Pan fydd y Comisiwn Elusennau yn ymchwilio i elusennau
Cyhoeddwyd 23 Mai 2013
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Sut rydym yn asesu pryderon
Rydym yn nodi ac yn asesu pryderon am elusennau o ystod eang o ffynonellau. Mae hyn yn cynnwys cwynion a gyflwynir i ni, a hefyd, materion rheoleiddiol rydym wedi鈥檜 nodi o ganlyniad i鈥檔 gwaith rhagweithiol ein hunain.
Rydym yn asesu鈥檙 pryderon hyn yn erbyn ein Fframwaith Rheoleiddio a Risg i benderfynu:
- a yw鈥檔 fater i鈥檙 Comisiwn
- difrifoldeb y mater, graddau鈥檙 risg o dan sylw, a sut mae鈥檙 ymddiriedolwyr yn delio 芒鈥檙 mater
2. Pan fyddwn yn cymryd camau rheoleiddio
Mae ein r么l reoleiddio鈥檔 canolbwyntio ar ymddygiad ymddiriedolwyr a鈥檜 llywodraethu ac arweinyddiaeth o鈥檙 elusen. Os bydd rhywbeth yn mynd o鈥檌 le, mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr gymryd cyfrifoldeb am ddatrys hyn. Fel rheolydd rydym yn sicrhau bod ymddiriedolwyr yn gwneud hyn yn weithredol ac yn effeithiol. Pan na fydd ymddiriedolwyr yn gallu neu鈥檔 anfodlon gwneud hynny, gallwn ddelio 芒鈥檙 pryderon mewn achos cydymffurfio rheoliadol. Nid ymchwiliadau ffurfiol yw鈥檙 achosion hyn, yn hytrach eu nod yw sicrhau bod ymddiriedolwyr yn mynd i鈥檙 afael ag unrhyw fethiannau a gwendidau yn rheolaeth eu helusennau. Gall hyn fod trwy ddilyn ein canllaw neu gynllun gweithredu rydym wedi cytuno 芒 nhw. Pan fo angen, gallwn ddatrys materion llywodraethu elusennau trwy ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i wneud cynlluniau neu orchmynion lle nad oes gan elusen ei phwerau ei hun i wneud hynny.
Weithiau, mewn achosion o gam-drin, neu lle bydd gennym amheuon neu dystiolaeth o gamreoli a/ neu gamymddwyn wrth weinyddu elusen, gallwn agor ymchwiliad statudol i nodi ac ymchwilio i hyn ac i ddatrys y problemau a ganfyddir.
3. Pan fyddwn yn agor ymchwiliad statudol
Mae ymchwiliad statudol yn b诺er cyfreithiol sy鈥檔 caniat谩u i鈥檙 Comisiwn ymchwilio i bryderon rheoliadol yn ffurfiol o fewn elusen, elusennau, neu ddosbarth o elusennau. Yn gyffredinol, rydym yn agor ymchwiliad lle bydd gennym bryderon rheoliadol bod camymddwyn a/ neu gamreoli wrth weinyddu elusen yn, wedi neu fod 芒 photensial i ddigwydd.
Nod yr ymchwiliad yw:
- nodi graddau, os o gwbl, y camymddwyn a /neu gamreoli wrth weinyddu鈥檙 elusen
- asesu unrhyw risg i鈥檙 elusen, ei buddiolwyr, gweithwyr cyflogedig, gwirfoddolwyr neu asedau
- penderfynu a oes angen i ni amddiffyn yr elusen
Gweithgaredd canfod ffeithiau yw ymchwiliad, i ymchwilio鈥檙 materion, ac nid yw ynddo鈥檌 hun yn rhagbenderfyniad o gamwedd. Yr eithriad i hyn yw lle y bydd yn amlwg ar yr adeg yr agorir yr ymchwiliad y bu camwedd ac y gallai fod angen i ni ystyried defnyddio ein pwerau amddiffyn dros dro, neu adferol parhaol ar unwaith.
Cyn agor ymchwiliad statudol, gallwn gynnal asesiad cyn-ymchwiliad. Bydd hyn yn cynnwys archwilio鈥檙 honiadau a鈥檙 achosion sy鈥檔 peri pryder yn erbyn ein Fframwaith Rheoleiddio a Risg. Diben asesiad o鈥檙 fath yw sicrhau ein bod yn defnyddio ein meini prawf i agor ymchwiliad yn gyson ac yn deg. Mae鈥檙 asesiad hwn yn archwilio鈥檙 achosion o bryder ac a yw鈥檙 sbardunau ar gyfer ymchwiliad yn cael eu bodloni.
Mae鈥檙 meini prawf ar gyfer agor ymchwiliad yn seiliedig ar un neu fwy o鈥檙 ffactorau canlynol:
- arwyddion o gamymddwyn a/ neu gamreoli wrth weinyddu鈥檙 elusen
- torri ymddiriedaeth yn sylweddol neu ddiffyg cydymffurfio 芒 chyfraith elusennau
- risg sylweddol i eiddo, buddiolwyr, gweithwyr cyflogedig, gwirfoddolwyr, neu waith elusen
- efallai bydd angen i ni ddefnyddio pwerau rheoleiddio sydd ar gael yn unig os bydd ymchwiliad wedi鈥檌 agor
- mae angen i ni sefydlu neu ddilysu ffeithiau, neu gasglu tystiolaeth, ac ymchwiliad yw鈥檙 ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny
- mae angen i ni ddiogelu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn yr elusen neu mewn elusennau鈥檔 gyffredinol
Asesir pob achos ar ei ffeithiau ei hun ac mae鈥檔 bosibl y gellir effeithio arno gan allu, ymddygiad ac ymateb yr ymddiriedolwyr.
Ar 么l i ni agor ymchwiliad, gallwn ddefnyddio鈥檙 ystod lawn o鈥檔 pwerau i gaffael gwybodaeth ac i amddiffyn yr elusen, ei buddiolwyr, ei hasedau neu ei henw da. Mae rhai o鈥檙 pwerau hyn dros dro, megis cyfyngu ar drafodion neu 鈥榬ewi鈥� cyfrif banc. Mae eraill yn barhaol ac yn parhau ar 么l diwedd ymchwiliad, er enghraifft, penodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cynnal ein hymholiadau, darllenwch y canllawiau Ymholiadau statudol i elusennau: canllawiau i elusennau (CC46).
Rydym hefyd yn cyhoeddi canfyddiadau ein hymchwiliadau a gwaith achos arall.