Gwybodaeth gyffredinol am gyflog wrth drosglwyddo o un o Adrannau eraill y Llywodraeth i CThEM
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Bydd CThEM yn eich talu o ddiwrnod cyntaf dechrau鈥檆h swydd. Bydd yr hen adrannau鈥檔 talu鈥檙 cyflogai hyd nes y dyddiad trosglwyddo; os bydd y dyddiad hwn ar ddydd Gwener, dylai鈥檙 hen adran dalu hyd nes y dydd Sul. Ni ddylai cyflogeion ddechrau eu r么l newydd yn CThEM nes bod y broses o drosglwyddo鈥檙 gyflogres wedi鈥檌 chadarnhau, a nes bod CThEM mewn sefyllfa i dalu鈥檙 unigolyn.
Cyflog Sylfaenol
-
Mae gan CThEM ystod cyflog gwahanol ar waith mewn dau leoliad ar gyfer pob gradd, sef yn Llundain ac yn Genedlaethol. Mae isafswm ac uchafswm i ystod cyflog pob gradd, heb unrhyw 鈥渂wyntiau graddfa鈥�.
-
Ni ellir trosglwyddo lwfansau i CThEM, ar wah芒n i Lwfans Pwysoliad Llundain (neu elfen gyfatebol). Caiff pob lwfans arall ei golli wrth drosglwyddo.
Symud ar yr un radd (gwirfoddol)
-
Os yw鈥檆h adran yn eich talu ar ei hystod cyflog Cenedlaethol ar hyn o bryd, caiff eich cyflog sylfaenol, heb gynnwys unrhyw daliadau neu lwfansau arbenigol, ei drosglwyddo i ystod cyflog Cenedlaethol priodol CThEM ar gyfer eich gradd. Os yw hyn yn llai nag isafswm ystod cyflog Cenedlaethol CThEM ar gyfer eich gradd, caiff ei godi i鈥檙 isafswm ar gyfer eich gradd. Fodd bynnag, os yw hyn yn fwy na鈥檙 uchafswm, caiff ei gyfyngu i uchafswm CThEM ar gyfer eich gradd.
-
Os yw鈥檆h adran yn eich talu ar ei hystod cyflog ar gyfer Llundain ar hyn o bryd, caiff eich cyflog sylfaenol, heb gynnwys unrhyw daliadau neu lwfansau arbenigol, ei drosglwyddo i ystod cyflog CThEM ar gyfer eich gradd yn Llundain. Fodd bynnag, os ydych yn cael Lwfans Pwysoliad Llundain neu elfen gyfatebol, caiff y swm hwn ei gyfuno 芒鈥檆h cyflog sylfaenol a chaiff y cyfanswm ei drosglwyddo i ystod cyflog CThEM ar gyfer Llundain (mae paragraff 3 yn amlinellu sut y gwneir unrhyw godi neu gyfyngu).
-
Os yw鈥檆h cyflog sylfaenol (gan gynnwys pwysoliad Llundain ond heb gynnwys unrhyw daliadau neu lwfansau arbenigol) yn fwy nag uchafswm ystod cyflog cyfatebol CThEM, mae鈥檔 bosibl y bydd unrhyw swm uwchlaw uchafswm CThEM yn cael ei gadw ar sail Amser wedi鈥檌 Farcio, a bydd yn cael ei gwtogi gan unrhyw godiadau cyflog sylfaenol yn y dyfodol.
-
Os bydd symud i CThEM yn golygu eich bod yn newid lleoliad cyflog, hynny yw, symud i leoliad ystod cyflog CThEM ar gyfer Llundain neu oddi yno, caiff eich cyflog sylfaenol yn eich adran bresennol ei drosglwyddo i ystod cyflog cyfatebol CThEM y lleoliad hwnnw (fel yr eglurir ym mharagraffau 3 a 4). Yna, bydd eich cyflog yn cael ei drosglwyddo i鈥檙 gyfradd gyflog gyfatebol ar gyfer y lleoliad newydd. Cyfeiriwch at yr adran 鈥楥yfrifiad cyfradd gyfatebol鈥� isod.
-
Mae gan rai Adrannau swyddfeydd lle nad yw鈥檙 ffiniau鈥檔 cyd-fynd 芒 ffiniau cyflog Cenedlaethol/Llundain CThEM. Bydd y broses, a amlinellir yn yr adran 鈥楥yfrifiad cyfradd gyfatebol鈥� isod, sef symud eich cyflog sylfaenol i鈥檙 gyfradd gyfatebol ar gyfer lleoliad cywir CThEM, yn cael ei chynnal ar 么l symud eich cyflog presennol i un sy鈥檔 cyd-fynd 芒 dosbarthiad swyddfa CThEM. Er enghraifft, mae鈥檔 bosibl bod eich Adran bresennol yn ystyried bod eich swyddfa yn Llundain, ond bod CThEM yn ystyried ei fod yn lleoliad Cenedlaethol. Caiff eich cyflog sylfaenol ei drosglwyddo i ystod cyflog CThEM ar gyfer Llundain cyn symud i鈥檙 gyfradd gyfatebol ar ystod cyflog Cenedlaethol CThEM.
-
Os ydych yn symud o ardal yn Llundain gyda鈥檆h Adran bresennol, i ardal Genedlaethol gyda CThEM, mae鈥檔 bosibl y bydd eich cyflog yn gostwng.
Cyfrifiad cyfradd gyfatebol
Mae鈥檙 cyfrifiad cyfradd gyfatebol yn cael ei ddefnyddio wrth symud rhwng ystod cyflog Cenedlaethol ac ystod cyflog Llundain. Mae鈥檔 cynnal safle cymharol eich cyflog sylfaenol yn yr ystod cyflog, wrth ei drosglwyddo i鈥檙 ardal gyflog newydd.
Fformiwla鈥檙 Gyfradd Gyfatebol:
((A / B) x C) + D = Cyflog sylfaenol newydd wrth symud, lle bo:
A = Uchafswm ystod cyflog newydd llai lleiafswm ystod cyflog newydd
B = Uchafswm hen ystod cyflog llai lleiafswm hen ystod cyflog
C = Cyflog sylfaenol presennol llai lleiafswm hen ystod cyflog
D = Lleiafswm ystod cyflog newydd
Cyflog arbenigol
Os ydych yn cael cyflog ystod arbenigol oherwydd natur eich swydd yn eich adran bresennol, caiff eich cyflog ei addasu i鈥檙 gyfradd gyfatebol ar ystod cyflog cyffredinol eich lleoliad yn eich adran bresennol, gan ddefnyddio鈥檙 prosesau uchod.
Symud i CThEM ar 么l cael dyrchafiad
Caiff eich cyflog sylfaenol presennol ei drosglwyddo i ystod cyflog cyfatebol CThEM, cyn eich dyrchafiad, gan ddilyn y prosesau a amlinellir uchod. Os yw鈥檆h cyflog cyn eich dyrchafiad yn fwy nag uchafswm ystod cyflog CThEM, bydd eich cyflog yn cael ei gyfyngu i鈥檔 huchafswm. Yn dibynnu ar ba un sydd o鈥檙 budd mwyaf i chi, byddwch wedyn yn cael un o鈥檙 canlynol:
- codiad o 10% o鈥檙 cyflog sylfaenol hwn, wedi鈥檌 gyfyngu i uchafswm ystod cyflog CThEM
- isafswm ystod cyflog CThEM ar gyfer y radd y cawsoch ddyrchafiad iddi
Dylech nodi y gall eich cyflog ar 么l dyrchafiad fod yn llai na 10%, er enghraifft, os ydych yn cael eich talu ar hyn o bryd o ystod cyflog arbenigol uwch, sy鈥檔 uwch nag ystodau cyflog CThEM sy鈥檔 gyffredinol. Y rheswm am hyn yw y bydd cyflog sylfaenol yn cael ei gyfyngu i uchafswm ystod cyflog CThEM.
Dyfarniad Cyflog Sylfaenol (o 2019 ymlaen)
Lle y bo鈥檔 briodol, bydd cyflogeion sy鈥檔 trosglwyddo鈥檔 cael y dyfarniad cyflog sydd i鈥檞 weld yn y matrics isod. Yn dibynnu ar yr union ddyddiad y byddwch yn trosglwyddo i CThEM, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer naill ai dyfarniadau cyflog CThEM neu ddyfarniadau cyflog eich hen adran.
Ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw godiadau o ganlyniad i ailstrwythuro cyflog neu allbryniad cytundebol gan eich hen adran. Os na ellir cael manylion, a鈥檆h bod yn bodloni holl Feini Prawf eraill y Dyfarniad Cyflog, byddwch yn cael dyfarniad CThEM.
Bydd unrhyw ddyfarniad yn cael ei dalu o 1 Mehefin ymlaen, neu o鈥檙 dyddiad yr ydych yn ymrwymo i鈥檆h dyletswyddau (gan 么l-ddyddio os bydd angen), hynny yw pa bynnag ddyddiad sydd hwyraf.
O鈥檙 Hen Adran (Mae鈥檙 flwyddyn berfformiad yn cyfeirio at yr hen adran 鈥� os yw鈥檔 berthnasol)
Dyddiad trosglwyddo | Mwy na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog | Llai na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog | Ar 么l ei flwyddyn berfformiad ond cyn dyddiad y setliad cyflog | Ar ddyddiad y setliad cyflog | Ar 么l dyddiad y setliad cyflog |
---|---|---|---|---|---|
Cyn 31 Rhagfyr | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran | Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo鈥檔 cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf |
Rhwng 31 Rhagfyr a 31 Mawrth | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran | Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo鈥檔 cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf |
O鈥檙 Hen Adran (Mae鈥檙 flwyddyn berfformiad yn cyfeirio at yr hen adran 鈥� os yw鈥檔 berthnasol)
Dyddiad trosglwyddo | Mwy na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog | Llai na thri mis cyn diwedd ei flwyddyn berfformiad a chyn dyddiad y setliad cyflog | Ar 么l ei flwyddyn berfformiad ond cyn dyddiad y setliad cyflog | Ar ddyddiad y setliad cyflog | Ar 么l dyddiad y setliad cyflog |
---|---|---|---|---|---|
Rhwng 1 Ebrill a 31 Mai | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Telir Dyfarniad Cyflog CThEM | Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo鈥檔 cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf |
Ar neu ar 么l 1 Mehefin a chyn 31 Rhagfyr | Bydd y cyflog wrth drosglwyddo鈥檔 cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM. Cewch ddyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf | Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran | Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran | Byddwch yn cael dyfarniad eich hen adran | Byddwch wedi cael dyfarniad cyflog eich hen adran. Bydd y cyflog wrth drosglwyddo鈥檔 cael ei seilio ar ystod cyflog newydd CThEM, a byddwch yn cael dyfarniad cyflog CThEM yn y cylch nesaf |
Rhagor o wybodaeth
Os ydych o鈥檙 farn nad yw鈥檆h sefyllfa o ran cyflog wedi鈥檌 chwmpasu gan yr esboniad uchod, neu os oes gennych gwestiynau am eich cyflog arfaethedig wrth drosglwyddo, cysylltwch 芒 [email protected].