Amodau a thelerau yn CThEM
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Diolch am ystyried swydd gyda CThEM.
Gweler isod grynodeb o amodau a thelerau CThEM. Mae鈥檔 bwysig nodi bod y rhain yn brif faterion sydd wedi鈥檜 dewis, nid datganiad cynhwysfawr o鈥檙 holl amodau a thelerau cyflogaeth contractiol yn CThEM. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi contract cyflogaeth i chi gyda datganiad llawn o鈥檔 hamodau a thelerau contractiol.
Fel ymgeisydd am swydd, eich cyfrifoldeb chi yw dod yn gyfarwydd 芒鈥檙 telerau ac amodau a fydd ar waith pan fyddwch yn ymuno 芒 CThEM. Fel rhan o鈥檙 broses recriwtio, bydd cyfleoedd i ofyn i鈥檙 cyswllt a enwir ar gyfer y swydd wag beth allai hyn ei olygu i chi, neu am y swydd yn gyffredinol.
Nodyn pwysig: mae鈥檙 telerau ac amodau newydd yn sefydlog ar gyfer pob cyflogai 鈥� nid yw鈥檙 rheolwr sy鈥檔 hurio nac unrhyw reolwr arall yn gallu eu hepgor na鈥檜 newid.
Telerau cyflogaeth
Cyfnod prawf
Os ydych yn newydd i鈥檙 Gwasanaeth Sifil, bydd angen i chi gwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus, pan fydd eich perfformiad, eich presenoldeb a鈥檆h ymddygiad yn cael eu hasesu. Amcan yr asesiad yw sicrhau eich bod yn gallu bodloni鈥檙 safonau sy鈥檔 ofynnol gan CThEM yn y meysydd allweddol hyn.
Gwyliau blynyddol
Hyd at 31 Awst 2021, bydd gan bob cydweithiwr hawl gychwynnol i wyliau 芒 th芒l o 22 diwrnod y flwyddyn, a hynny鈥檔 gymesur 芒鈥檆h oriau contract (pro rata). Bydd hyn yn codi i 25 diwrnod y flwyddyn (pro rata) ar 么l blwyddyn o wasanaeth cymwys a 30 diwrnod y flwyddyn ar 么l 10 mlynedd o wasanaeth cymwys.
O 1 Medi 2021 ymlaen (pan gyflwynir y newidiadau i wyliau blynyddol y cytunwyd arnynt fel rhan o gytundeb diwygio CThEM), bydd gan gyflogeion amser llawn lwfans cychwynnol ar gyfer gwyliau blynyddol 芒 th芒l o 25 diwrnod y flwyddyn, pro rata, a fydd yn cynyddu un diwrnod ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth cymwys hyd at uchafswm o 30 diwrnod.
Os ydych yn trosglwyddo o un o Adrannau Eraill y Llywodraeth (OGD), byddwn yn ystyried eich gwasanaeth cymwys blaenorol, ar yr amod nad oes toriad yn eich gwasanaeth rhwng gweithio i鈥檆h adran flaenorol a dechrau鈥檆h gwasanaeth gyda CThEM.
Os ydych yn trosglwyddo o Gorff Cyhoeddus Anadrannol Cydnabyddedig, bydd eich gwasanaeth cymwys blaenorol yn cael ei gydnabod o 1 Mawrth 2011 ymlaen, ar yr amod ei fod yn barhaus gyda鈥檆h gwasanaeth gyda CThEM.
Gwyliau cyhoeddus a gwyliau braint
Yn ogystal 芒鈥檆h lwfans gwyliau blynyddol, mae gennych hawl i wyliau cyhoeddus a gwyliau braint 芒 th芒l. Bydd y gwyliau hyn yn ddibynnol ar leoliad eich swyddfa ac fe鈥檜 pennir fel a ganlyn:
- os yw鈥檆h swyddfa yng Nghymru neu yn Lloegr, mae gennych hawl i wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus ac un diwrnod o wyliau braint ar gyfer pen-blwydd y Frenhines
- os yw鈥檆h swyddfa yn yr Alban, mae gennych hawl i wyth diwrnod o wyliau cyhoeddus ac un diwrnod o wyliau braint ar gyfer Diwrnod Fictoria/pen-blwydd y Frenhines
- os yw鈥檆h swyddfa yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych hawl i 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus ac un diwrnod o wyliau braint ar gyfer pen-blwydd y Frenhines
Gellir cymryd y diwrnod braint ar gyfer pen-blwydd y Frenhines ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn wyliau. Efallai y bydd CThEM, yn 么l ei ddisgresiwn absoliwt, yn gofyn i chi weithio ar ddiwrnod o wyliau cyhoeddus neu ddiwrnod braint. Os felly, gallwch gymryd diwrnod arall fel gwyliau (neu nifer gyfwerth o oriau).
Caiff gwyliau cyhoeddus a gwyliau braint eu cyfrifo ar sail pro rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser.
Symudedd
Mae cymal symudedd mewn contract cyflogaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gydweithiwr adleoli a/neu wneud newidiadau i鈥檞 r么l pe bai ei gyflogwr yn gofyn iddo wneud hynny.
Mae鈥檔 bosibl y bydd gofyn i chi ymgymryd 芒 dyletswyddau eraill sy鈥檔 briodol i鈥檆h gradd, dros dro neu ar sail barhaus, fel y mae CThEM yn ystyried yn rhesymol ei bod yn angenrheidiol. Ym mhob achos, rhoddir rhybudd rhesymol i chi a bydd eich amgylchiadau personol yn cael eu hystyried.
Mae鈥檔 bosibl y bydd hefyd yn ofynnol i chi drosglwyddo鈥檔 barhaol i unrhyw swydd gyda CThEM neu swydd arall yn y Gwasanaeth Sifil sy鈥檔 briodol i鈥檆h gradd naill ai yn y DU neu dramor, lle ystyrir bod hyn yn angenrheidiol i fodloni gofynion busnes. Mae鈥檔 bosibl y bydd yn ofynnol i wasanaethu oddi cartref am gyfnodau dros dro o 鈥榙dyletswydd oddi cartref鈥�. Gall hyn fod mewn lleoliadau nad ydynt o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i鈥檆h cartref.
Oriau gwaith
Yr oriau gwaith ar gyfer pob cyflogai amser llawn yw 37 awr yr wythnos, ac eithrio egwyliau ac egwyliau cinio, sy鈥檔 ddi-d芒l. Mae hyn yr un fath ar gyfer yr holl gyflogeion, p鈥檜n a ydynt wedi鈥檜 lleoli yn Llundain neu鈥檙 tu allan iddi.
Mae eich patrwm gwaith unigol (h.y. yr amserau a鈥檙 diwrnodau y mae鈥檔 ofynnol i chi鈥檔 bersonol fynychu鈥檙 gwaith er mwyn cyflawni鈥檆h oriau wythnosol dan gontract) yn rhwymol dan gontract oni bai a hyd nes y bydd CThEM yn ei amrywio, yn unol 芒 darpariaethau hyblygrwydd a nodir yn eich contract neu o dan Gydgytundeb 2020. Mae gan CThEM yr hawl i newid eich patrwm gwaith unigol yn barhaol (ar yr amod bod amodau penodol yn cael eu bodloni) gyda rhybudd rhesymol. Byddwn bob amser yn ymdrechu i ystyried eich amgylchiadau personol os oes modd.
Er ei fod yn sefydliad sy鈥檔 gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, oriau gweithredu safonol CThEM yw 07:00 tan 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gellir gofyn i chi weithio unrhyw batrwm gwaith unigol sy鈥檔 syrthio o fewn yr oriau hyn. Mae鈥檔 bosibl y byddwch hefyd yn cael eich contractio neu y bydd yn ofynnol i chi weithio y tu allan i鈥檙 amserau hynny yn 么l yr angen.
Gall CThEM hefyd amrywio鈥檆h r么l, eich lleoliad, eich oriau wythnosol dan gontract neu鈥檆h patrwm gwaith unigol, a hynny dros dro, yn 么l yr angen, dan rai amgylchiadau.
Mae鈥檙 holl drefniadau gweithio arbennig, fel gweithio am ran o鈥檙 flwyddyn neu oriau cywasgedig, yn agored i adolygiad bob pum mlynedd.
Gwybodaeth Bwysig: Gr诺p Gwasanaeth i Gwsmeriaid (CSG)
Os ydych yn gwneud cais am swydd yn ein Gr诺p Gwasanaeth i Gwsmeriaid, mae angen i chi fod yn ymwybodol bod trefniadau gweithio penodol ar waith i鈥檔 helpu i ddarparu gwell gwasanaethau i gwsmeriaid a gwell profiad gwaith i鈥檔 staff.
Bydd gan bawb yn y Gr诺p Gwasanaeth i Gwsmeriaid y gofynion contractiol canlynol fel rhan o鈥檜 horiau gwaith arferol, ac nid yn ychwanegol atynt:
- gweithio uchafswm o un sifft hwyr yr wythnos, a fydd yn gorffen am 8pm fan bellaf
- gweithio uchafswm o chwe dydd Sadwrn y flwyddyn
Mae oriau gweithredu safonol y Gr诺p Gwasanaeth i Gwsmeriaid rhwng 8am ac 8pm bob dydd. Mae hyn yn golygu na fydd neb yn y Gr诺p Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn dechrau gweithio cyn 7.45am, oni bai bod angen busnes cytunedig i ddechrau鈥檔 gynharach. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn barod i ddelio 芒 chwsmeriaid cyn gynted ag y bydd ein llinellau鈥檔 agor am 8am, a bod digon o staff ar gael i weithio ar y llinellau ff么n drwy gydol y dydd.
Mae ein polisi newydd ar weithio gartref yn golygu y bydd gan bawb yn y Gr诺p Gwasanaeth i Gwsmeriaid yr un cyfle ag eraill yn CThEM i allu gweithio gartref am ddeuddydd yr wythnos. (Gweler yr adran 鈥淥riau hyblyg a gweithio gartref鈥� i gael rhagor o wybodaeth am hyn).
T芒l Salwch
Bydd gennych hawl i gyflog llawn am un mis yn ystod blwyddyn gyntaf eich gwasanaeth, yn ogystal ag un mis ar hanner eich cyflog. Bydd yr hawl yn cynyddu un mis ar gyflog llawn ac un mis ar hanner eich cyflog am bob blwyddyn o wasanaeth, hyd at uchafswm o bum mis ar gyflog llawn a phum mis ar hanner eich cyflog o ddechrau pumed flwyddyn eich gwasanaeth Bydd hyn yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser a chyflogeion sy鈥檔 gweithio am ran o鈥檙 flwyddyn.
Telir absenoldeb salwch hyd at yr uchafswm o 10 mis yn ystod unrhyw gyfnod treigl o bedair blynedd. Bydd gwasanaeth cymwys blaenorol gyda CThEM neu Adrannau Eraill o鈥檙 Llywodraeth yn cyfrif wrth gyfrifo鈥檆h hawl i absenoldeb salwch, ar yr amod bod eich gwasanaeth yn ddi-dor.
Marcio amser
Marcio amser yw pan fydd cyflog sylfaenol unigolyn yn fwy nag uchafswm ei ystod cyflog, ac mae CThEM yn anrhydeddu鈥檙 cyflog hwn er mwyn atal gostyngiad mewn cyflog ar unwaith. Gall hyn ddigwydd am amryw resymau, er enghraifft, pan fydd unigolyn yn symud i r么l neu leoliad newydd sy鈥檔 golygu trefniadau gwahanol o ran cyflog.
Mae terfyn amser o ddwy flynedd ar bob trefniant marcio amser yn CThEM. O fis Mehefin 2023 ymlaen, bydd trefniadau marcio amser ar gyfer cydweithwyr presennol neu gydweithwyr newydd yn gyfyngedig o ran amser a byddant yn dod i ben ar 么l dwy flynedd.
Oriau hyblyg a gweithio gartref
Bydd cyflogeion sy鈥檔 gweithio mewn swyddi ar bob gradd hyd at a chan gynnwys Gradd 6 yn gallu defnyddio Dull Oriau Gwaith Hyblyg (oni bai eu bod yn cael gwybod bod y r么l yn anaddas).
Os yw鈥檔 addas ar gyfer swydd, bydd cyflogeion yn cael y cyfle (er nad yw鈥檔 hawl gontractiol) i weithio gartref ddau ddiwrnod yr wythnos, neu fwy os bydd y busnes yn cytuno ar hynny. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i weithio gartref gyda鈥檙 nos a thros y penwythnos, pan fo鈥檔 briodol ar gyfer y r么l.