Anerchiad

Araith olaf Helen Stephenson fel Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau

Helen Stephenson yn annerch digwyddiad gofod3.

Dame Helen Stephenson

Rwy鈥檔 falch iawn o fod gyda chi i gyd heddiw ac i fod yn mynychu gofod3 am y tro cyntaf yn bersonol. Diolch i WCVA a phawb sydd wedi chwarae rhan yn y digwyddiad hwn.

Ddwy flynedd yn 么l fe wnes i siarad yn eich g诺yl ar-lein, a oedd yn ffordd wych o gysylltu 芒 phobl yn ystod blynyddoedd y pandemig 鈥� ond mae bod yma heddiw yn ein hatgoffa o鈥檙 gwerth enfawr sydd i weld ein gilydd wyneb yn wyneb a rhannu syniadau a mewnwelediadau.

Mae hwn yn achlysur arbennig o nodedig i mi, gan mai dyma fy nigwyddiad cyhoeddus olaf fel Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau. Ar 么l saith mlynedd, byddaf yn trosglwyddo鈥檙 baton i Brif Swyddog Gweithredol newydd cyn bo hir 鈥� ond rwy鈥檔 falch o gael y cyfle olaf hwn i rannu rhai myfyrdodau personol o鈥檓 cyfnod yn y Comisiwn.

Canllawiau鈥檙 etholiad cyffredinol

Fel y gwyddoch, rydym yn cyfarfod heddiw yng nghanol ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Er bod y Comisiwn Elusennau yn rheoleiddiwr annibynnol, rydym yn ddarostyngedig i鈥檙 un cyfyngiadau cyn yr etholiad ar weithgarwch y gwasanaeth sifil ag sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 llywodraeth ehangach, felly rwy鈥檔 gobeithio y byddwch yn deall y byddaf yn osgoi unrhyw beth a allai gael ei weld yn wleidyddol sensitif.

Dydw i ddim yn credo ei fod yn ddadleuol, fodd bynnag, i ddatgan bod etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle i nifer o elusennau dynnu sylw at eu hachosion. Wrth wneud hynny, mae鈥檔 bwysig bod elusennau鈥檔 dilyn y rheolau ar weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu.

Mae gan y Comisiwn ganllawiau penodol i helpu elusennau i wneud pethau鈥檔 iawn, sydd ar gael drwy ein tudalen etholiad cyffredinol ar Gov.uk 鈥� a byddwn i鈥檔 annog pob ymddiriedolwr i edrych arno鈥檔 ofalus cyn penderfynu a ddylid cymryd rhan yn yr ymgyrch etholiadol hon a sut.

R么l y Comisiwn

Hwn fydd y 43ain etholiad cyffredinol sydd wedi digwydd ers sefydlu鈥檙 Comisiwn Elusennau ym 1853 鈥搑ywbeth sy鈥檔 ein hatgoffa o hirhoedledd rhyfeddol y Comisiwn, ac o鈥檙 system o reoleiddio annibynnol ar elusennau yng Nghymru a Lloegr.

Yn wir, mae鈥檙 Comisiwn ymhlith y rheoleiddwyr hynaf sy鈥檔 gweithredu鈥檔 barhaus unrhyw le yn y byd. Felly er fy mod yn falch o fod y Prif Weithredwr sydd wedi gwasanaethu hiraf, fe鈥檓 hatgoffir mai rhan gymharol fach o daith hir y Comisiwn yw fy neiliadaeth ac yn rhan lai fyth o hanes hir gweithredu gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan y Comisiwn yr hyn yr wyf yn ei ystyried yn r么l arbennig, sydd yn ei dro yn adlewyrchu lle unigryw elusen yn ein cymdeithas. Ein r么l yw cynnal y cyfamod ymddiriedaeth sy鈥檔 bodoli rhwng y Senedd, y cyhoedd ac elusennau.

Mae gan elusennau le breintiedig mewn cymdeithas ac yn y gyfraith, sydd yn gwbl briodol. Gall y lle hwnnw gael ei gyfiawnhau dim ond os oes gan y cyhoedd ffydd a hyder yn yr hyn yw elusen. Yn ganolog i鈥檙 ymddiriedaeth a鈥檙 hyder hwnnw mae rheoleiddio annibynnol.

Pan ymunais 芒鈥檙 Comisiwn am y tro cyntaf, roedd hyder y cyhoedd yn y sector wedi鈥檌 siglo鈥檔 ddiweddar gan rai sgandalau proffil uchel. Rwy鈥檔 falch bod ein hymchwil, ers hynny, yn dangos bod ymddiriedaeth mewn elusennau wedi gwella i raddau helaeth - ac rwy鈥檔 ddiolchgar bod fy neiliadaeth wedi gorgyffwrdd 芒 sawl eiliad pan rydym wedi gweld y gorau o鈥檙 sector, nid lleiaf oll yn ystod y pandemig.

Ond mae鈥檔 dal yn wir y gall gweithredoedd un elusen yn unig gael dylanwad negyddol ar ganfyddiad y cyhoedd o bob elusen arall. Mae ymddiriedaeth yn cael ei hennill yn galed ac yn hawdd ei cholli. Yn y pen draw, mae gwaith elusen yn dibynnu ar ffydd y cyhoedd ac ewyllys da - sydd yn ei dro yn dibynnu ar iddi gyflawni ei diben mewn ffordd sy鈥檔 ffyddlon i鈥檞 gwerthoedd.

Dyna pam mae r么l y Comisiwn fel rheolydd annibynnol y sector mor bwysig, a pham rydym yn cymryd ymagwedd deg a chytbwys i gefnogi elusennau i wneud pethau鈥檔 iawn tra鈥檔 cymryd camau cadarn lle gwelwn ddrwgweithredu a niwed.

Felly mae pwrpas craidd y Comisiwn 鈥� sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cefnogi elusennau yn hyderus 鈥� wedi aros yr un fath drwy gydol ein hanes 170 mlynedd. Ond mae sut rydym yn cyflawni鈥檙 diben hwnnw ac yn cyflawni ein huchelgais wedi esblygu鈥檔 barhaus.

Cydbwysedd rheoleiddio

Dros amser, yn ddiamau, bu cyfnodau lle gwelwyd bod ffocws blaenoriaeth y Comisiwn yn fwy ar orfodi, ac eraill lle bu mwy ar gymorth i ymddiriedolwyr. Nid yw鈥檙 newid hwnnw鈥檔 unigryw i reoleiddio elusennau - rydym yn ei weld mewn sawl sector.

Yn fy marn i mae hwn yn ddeuoliaeth ddi-fudd, ffug. Os wyf wedi ceisio cyflawni un peth yn ystod fy nghyfnod fel Prif Swyddog Gweithredol fe fu i mi gadarnhau o fewn y Comisiwn ddiwylliant sy鈥檔 cydnabod bod cymorth a gorfodi cadarn yn begynnau angenrheidiol yn ein gwaith a ddylai ddenu symiau cyfartal o egni rheoleiddiol a buddsoddiad.

Mae elusennau鈥檔 cael eu rhedeg gan ymddiriedolwyr gwirfoddol sydd angen ac sydd yn haeddu ein harweiniad gweithredol a鈥檔 cefnogaeth i ddeall eu dyletswyddau cyfreithiol a gwneud y gwaith gorau y gallant. Ac mae ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac iechyd cyffredinol y sector yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 Comisiwn gymryd camau diysgog pan ydym yn dod ar draws camddefnydd bwriadol neu ddi-hid o elusennau.

Mae鈥檙 Comisiwn wedi gwneud llawer iawn dros y saith mlynedd diwethaf i gryfhau鈥檙 ddwy agwedd ar ein gwaith:

  • Ailwampio ein canllawiau ar-lein i ymddiriedolwyr a datblygu ymgyrchoedd effeithiol i helpu i sicrhau bod ymddiriedolwyr yn gweld ac yn cyrchu鈥檙 canllawiau hynny.
  • Buddsoddi mewn technoleg a fydd dros amser yn caniat谩u I ni gael cysylltiad digidol uniongyrchol 芒 phob ymddiriedolwr unigol.
  • Sicrhau ein bod yn defnyddio鈥檙 pwerau gorfodi y mae鈥檙 Senedd wedi鈥檜 rhoi i ni heb ofn na ffafr.
  • Dwyn yr elusennau hynny i gyfrif yn gyhoeddus lle mae pethau wedi mynd o chwith.
  • Ond hefyd bod yn glir pan fo elusennau wedi bod yn destun beirniadaeth gyhoeddus anghywir neu annheg.

Rwy鈥檔 falch o鈥檙 etifeddiaeth hon ac yn falch iawn bod strategaeth bum mlynedd newydd y Comisiwn yn cadarnhau鈥檙 cydbwysedd hwn yn sylfaen i鈥檔 gwaith yn y blynyddoedd i ddod.

Ein gwaith yng Nghymru

Rwyf hefyd yn falch mai un o fy etifeddiaethau fydd ein h么l troed gwell yng Nghymru.

Mae鈥檙 Comisiwn bob amser wedi cymryd ei gyfrifoldebau fel rheoleiddiwr dwy wlad o ddifrif, gan wasanaethu pobl Cymru a Lloegr. Ond roeddwn am I ni wneud mwy i gynyddu ein hymgysylltiad 芒鈥檙 sector yng Nghymru, gan gydnabod ei nodweddion unigryw.

Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf:

  • Mae ein presenoldeb yng Nghymru yn tyfu 鈥� rydym wedi cynyddu maint ein swyddfa yng Nghasnewydd ac mae gennym staff ychwanegol yn ymuno yn fuan.
  • Rydym wedi cymryd camau i wella a bod yn fwy cyson 芒鈥檔 harlwy Cymraeg 鈥� gan gydnabod ein cyfrifoldebau fel sefydliad dwyieithog.
  • Rydym wedi cynyddu ein hymgysylltiad 芒 rhanddeiliaid allweddol o Gymru, gan gynnwys WCVA 鈥� ac rwy鈥檔 si诺r y bydd hynny鈥檔 parhau o dan arweiniad newydd yn y ddau sefydliad.
  • Rydym wedi gwneud ymdrech i fod yn fwy amlwg yng Nghymru. Mae ein Cadeirydd a minnau wedi ymweld 芒 nifer o elusennau ledled Cymru, ac yn gynharach eleni daeth ein Bwrdd cyfan yma ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau o amgylch Caerdydd a Chasnewydd. Ddwy flynedd yn 么l roedd yn bleser gennym gynnal ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol yn yr union leoliad hwn.

Nid yw hyn wedi digwydd er mwyn cael cymeradwyaeth yn unig, ond mae wedi arwain at welliannau gwirioneddol yn ein gwybodaeth am y sector yng Nghymru a鈥檔 gallu i鈥檞 gefnogi.

Un enghraifft o hyn yw llwyddiant ein rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, sy鈥檔 gweithio i nodi cronfeydd elusennol sydd wedi bod yn segur - efallai oherwydd bod elusen wedi rhoi鈥檙 gorau i weithredu neu am fod y cronfeydd wedi鈥檜 hanghofio.

Diolch i鈥檙 prosiect hwn rydym wedi gallu adfywio bron i 拢10 miliwn o gronfeydd elusennol yng Nghymru a sicrhau bod arian yn cael ei roi tuag at achosion da.

Mewn un achos, roeddem yn gallu gweithio gydag elusen Gymreig a oedd wedi dal 拢1 miliwn mewn buddsoddiadau ers dros 10 mlynedd. Ymgysylltodd ein t卯m 芒鈥檙 ymddiriedolwyr a鈥檜 helpu i roi cynlluniau ar waith i wneud defnydd o鈥檙 arian 鈥� gan arwain at rodd sylweddol i brosiect ysbyty lleol.

Ar nodyn personol, rwyf bob amser wedi mwynhau ymweld ag elusennau yng Nghymru a threulio amser gydag ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr yma yn fawr. Mae llawer o elusennau yng Nghymru yn sefydliadau bach, lleol sydd wedi鈥檜 gwreiddio鈥檔 gadarn yn eu cymunedau.

Mae ymweld 芒鈥檙 elusennau hyn yn teimlo fel eich bod yn treulio amser yng nghanol y gymuned, gyda phobl sydd wedi rhoi llawer o鈥檜 bywydau i鈥檞 gwasanaethu. Mae wedi bod yn un o bleserau mawr fy amser yn y Comisiwn i weld enghreifftiau mor wych o鈥檙 gorau o gymdeithas sifil.

R么l elusennau mewn cymdeithas

Drwy gydol fy amser yn y Comisiwn mae wedi bod yn amlwg bod r么l, gwerth a phwysigrwydd elusennau yn ein cymdeithas yn parhau i godi.

Mae鈥檙 gwahaniaeth y mae elusennau yn ei wneud yn ein cymunedau a鈥檔 bywydau i gyd yn anfesuradwy, ac mae鈥檔 tyfu.

Mae llawer o bwyntiau cyffwrdd cymdeithasol a diwylliannol yn ein bywydau, o鈥檙 crud i鈥檙 bedd, yn cael eu cynnig neu eu curadu gan elusen. Rydym yn gymdeithas sydd wedi鈥檌 hadeiladu ar symbiosis cryf o鈥檙 wladwriaeth, y farchnad, a鈥檙 sector elusennol. Ac 鈥� yn hollbwysig 鈥� mae hyn bellach yn ymddangos yn agwedd a dderbynnir ac yn wir a ddethlir o鈥檔 bywyd cenedlaethol. Dylem groesawu鈥檙 consensws hwn ar r么l ganolog elusennau.

Rwyf wedi bod yn ymwneud ag elusennau o bron bob safbwynt posibl ers amser maith. Fel gwirfoddolwr fel arweinydd elusen fy hun, o safbwynt y llywodraeth, fel cyllidwr, rhoddwr, ac yn ddiweddarach fel rheoleiddiwr.

Rwyf wedi gweld elusennau鈥檔 cyflawni鈥檙 amhosibl trwy eu gwaith da. Ac rwyf wedi gweld elusennau yn ei chael hi鈥檔 ddrwg iawn.

A phan wyf yn myfyrio ar yr hyn sy鈥檔 gwneud y gwahaniaeth rhwng elusen sy鈥檔 llwyddo ac elusen sy鈥檔 mynd ar goll ar hyd y ffordd, dyma beth ydyw: elusen wych yw un y mae ei hymddiriedolwyr a鈥檌 harweinyddiaeth ehangach, dros amser, yn cael eu harwain bob amser ac yn unig gan ddibenion yr elusen.

Nid trwy fympwy, ffasiwn, neu gyllid ond trwy ymrwymiad ar y cyd i gyflawni鈥檙 dibenion a gafodd yr elusen ar y gofrestr yn y lle cyntaf.

Diweddglo

Mae llawer mwy y gallwn ei ddweud am y Comisiwn a鈥檙 sector. Ond mae鈥檔 debyg mai鈥檙 peth olaf rwyf am ei ddweud yw: diolch, i bob un ohonoch sy鈥檔 rhoi eich amser, arian neu arbenigedd i elusen. I鈥檙 ymddiriedolwyr, y gwirfoddolwyr a鈥檙 staff sy鈥檔 rhan o ecosystem y sector gwirfoddol 鈥� diolch am bopeth rydych yn ei wneud dros eich elusennau, eich cymunedau a鈥檔 cymdeithas gyfan.

Gobeithio fy mod wedi gwneud fy rhan i gefnogi鈥檆h gwaith hanfodol dros y saith mlynedd diwethaf, ac rwy鈥檔 gwybod y bydd y Comisiwn yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu yn y blynyddoedd i ddod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2024