥檔 clywed galwad cyfarwydd am i rywbeth gael ei wneud i wella safonau sgiliau pobl ifanc sy鈥檔 cychwyn gweithio 鈥� neu rwy鈥檔 clywed am fylchau penodol iawn mewn sgiliau mewn rhannau gwerthfawr o鈥檙 economi lle mae cyfleoedd gwaith o safon ar gael sy鈥檔 cynnig cyflogau da鈥� ond lle nad yw鈥檙 sgiliau ar gael yn y gweithlu lleol.

Clywn hyn gan CBI Cymru, a luniodd adroddiad ym mis Hydref y llynedd yn cyfuno鈥檙 holl bryderon gan fusnesau am addysg yng Nghymru.

A鈥檜 casgliad?

鈥淢ae addysg yn fater o bwysigrwydd eithriadol i Gymru, a bydd yn parhau felly鈥� mae gormod o bobl ifanc, am ormod o amser, wedi cael eu gadael i lawr gan y system.鈥�

Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr hefyd wedi cyfeirio鈥檔 flaenorol at lefelau sgiliau 鈥渄ychrynllyd o isel鈥� ymysg pobl ifanc Cymru.

Os ydym yn barod i wynebu鈥檙 ffeithiau, rhaid inni ddod i鈥檙 casgliad nad ydym yn gwneud yn ddigon da o ran addysg ein talent ifanc yng Nghymru.

Ychydig fisoedd yn 么l, es i un o brif ffatr茂oedd peirianneg Cymru - cyflogwr rhanbarthol mawr a rhan o gwmni byd-eang. Cefais fy ngwahodd i gymryd rhan yn y seremoni graddio ar gyfer eu prentisiaid ar eu blwyddyn olaf. Ar 么l y seremoni, fe鈥檓 synnwyd gan daith addysgol rhai o鈥檙 prentisiaid hyn. Roedd rhai ohonynt yn eu hugeiniau hwyr, ac wedi graddio鈥檔 barod o鈥檙 Brifysgol, a chael eu hunain yn ddi-waith gyda鈥檙 hyn a ddisgrifiwyd ganddynt yn awr fel graddau 鈥渄iwerth鈥�, ac wedi dewis ailgychwyn gyda phrentisiaeth bedair blynedd o safon.

I鈥檙 oedolion ifanc hyn, y brentisiaeth oedd eu hail gyfle; y peth sydd wedi gweddnewid eu cyfleoedd bywyd a鈥檜 potensial ar gyfer ennill arian 鈥� yn fwy na鈥檙 llythrennau academaidd ar 么l eu henwau.

[y cyd-destun gwleidyddol wedi鈥檌 dynnu]

Ac rwyf wedi cael y fraint o weld sawl cynllun prentisiaeth ardderchog ledled Cymru yn y chwe mis diwethaf.

Yma ym Mhencoed mae Academi Sony Cymru, sy鈥檔 hyfforddi鈥檙 genhedlaeth nesaf o arweinwyr, peirianwyr, rheolwyr a thechnegwyr.

Un o鈥檓 hymweliadau cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf oedd i Airbus ym Mrychdyn lle cefais daith o gwmpas y ffatri gyda rhai o鈥檜 prentisiaid. Gallech fod wedi tybio mai rheolwyr profiadol oedd y bobl ifanc 鈥� o weld dyfnder eu hangerdd a鈥檙 wybodaeth y gwnaethant ei dangos am fusnes Airbus.

A chredaf fod arweinwyr busnes y dyfodol yr un mor debygol o ddod o lawr y ffatri ag o brifysgol neu ysgol fusnes. Yn wir, mae Sony yn enghraifft dda: mae tri o鈥檙 pum person ar y bwrdd gweithredol yn gyn brentisiaid.

A dyna beth mae鈥檙 Prif Weinidog yn ei olygu pan mae鈥檔 dweud y dylai cyflogwyr allu edrych ar rywun sydd 芒 phrentisiaeth a rhywun sydd 芒 gradd a pheidio 芒 rhoi barn ar werth o ran pwy sydd 芒鈥檙 cymhwyster gorau.

Rydym yn codi statws addysg alwedigaethol.

Fel y dywedodd David Cameron: 鈥淢ae prentisiaethau wrth galon ein cenhadaeth i ailadeiladu鈥檙 economi, gan roi cyfle i bobl ifanc ddysgu crefft, datblygu eu gyrfaoedd a chreu gweithlu gwirioneddol fyd-eang, hyfedr sy鈥檔 gallu cystadlu a ffynnu yn y ras fyd-eang ffyrnig sydd ohoni.鈥�

Credaf fod adfer a dyrchafu sgiliau galwedigaethol yn un o brif gyflawniadau鈥檙 Llywodraeth Glymblaid hon.

Hyd yn oed yng nghanol anawsterau economaidd, rydym wedi gweld dwy filiwn o brentisiaethau newydd yn cael eu creu. Mae hyn yn weddnewidiol 鈥� ac rydym yn benderfynol o fynd ymhellach. Yn wir, mae鈥檙 Prif Weinidog am weld tair miliwn o brentisiaethau newydd yn cael eu creu erbyn 2020.

Ond nid y cynlluniau prentisiaeth o鈥檙 radd flaenaf a gynigir gan gwmn茂au fel Airbus a Sony ddylai fod yr enghreifftiau sy鈥檔 cael sylw yng Nghymru 鈥� y rhain ddylai fod y meincnod 鈥� safon rhagoriaeth yng Nghymru ar gyfer pob prentisiaeth.

Mae hynny鈥檔 bod yn uchelgeisiol.

Ac felly mae angen ymrwymiad arnom gan Lywodraeth Cymru sydd o leiaf yr un mor gryf 芒鈥檙 un sy鈥檔 cael ei roi gan ein Prif Weinidog ar gyfer ehangu nifer y prentisiaethau ledled Cymru, a gwella鈥檜 hansawdd.

Ond pan fyddwn yn siarad am sgiliau galwedigaethol, rydym wrth gwrs yn aml yn meddwl am sgiliau ymarferol a thechnegol.

Ond un o鈥檙 sgiliau galwedigaethol mwyaf pwysig yw gallu darllen ac ysgrifennu鈥檔 dda a bod yn hyderus gyda mathemateg sylfaenol. Gwn am gwmn茂au lle mae ennill gradd C o leiaf mewn cymhwyster TGAU Mathemateg a Saesneg yn rhan o鈥檜 prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc. Mae鈥檙 rhain hefyd yn sgiliau galwedigaethol.

Ac rydym yn twyllo鈥檔 hunain os ydym yn credu na allwn wneud yn well mewn perthynas 芒 lefelau sgiliau sylfaenol y gweithlu ar draws y DU. Dyna鈥檔 union beth oedd y Prif Weinidog yn cyfeirio ato ddoe pan ddywedodd nad yw cyffredinedd yn dderbyniol 鈥� dyma鈥檙 trafodaethau anodd rydym yn eu cael ar lefel llywodraeth y DU a dylent fod yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru hefyd.

Oherwydd dywed dros 40 y cant o fusnesau yng Nghymru nad oes gan eu gweithwyr y sgiliau llythrennedd sylfaenol gofynnol.

Dyma鈥檙 gwirionedd anghyfleus yr ydym naill ai鈥檔 ymrwymo i roi sylw iddo yng Nghymru neu 鈥� unwaith eto 鈥� yn ei anwybyddu oherwydd dyna鈥檙 llwybr haws i鈥檞 gymryd.

Gadewch inni ystyried astudiaeth ryngwladol yr OECD ar gyflawniad academaidd, Pisa, sy鈥檔 cymharu cyflawniad academaidd rhyngwladol.

Unwaith eto, roedd y canlyniadau diweddaraf yn dangos bod Cymru yn gwneud yn salach na gweddill y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Ond nid dim ond yn salach na gweddill y DU 鈥� ond yn salach na chyfartaledd yr OECD.

Yn hytrach na chael ein cymharu 芒 gwledydd fel Japan, De Korea, UDA a鈥檙 Almaen, rydym wedi bod yn gostwng yn y tabl, gan wneud yn waeth nag Estonia, Slofenia, Latfia a Gwlad Pwyl. Dyma鈥檙 gwledydd y mae eu pobl ifanc yn cystadlu鈥檔 uniongyrchol 芒鈥檔 pobl ifanc ni am swyddi鈥檙 dyfodol.

Rwyf am i blant Cymru dyfu yn gwybod y gallent fod yn gweithio ar y Chwiliedydd Gofod Rosetta, neu鈥檔 dylunio cerbydau modur y dyfodol, neu鈥檔 gweithio yma yn Sony yn datblygu technoleg wych sy鈥檔 gwella bywydau pobl mewn ffyrdd gwahanol.

Felly, ar wah芒n i sgiliau sylfaenol: TG, rhaglennu a pheirianneg meddalwedd sydd ar frig y rhestr blaenoriaethau yng nghyswllt sgiliau Cymru. Bydd y galw am sgiliau gwell a sgiliau lefel uwch yn parhau i dyfu wrth inni ddatblygu鈥檙 cynnyrch a鈥檙 gwasanaethau yr ydym eu hangen yn yr 21ain Ganrif.

Canfu astudiaeth gan Gomisiwn y DU dros Addysg a Sgiliau fod dros un rhan o dair o fusnesau yng Nghymru yn credu mai TG fydd y sgil bwysicaf y byddant ei hangen yn y dyfodol.

Ond yma yng Nghymru gwelwyd gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy鈥檔 astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol ac yn astudio TG mewn ysgolion.

Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn rhagweld y bydd y DU erbyn 2022 angen 2 filiwn yn ychwanegol o reolwyr, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cyswllt.

Mae鈥檙 Academi Beirianneg Frenhinol yn amcangyfrif y bydd Prydain angen 640,000 o raddedigion peirianneg newydd erbyn 2020.

Bydd y rhain yn swyddi o safon ac rwy鈥檔 llawn uchelgais ac yn awyddus i bobl ifanc Cymru gael eu cyfran deg o鈥檙 cyfleoedd hyn. Ond wrth edrych ar nifer y disgyblion yng Nghymru sy鈥檔 astudio Mathemateg neu鈥檙 gwyddorau ar gyfer Safon Uwch, y gwirionedd eto ydy nad ydy pethau鈥檔 edrych yn addawol iddynt heb inni feddwl yn ddifrifol o鈥檙 newydd.

Neu ystyriwch sgiliau iaith fodern.

Ychydig flynyddoedd yn 么l y gred oedd mai Saesneg fyddai iaith arferol busnes byd-eang ac y byddai p诺er Microsoft a鈥檙 rhyngrwyd yn lleihau鈥檙 angen am sgiliau iaith.

Ond i鈥檙 gwrthwyneb. Yn yr economi fyd-eang, mae mwy o werth nag erioed yn cael ei roi ar sgiliau iaith.

Dangosai arolwg sgiliau diweddar a gynhaliwyd gan y CBI fod 70 y cant o fusnesau yn gwerthfawrogi sgiliau iaith dramor er mwyn meithrin gwell perthynas 芒鈥檜 cleientiaid, cyflenwyr a chwsmeriaid.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad difrifol yn y nifer sy鈥檔 astudio ieithoedd tramor ers diwedd y 1990au 鈥� ar gyfer TGAU a Safon Uwch.

[y cyd-destun gwleidyddol wedi鈥檌 dynnu]

A鈥檙 cymwysterau hyn sy鈥檔 rhoi mynediad at gyrsiau gradd, Cynllun Erasmus, a chymaint mwy o gyfleoedd bywyd a gyrfa eraill dramor ar gyfer pobl ifanc Cymru.

Mae gormod o dystiolaeth yn dangos bod disgyblion gorau a mwyaf disglair Cymru yn colli allan ar y cyfleoedd pwysig.

Yn 2013, gostyngodd nifer y myfyrwyr o Gymru a gafodd le yn Rhydychen neu Gaergrawn i鈥檙 nifer isaf ers deng mlynedd.

Pobl ifanc talentog Cymru yn colli cyfleoedd.

Ond mae鈥檔 llawer mwy na hyn.

Ganrif yn 么l, roedd cymunedau glofaol De Cymru yn buddsoddi llawer o鈥檜 harian eu hunain mewn addysg - mewn llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen - er mwyn i鈥檞 plant gael mwy o ddewisiadau mewn bywyd a mwy o gyfleoedd.

Roeddynt yn deall dyhead ac uchelgais ac yn gwybod bod addysg yn borth at ddiogelwch ariannol a symudedd cymdeithasol.

Ac yn yr 21ain Ganrif, mae angen inni ofyn a ydym yn dal i ehangu鈥檙 cyfleoedd drwy addysg i鈥檙 rheini sydd eu hangen fwyaf. Ac fel pobl sy鈥檔 caru Cymru, dylem fod yn bryderus iawn fod Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant Alun Milburn y llynedd wedi canfod bod disgyblion sy鈥檔 cael cinio ysgol am ddim yn Lloegr 50% yn fwy tebygol o gael 5 TGAU da na disgyblion tebyg yng Nghymru.

Pan nad ydych yn fodlon gofyn y cwestiynau anodd ac ymrwymo i newid pethau lle mae angen gwneud hynny, y rheini yr ydych yn eu methu yw鈥檙 rheini nad ydynt wedi cael y manteision gorau mewn bywyd.

Bydd plant i rieni ymroddedig a chyfoethog yn cael eu hail neu drydydd cyfle. Ond i blant nad yw hynny ar gael iddynt, yr ysgol yn aml yw eu prif gyfle a鈥檙 cyfle gorau i wella鈥檜 bywyd.

I鈥檙 disgyblion hynny, nid yw dweud 鈥渘i wnaethom gadw鈥檔 llygad ar y b锚l鈥� fel esgus dros y dirywiad mewn canlyniadau, yn dal d诺r. Mae arnom angen i Weinidogion Cymru goleddu鈥檙 agenda hwn yn fwy cadarnhaol.

Yn San Steffan, rydym wedi cael ugain mlynedd o drafod a dadlau caled am safonau ysgol, strwythurau ysgol, arweinyddiaeth ysgolion, dewis rhiant - pob agwedd ar y system addysg. Ac er inni weld rhai gweddnewidiadau arbennig drwy鈥檙 rhaglen academ茂au, mae鈥檙 Prif Weinidog yn dal yn barod 鈥� fel y gwnaeth ddoe 鈥� i sefyll o blaid rhieni a disgyblion a dweud 鈥渘id yw digonol yn unig yn ddigon da鈥�, ac na fyddwn yn goddef cyffredinedd a diffyg uchelgais yn y system.

Dyna, mi gredaf, yw鈥檙 math o onestrwydd a鈥檙 lefel ymrwymiad i addysg y mae arweinwyr busnes a rhieni am ei weld gan Weinidogion Cymru hefyd.

A鈥檙 gwir ydy mai yma yng Nghymru nid dim ond nad oes diwygiadau wedi cael eu gwneud yw鈥檙 broblem ond nad ydym wedi dechrau cael y ddadl honno hyd yn oed.

Oherwydd mae arweinyddiaeth gref yn golygu gofyn y cwestiynau anodd hyn a鈥檜 hwynebu鈥檔 gadarn.

Ac nid yw ceisio atal y ddadl ac osgoi cytundeb cadarn yn arwydd o gwbl o gariad at Gymru.

Mae rhieni, disgyblion ac athrawon Cymru yn haeddu gwell.

Un o gryfderau mawr Cymru ydy鈥檙 ffaith ei bod yn wlad sy鈥檔 llai rhanedig yn gymdeithasol na rhannau eraill o鈥檙 DU. Yng Nghymru mae gennym fwy o ddiddordeb yn cael gwybod i ble rydych yn mynd nag o lle rydych yn dod.

Mae鈥檔 ffaith nad oes neb yn rhoi sylw iddo fod Prif Weinidog Cymru a minnau wedi cael ein haddysg mewn ysgolion cyfun yn Ne Cymru. A dyna sut y dylai fod.

Cawsom gymorth gan addysg wladol ardderchog yma yng Nghymru 鈥� a llawer mwy fel ni.

Ac rwy鈥檔 gwybod ei fod yntau鈥檔 rhannu fy uchelgais ar gyfer economi Cymru.

Ond mae鈥檔 rhaid i鈥檙 uchelgais economaidd hwn gynnwys gweledigaeth o ragoriaeth ac uchelgais yn ei hysgolion ac yn ein system addysg.

Mae gennym athrawon arbennig yng Nghymru; a phenaethiaid ysbrydoledig y mae eu harweinyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth - fel Heather Vaughan yn ysgol gynradd St Woolas yng Nghasnewydd; mae gennym fyfyrwyr hynod alluog fel Ellie Atkinson sydd newydd gael cynnig lle yn Yale yn yr Unol Daleithiau.

Mae gennym lawer iawn i fod yn gadarnhaol yn ei gylch. Does neb yn ceisio tanseilio hyn.

Ond gallwn wneud yn llawer gwell.

Ac mae鈥檙 uchelgais cyson hwnnw a鈥檙 gwaith o geisio rhagor o welliant yn nodwedd o addysg wych a鈥檙 econom茂au hynny a fydd yn arwain y ffordd yn yr 21ain ganrif.

Nid yw hon yn ddadl braf i鈥檞 chael. Ond mae鈥檔 rhaid inni ddechrau gofyn y cwestiynau hyn er budd rhieni, athrawon a disgyblion Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Chwefror 2015
  1. Added translation

  2. First published.