Adroddiad Blynyddol Swyddfa Cymru
Rt Hon Cheryl Gillan MP, Secretary of State for Wales, presents the annual report 2010-11 to Parliament.

Hwn yw fy adroddiad blynyddol cyntaf i鈥檙 Senedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. A minnau wedi fy ngeni a鈥檓 magu yng Nghymru, roedd yn anrhydedd cael fy mhenodi鈥檔 Ysgrifennydd Cymru gan y Prif Weinidog ym mis Mai 2010 ac i fod y fenyw gyntaf yn y swydd honno.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Swyddfa Cymru wedi wynebu sawl her, yn enwedig gan fod dwy lywodraeth glymblaid wahanol wedi bod yn gyfrifol am lywodraethu Cymru. Golygai hyn fod ein hymdrechion i hyrwyddo cydgysylltiad a chydweithrediad effeithiol rhwng y ddwy lywodraeth yn bwysicach nag erioed. Nid oedd bosib i Gymru gael ei heithrio ychwaith rhag y penderfyniadau anodd y gorfodwyd Llywodraeth y DU i鈥檞 gwneud er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 diffyg ariannol a sicrhau cydbwysedd unwaith eto yn yr economi.
Ers i mi gael fy mhenodi鈥檔 Ysgrifennydd Gwladol, rwyf wedi bod yn benderfynol o ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth fy ngwaith, gan sicrhau鈥檙 fargen decaf i Gymru, a datblygu perthynas fusnes adeiladol gyda Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.
Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda鈥檙 Prif Weinidog a鈥檌 weinyddiaeth newydd yn dilyn etholiadau鈥檙 Cynulliad ym mis Mai er mwyn sicrhau twf economaidd, buddsoddiad, a chyfleoedd i bawb yng Nghymru gan barchu a chynnal y setliad datganoli ar yr un pryd.
Rwyf yn ymroddedig i gefnogi gweinidogion y Cynulliad yn y meysydd hynny sydd wedi鈥檜 datganoli, a gobeithiaf hefyd y byddant hwythau鈥檔 cefnogi Llywodraeth y DU ynghylch materion a gadwyd yn 么l.
Dylem weld yr Agenda Parch hon fel proses ddwyffordd, nid fel stryd unffordd. A dylem ei defnyddio i ddatblygu perthynas gadarnhaol a chadarn gan weithio at gydweithredu a buddsoddi yn y dyfodol. Fel Llywodraeth cawsom ddechrau cadarnhaol a chynnar pan ddaeth David Cameron yn un o鈥檙 Prif Weinidogion cyntaf i ymweld 芒鈥檙 Senedd 鈥� ac o fewn wythnos i ddechrau yn y swydd.
Ers hynny, mae鈥檙 Llywodraeth Glymblaid, ei Gweinidogion a Swyddfa Cymru wedi ceisio gweithio鈥檔 adeiladol gyda Llywodraeth Cymru er budd Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig, er gwaethaf y sefyllfa economaidd galed yr ydym wedi鈥檌 hetifeddu.
Fel Llywodraeth, rydym yn ymroddedig i ddatganoli. Fel Ysgrifennydd Cymru, sicrhau鈥檙 Refferendwm ar ragor o bwerau i鈥檙 Cynulliad oedd un o fy mhrif flaenoriaethau wrth ddechrau yn y swydd. Ym mis Mawrth, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i鈥檙 Cynulliad mewn meysydd datganoledig. Byddant yn gwneud y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn gwbl gyfrifol ac atebol am y penderfyniadau a wn芒nt a鈥檙 arian y byddant yn ei wario ar feysydd datganoledig. Bydd hyn, fel y mae eraill wedi awgrymu, yn creu 鈥榙iwylliant dim esgusodion鈥� ar gyfer y Cynulliad a gweinidogion Cymru. Wales Office Annual Report 1
Dim ond blwyddyn sydd ers cychwyn y Llywodraeth Glymblaid. Rydym yn canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar yr hyn y gallwn ei gyflawni dros bum mlynedd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd ac ariannol ar gyfer yr hirdymor. Ond rwyf yn credu ein bod eisoes wedi gwneud llawer i roi鈥檙 wlad hon yn 么l ar y trywydd cywir.
Mae鈥檙 arwyddion yn awgrymu ein bod yn symud i鈥檙 cyfeiriad cywir. Rydym wedi gosod cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adeiladu cymdeithas decach, fwy cyfrifol, sy鈥檔 cefnogi鈥檙 rheini sydd ei angen fwyaf. Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol ynghylch yr economi er mwyn delio 芒鈥檙 llanast a etifeddwyd gan y Llywodraeth flaenorol.
Yng Nghymru, rydym yn buddsoddi mewn seilwaith megis trydaneiddio rheilffyrdd a band eang cyflym iawn, a bydd camau i symleiddio system dreth gymhleth y DU a lleihau baich rheoliadau yn cefnogi busnesau a mentrau yng Nghymru. Wrth ddiwygio鈥檙 wladwriaeth les, bydd hyn yn targedu cefnogaeth i鈥檙 rheini sydd fwyaf agored i niwed a helpu鈥檙 rheini sy鈥檔 gallu gweithio i fynd yn 么l i weithio mewn swyddi neu i gael hyfforddiant. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru lle gwelir o hyd, gwaetha鈥檙 modd, ardaloedd o ddiweithdra uchel a phobl heb waith, er gwaethaf ymdrechion llywodraethau, un ar 么l y llall.
Ym mis Rhagfyr, cadeiriais gyfarfod cyntaf Grwp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru yn Llundain. Gwahoddwyd cynrychiolwyr o bob rhan o鈥檙 sbectrwm busnes yng Nghymru i rannu eu barn sy鈥檔 cyfrannu at Grwp Cynghori ar Fusnes y DU a gadeirir gan y Prif Weinidog. Mae鈥檙 Grwp yn cyfarfod bob chwarter erbyn hyn i drafod unrhyw faterion sy鈥檔 effeithio ar Gymru.
Mae Swyddfa Cymru yn ymroddedig i arbedion effeithlonrwydd, ac wrth wneud hynny lleihau costau i鈥檙 Llywodraeth. Aethom ati i arwain drwy esiampl, gan ei gwneud yn ofynnol i bob gweinidog a staff deithio dosbarth safonol ar dr锚n yn hytrach na dosbarth cyntaf. Aethom ati hefyd i nodi a gweithredu arbedion mewn meysydd eraill.
Wrth i ni gychwyn ail flwyddyn y Llywodraeth Glymblaid, rwyf yn hyderus bod sefyllfa economaidd Cymru yn fwy cadarn 鈥� er ni allwn laesu dwylo o gwbl ynghylch yr heriau lu sydd o鈥檔 blaenau. Mae Swyddfa Cymru yn ailgyfeirio ei gweithredu er mwyn adlewyrchu ei r么l yn well wrth gynrychioli Cymru yn San Steffan a chynrychioli San Steffan yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio鈥檔 adeiladol gyda Llywodraeth newydd Cymru yn dilyn etholiadau鈥檙 Cynulliad ym mis Mai. Drwy gydweithio er budd cenedlaethol, gallwn gyflawni鈥檙 gorau i Gymru.
Y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS Ysgrifennydd Gwladol Cymru