Datganiad y Prif Weinidog ar farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Datganiad y Prif Weinidog Boris Johnson ar farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin

Gyda thristwch mawr, ychydig amser yn 么l, y cefais neges gan Balas Buckingham fod Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin wedi marw yn 99 oed.
Enillodd y Tywysog Philip hoffter cenedlaethau yma yn y Deyrnas Unedig, ar draws y Gymanwlad a ledled y byd.
Ef oedd y consort a wasanaethodd hiraf mewn hanes,
un o鈥檙 bobl olaf sydd wedi goroesi yn y wlad hon a wasanaethodd yn yr ail ryfel byd yn Cape Matapan, lle y soniwyd amdano mewn anfoniadau am ddewrder
ac yn yr ymosodiad yn Sicily, lle achubodd ei long drwy ei feddwl cyflym ac o鈥檙 gwrthdaro hwnnw cymerodd foeseg o wasanaeth a ddefnyddiodd drwy gydol y newidiadau digynsail yn y cyfnod ar 么l y rhyfel.
Fel y gyrrwr cerbyd arbenigol yr oedd, wnaeth helpu i lywio鈥檙 teulu brenhinol a鈥檙 frenhiniaeth fel ei fod yn parhau i fod yn sefydliad sy鈥檔 hanfodol i gydbwysedd a hapusrwydd ein bywyd cenedlaethol.
Roedd yn amgylcheddwr, ac yn bencampwr o鈥檙 byd naturiol ymhell cyn ei fod yn ffasiynol.
Gyda鈥檌 raglen gwobrau Dug Caeredin lluniodd ac ysbrydolodd cymaint o fywydau pobl ifanc
ac mewn degau o filoedd o ddigwyddiadau, bu鈥檔 meithrin eu gobeithion ac yn annog eu huchelgeisiau.
Cofiwn y Dug am hyn i gyd ac uwchlaw popeth am ei gefnogaeth gyson i鈥檞 Mawrhydi Y Frenhines.
Nid yn unig fel ei chonsort, wrth ei hochr bob dydd o鈥檌 theyrnasiad, ond fel ei g诺r, ei 鈥渃hryfder a鈥檌 harhosiad鈥�, o fwy na 70 mlynedd.
Ac i鈥檞 Mawrhydi, a鈥檌 theulu, y mae鈥檔 rhaid i feddyliau ein cenedl droi heddiw.
Gan eu bod wedi colli nid yn unig ffigur cyhoeddus poblogaidd ac uchel ei barch, ond g诺r ymroddedig a thad balch a chariadus, taid ac, yn y blynyddoedd diwethaf, hen daid.
Wrth siarad ar eu pen-blwydd priodas aur, dywedodd Ei Mawrhydi fod ein gwlad yn ddyledus i鈥檞 g诺r 鈥渕wy o ddyled nag y byddai byth yn ei hawlio neu byddwn byth yn gwybod鈥� ac rwy鈥檔 si诺r bod yr amcangyfrif yn gywir.
Felly rydym yn galaru heddiw gyda鈥檌 Mawrhydi Y Frenhines
cynigiwn ein cydymdeimlad iddi hi ac i鈥檞 theulu i gyd
a rhoddwn ddiolch, fel cenedl a Deyrnas, am fywyd a gwaith rhyfeddol y Tywysog Philip, Dug Caeredin.