Canllawiau

Beth yw priodas dan orfod?

Diweddarwyd 27 Mawrth 2023

Beth yw priodas dan orfod?

Gall unrhyw berson gael ei orfodi mewn i briodas - mae hyn yn cynnwys pobl o bob oed, rhyw, ethnigrwydd a chrefydd.

Priodas dan orfod yw pan nad yw un neu鈥檙 ddau berson yn cydsynio neu鈥檔 methu 芒 chydsynio i鈥檙 briodas a defnyddir pwysau neu gamdriniaeth i鈥檞 gorfodi i mewn i鈥檙 briodas. Mae hefyd yn golygu pan yw unrhyw beth yn cael ei wneud i orfodi rhywun i briodi cyn troi鈥檔 18 oed, hyd yn oed os nad oes pwysau neu gamdriniaeth.

Mae priodas dan orfod yn anghyfreithlon yn y DU. Mae鈥檔 fath o gam-drin domestig ac gamddefnydd difrifol ar hawliau dynol.

Er nad yw gorfodi rhywun i briodi yn rhywbeth corfforol bob tro, mae yn erbyn y gyfraith ar bob adeg.

Gall y pwysau a roddir ar berson i briodi gymryd sawl ffurf gwahanol:

  • pwysau corfforol gall gymryd ffurf bygythiadau neu drais (gan gynnwys trais rhywiol)
  • pwysau emosiynol neu seicolegol gall fod ar ffurf gwneud i rywun deimlo fel pe baen nhw鈥檔 dwyn cywilydd ar y teulu, gan wneud iddyn nhw gredu y gallai鈥檙 sawl sy鈥檔 agos iddyn nhw ddod yn fregus ac agored i salwch oni bai fod y person hwnnw鈥檔 priodi, neu eu rhwystro rhag cael rhyddid neu arian oni bai eu bod yn cytuno i鈥檙 briodas

Ond pan yw鈥檙 person sydd i briodi o dan 18 oed, mae gwneud unrhyw beth i鈥檞 orfodi i briodi yn drosedd 鈥� does dim rhaid iddo fod yn bwysau.

Mewn rhai achosion gellir mynd 芒 phobl dramor heb wybod eu bod yn mynd i briodi. Pan ydynt yn cyrraedd y wlad honno, gellir cymryd eu pasbort(au)/dogfennau teithio i geisio eu hatal rhag dychwelyd i鈥檙 DU.

Beth yw cydsyniad?

Er mwyn i briodas fod yn un gydsyniol, rhaid iddi fod yn un lle mae鈥檙 ddau berson yn rhydd o ran eu hewyllys i briodi. Dylech deimlo fel bod gyda chi ddewis.

Yn gyfreithiol, does gan pobl sydd a chanddynt anableddau dysgu neu gyflyrrau iechyd meddwl difrifol ddim y gallu i gydsynio i briodi, hyd yn oed ydyn nhw鈥檔 teimlo eu bod yn dymuno priodi.聽

Beth yw priodas a drefnwyd?

O ran priodas oedolion, nid yw priodas drefnedig yr un peth 芒 phriodas dan orfod. Mewn priodas drefnedig, mae鈥檙 teuluoedd yn cymryd rhan flaenllaw wrth ddewis y partner priodas, ond mae鈥檙 ddau unigolyn yn rhydd i ddewis a ydynt am ymrwymo i鈥檙 briodas.

O ran priodas plant (hyd at 18 oed), nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng priodas drefnedig a phriodas dan orfod. Mae gwneud unrhyw beth i achosi plentyn i briodi yn briodas dan orfod - ac yn drosedd.

Os ydych yn cydsynio i briodi, ond yn newid eich meddwl yn ddiweddarach 鈥� ac eto鈥檔 teimlo bod gofyn arnoch chi o hyd i briodi 鈥� yna mae hynny鈥檔 briodas dan orfod hefyd.

Beth alla i ei wneud?

Os ydych chi mewn perygl dybryd galwch yr heddlu ar 999.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael ei orfodi mewn i briodas dan orfod naill ai o fewn y DU neu dramor, gallwch ddod i gyswllt 芒鈥檙 Uned Priodas Dan Orfod.

Beth yw鈥檙 Uned Priodas Dan Orfod?

Mae鈥檙 Uned Priodas Dan Orfod yn cynnig cymorth a chyngor i ddioddefwyr, y sawl sydd mewn perygl a phobl broffesiynol.

Gall yr uned Priodas Dan Orfod roi cyngor a chymorth cyn ac ar 么l i chi adrodd am y mater i鈥檙 heddlu, a hefyd os byddwch yn dewis peidio ag adrodd o gwbl.

Ceir ystod o gymorth o gynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd i helpu dioddefwyr sydd dramor ddychwelyd i鈥檙 DU.

Mae gan weithwyr achos brofiad wrth ymdrin 芒 materion diwyllianol, cymdeithasol ac emosiynol ynghylch priodas dan orfod.

Gall yr Uned Priodas dan Orfod gynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sydd yn y DU, waeth beth fo鈥檜 cenedligrwydd. Dramor, gall ein Llysgenadaethau Prydeinig, Uchel Gomisiynau a Swyddfeydd Is-gennad ddarparu cymorth consylaidd i wladolion Prydeinig (gan gynnwys gwladolion deuol), ac mewn rhai amgylchiadau i wladolyn y Gymanwlad.

Galwch:

  • (+44) (0) 207 008 0151 Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm
  • (+44) (0) 207 008 1500 Canolfan Ymateb Byd-Eang (tu allan i oriau gwaith)
  • E-bost fmu@fco.gov.uk

Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun

Nid yw鈥檔 anarferol i deimlo鈥檔 ynysig os ydych chi neu rywun rydych chi鈥檔 ei adnabod dan bwysau i briodi. Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Bob blwyddyn, mae cannoedd o achosion yn cael eu hadrodd i ni, gan fenywod a dynion o bob oed, ethnigrwydd a chrefydd, gan gynnwys o鈥檙 gymuned LHDTC+. Eto i gyd, nid yw llawer o bobl yn adrodd yr hyn sy鈥檔 digwydd iddynt, neu鈥檙 hyn y gallent feddwl sy鈥檔 digwydd i rywun y maent yn ei adnabod.

Mae鈥檙 stor茂au bywyd go-iawn hyn yn dangos y gall priodas dan orfod ddigwydd i unrhyw un, waeth beth yw eu hoedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd 鈥� a gall adrodd amdano achub bywydau. (Nid eu henwau go iawn yw鈥檙 enwau a roddir)

Stori Aisha

鈥淩own i鈥檔 15 ac ar fin gorffen fy arholiadau TGAU pan sylweddolais i fod dad yn cynlliunio i鈥檓 danfon dramor er mwyn priodi fy nghefnder h欧n. Roedd dad yn grac iawn drwy鈥檙 amser a weithiau鈥檔 bwrw fi a fy mam. Doedd Mam ddim eisiau i fi briodi mor ifanc ond roedd gormod o ofn arni i ddweud na wrtho. Rown i鈥檔 credu byddai dad yn ceisio fy nhwyllo i i adael y wlad ac yna cymryd fy ff么n fel na fyddwn i鈥檔 gallu galw ar unrhyw un am help.鈥�

Dywedodd Aisha wrth athro yn ei hysgol, a alwodd yr Uned Priodas Dan Orfod. Gweithiodd yr Uned Priodas Dan Orfod gyda鈥檙 adran gofal cymdeithasol i blant er mwyn cael Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas Dan Orfod, a gyflwynwyd i dad Aisha. Llwyddodd y gorchymyn i atal priodas dan orfod i ddigwydd oherwydd bod tad Aisha鈥檔 methu 芒鈥檌 chymryd allan o鈥檙 wlad ac ni allai geisio am basbort ar ei rhan. Roedd聽 Aisha yn ofni aros gartref felly fe鈥檌 rhoddwyd hi dan ofal maeth diogel dros dro. Gweithiodd mam Aisha gyda鈥檙 adran gofal cymdeithsol i blant ac fe gafodd gymorth i adael tad Aisha. Mae Aisha nawr yn byw鈥檔 ddiogel gyda鈥檌 mam a鈥檌 brodyr iau ac fe lwyddodd i orffen ei harholiadau TGAU.

Stori Syed

鈥淩oeddwn yn 25 pan aeth fy rhieni聽 a fi i Bacistan ar gyfer priodas deuluol. Pan gyrhaeddais i yno darganfyddais mai fi oedd yr un oedd i briodi. Doeddwn i ddim am wneud hyny ond mae gan fy mam lawer o broblemau iechyd a dywedodd pawb fy mod yn ei gwneud hi鈥檔 fwy s芒l drwy wrthod. Wedi diwrnodau o ddweud na, yn y diwedd fe wnes i anobeithio ac ildio i ewyllys fy nheulu. Pan gyrhaeddais i adref i鈥檙 DU, fe geisiais anghofio amdano a pharhau i fyw fy mywyd. Yna, fe wnaeth teulu fy ngwraig ddechrau rhoi pwysau arnaf i wneud cais am fisa iddi ddod i鈥檙 DU. Bydden nhw鈥檔 fy ngalw a fy mygwth.鈥�

Gwnaeth Syed alwad i鈥檙 Uned Priodas Dan Orfod ar y cyfle cynharaf ac eglurodd yr Uned sut allen nhw ei helpu am ei fod yn noddwr anfodlon.

Stori Khadija

鈥淏yddwn i鈥檔 mynd i drafferth yn aml adref, am wisgo colur neu am aros allan yn hwyr gyda fy ffrindiau. Doedd fy mam ddim yn hoffi hyn ac fe fydden ni鈥檔 dadlau llawer. Pan oeddwn i鈥檔 19, dywedodd wrtha i ein bod ni鈥檔 mynd ar wyliau i ymweld 芒 fy mam-gu yn Somalia. Pan gyrhaeddais i yno, fe wnaeth mam fy ngollwng mewn ysgol breswyl a dweud wrtha i bod yn rhaid i fi aros yno hyd nes i fi ddysgu bod yn ferch Somali dda. Fe gymerodd hi fy mhasbort a fy ngadael i yno. Roedd yr ysgol yn wirioneddol ofnadwy. Bydden nhw鈥檔 ein curo ni a dweud wrthyf fi os oeddwn i am adael yna roedd yn rhaid i fi briodi un o鈥檙 gwarchodwyr.鈥�

Roedd Khadija wedi cadw a chuddio ff么n cyfrinachol. Dywedodd wrth ei chariad am yr hyn oedd wedi digwydd ac fe alwodd ef yr Uned Priodas dan Orfod. Gweithiodd yr Uned Priodas dan Orfod gyda鈥檙 heddlu yn y DU i gael Gorchymyn Diogel Rhag Priodas dan Ofal a orchymynodd mam Khadija i ddychwelyd ei phasbort iddi, ei chaniat谩u i adael yr ysgol a threfnu ei ehediad 鈥榥么l i鈥檙 DU. Helpodd yr Uned Priodas dan Orfod i Khadija ddod o hyd i lety diogel dros dro pan gyrhaeddodd hi 鈥榥么l yn y DU. Ar hyn o bryd mae hi鈥檔 byw mewn lloches ac yn derbyn cymorth gan bobl proffesiynol arbenigol i ailadeiladu ei bywyd yn annibynol o鈥檌 theulu.

Nid yw Llysgenhadaeth Prydain yn Mogadishu yn cynnig gwasanaethu consylaidd. Os ydych chi yn Somalia neu Somaliland gallwch gyslltu ag Uwch Gomisiwn Prydain yn Nairobi.)

Stori Mandeep

鈥淣eithiwr fe glywais i fy rhieni yn sgwrsio am ein taith i India yr haf yma a鈥檜 cynllun i鈥檓 brawd, Mandeep, briodi聽 tra ein bod yno. Dywedodd fy mam eu bod yn mynd yn rhy hen i ofalu amdano felly y byddai鈥檔 well iddo gael gwraig i wneud hynny. Mae gan Mandeep anableddau dysgu dwys ac mae鈥檔 ddibynol ar mam a dad am gyflawni hyd yn oed y tasgau mwyaf sylfaenol. Dwi wir ddim yn credu ei fod e鈥檔 deall unrhyw beth am fod mewn priodas.鈥�

Fe gysylltodd chwaer Mandeep 芒鈥檙 Uned Priodas dan Orfod er mwyn amlygu ei phryderon yngl欧n 芒 sefyllfa ei brawd a鈥檌 allu i ddeall yr hyn oedd ar fin digwyddd iddo. Fe wnaeth yr Uned Priodas Dan Orfod gyfeirio at y t卯m gofal cymdeithsol i oedolion gan egluro鈥檙 sefyllfa ac fe ofynon nhw a fyddai modd cwblhau Asesiad Gallu Meddyliol ar gyfer Mandeep, gan sicrhau bod ffynhonell yr wybodaeth yn parhau i fod yn anhysbys. Roedd Mandeep eisoes yn cael cymorth gan y t卯m anabledd dysgu, ond doedden nhw ddim yn ymwybodol o鈥檙 briodas oedd ar fin digwydd. Drwy gynnal yr asesiad, fe wnaethon nhw ganfod nad oedd ganddo鈥檙 gallu i gydsynio i ryw a phriodas. Drwy gyngor yr Uned Priodas dan Orfod, rhoddwyd cynllun diogelu yn ei le, gan gynnwys Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas dan Orfod. Yna, gweithiodd y t卯m anabledd dysgu gyda鈥檙 teulu i egluro risg priodas i Mandeep ac yna chwilio am opsiynau eraill ar gyfer ei anghenion hir dymor.

Stori Malcolm

鈥淪usan ydw i. Malcolm yw fy nhad. Mae e鈥檔 75 ac yn ystod y 5 mlynedd diwethaf fe ddaeth yn dost iawn gyda chlefyd Alzheimer ac mae ei dementia yn ddifrifol. Dyw e鈥� ddim yn gallu cofio鈥檙 pethau mwyaf sylfaenol, fel ble mae鈥檔 byw neu beth gafodd e鈥� i frecwast. Clywais gan ei gymydog, Pamela, yr haf diwethaf, ei bod hi wedi trefnu gwyliau ar gyfer y ddau ohonyn nhw a鈥檜 bod nhw mewn cariad ac yn cynllunio i briodi pan ddown nhw 鈥榥么l. Allwn i ddim credu鈥檙 peth. Pan wnes i holi dad yngl欧n 芒鈥檙 sefyllfa, alle fe ddim cofio cytuno i鈥檙 daith ond roedd e鈥檔 meddwl bydde gwyliau鈥檔 beth neis. Pan soniais i am briodas doedd e鈥� ddim fel pe bai鈥檔 deall.鈥�

Doedd Susan ddim yn sicr a fyddai hyn yn cael ei ddiffinio fel priodas dan orfod felly fe alwodd yr Uned Priodas dan Orfod i ofyn. Fe wnaethon nhw egluro os nad oes gan Malcolm y gallu i gydsynio i briodas, yna byddai鈥檔 drosedd iddo briodi. Cynhaliwyd asesiad gallu ar unwaith gan y t卯m gofal cymdeithasol i oedolion. Pendefynwyd nad oedd gan Malcolm y gallu i gydsynio i briodas a gwnaed y penderfyniad i鈥檙 heddlu gymryd camu er mwyn atal hyn rhag digwydd.

Cwestiynau cyffredin

Beth sy鈥檔 digwydd pan fydda i鈥檔 galw鈥檙 Uned Priodas dan Orfod?

Byddwch yn sgwrsio 芒 gweithwr achos profiadol fydd yn gwrando a chynnig cymorth a gwybodaeth wedi ei deilwra ar gyfer eich amgylchiadau unigol. Byddan nhw鈥檔 rhoi gwybod i chi am eich hawliau a鈥檙 gwasanaethau sydd
ar gael i chi. Byddwn ni ddim yn cysylltu 芒鈥檆h teulu.

Ydy galwadau sy鈥檔 cael eu gwneud i鈥檙 Uned Priodas Dan Orfod yn anhysbys?

Gallwch aros yn anhybsys os y dymunwch ond fe allai hyn gyfyngu maint y gefnogaeth gallai鈥檙 Uned Priodas dan Orfod ei gynnig, felly byddan nhw鈥檔 gofyn yn aml am bethau fel eich oedran, lleoliad a chenedligrwydd. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rannu gyda ni yn cael ei drin yn gyfrinachol, oni bai eich bod o dan 18 neu bod yna berygl uniongyrchol o niwed.

Allwch chi warantu fy niogelwch?

Er na allwn warantu eich diogelwch, gallwn eich rhoi chi mewn cyswllt gydag asiantaethau all helpu eich diogelu. Dylech alw鈥檙 heddlu bob tro ar 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn penderfynu gadael cartref?

Gall llety diogel mewn lloches fod ar gael i ddoddefwyr priodas dan orfod a gwasanaethau arbenigol ar gyfer pobl o wahanol gefndiroedd. Mae lloches lawer yn fwy na lle diogel i gysgu. Bydd staff arbenigol yn rhoi鈥檙 hyn sydd ei angen arnoch chi i鈥檆h galluogi i adeiladu bywyd newydd.

Beth sy鈥檔 digwydd os fydda i dramor ac yn llwyddo i ffoi, ond nad oes gen i ddigon o arian i hedfan adref?

Os yn bosibl o gwbl, ceisiwch gymryd peth arian parod lleol, ff么n teithiol gyda chredyd rhyngwladol a chopi o鈥檆h pasbort (ac os oes gyda chi ddogfennau preswyl neu fewnfudo o wlad arall, cymerwch rhain hefyd). Ond fe allwn helpu amnewid dogfennau teithio鈥檙 DU os oes angen. Gwnewch yn si诺r eich bod yn cadw鈥檙 eitemau hyn yn ddiogel ac wedi鈥檜 cuddio.

Gallwn gynnig cyngor a鈥檆h helpu i edrych ar nifer o opsiynau mewn perthynas 芒鈥檆h dychweliad i鈥檙 DU. Gellir defnyddio Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas dan Orfod mewn rhai amgylchiadau i helpu i dalu am gostau eich dychweliad.

Pa mor hir fydd hi鈥檔 cymryd cyn y gallaf ddod 鈥榥么l i鈥檙 DU a ble fydda i鈥檔 aros tra bod y trefniadau鈥檔 cael eu gwneud?

Byddwn yn ceisio gwneud trefniadau i chi ddod yn 么l cyn gynted 芒 phosib. Fodd bynnag, os ydych chi yn aros dramor am unrhyw gyfnod, byddwn yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i le diogel i aros.

Os ydw i dramor, beth fydd yn digwydd os nad oes gen i fy mhasbort?

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig, gallwn roi Dogfen Deithio Brys i chi unwaith ein bod yn fodlon gyda鈥檆h hunaniaeth. Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig bydd yr Uned Priodas dan Orfod yn eich cynghori i gysylltu hefyd gyda llysgenhadaeth agosa鈥檙 wlad yr ydych yn ddinesydd ohoni er mwyn ceisio cael help i ddod o hyd i ddogfen deithio newydd.

Os gwnes i briodi dramor, ydy fy mhriodas yn ddlys yn y DU?

Os yw eich priodas yn un sy鈥檔 cael ei gydnabod fel un dilys yn y wlad lle cafod ei gynnal, fe fydd yn gymwys yn y DU mewn sawl achos. Rhaid i chi siarad gyda chyfreithiwr, waeth bynnag ai priodas sifil neu grefyddol a gawsoch. Dydy ysgariad crefyddol ddim yn ddilys yn y DU.

Allwch chi fy helpu i os ydw i o dan 16?

Gallwn. Ffoniwch y llinell gymorth er mwyn trafod eich dewisiadau.

Os nad ydw i鈥檔 ddinesydd Prydeinig allwch chi fy helpu i?

Gall yr Uned Priodas Dan Orfod gynnig cymorth a chefnogaeth i unrhyw un yn y DU sydd mewn perygyl o fod mewn priodas dan orfod ond gallwn roi cymorth consylaidd dramor i ddinasyddion Prydeinig (gan gynnwys pobl 芒 chenedligrwydd ddeuol) yn unig.

A alla i gael amddiffyniad cyfreithiol i atal y briodas?

Gallwch. Mae priodas dan orfod yn drosedd yn y DU. Os ydych chi鈥檔 cael eich gorfodi i briodi, gallwch geisio cael eich diogelu鈥檔 gyfreithiol drwy鈥檙 llysoedd sifil a/neu鈥檙 system cyfiawnder troseddol.

Wrth ystyried sut mae amddiffyn eich hunan, gallwch ddewis cymryd y llwybr sifil er mwyn ceisio cael Gorchymyn Diogelu Rhag Priodas dan Orfod, neu fynd at yr heddlu a dilyn erlyniad drwy鈥檙 llys troseddol, neu鈥檙 ddau. Gallwch ddewis hefyd i beidio 芒 gwneud unrhyw un o鈥檙 pethau hyn. Gall yr Uned Priodas dan Orfod eich helpu i edrych ar yr holl opsiynau.

Gellir defnyddio Gorchmynion Diogelu Rhag Priodas dan Orfod er mwyn atal rhywun rhag cael ei orfodi mewn i briodas neu ei ddiogelu os yw priodas dan orfod eisoes wedi digwydd. Gellir arestio person am dorri gorchymyn. Am fwy o wybodaeth yngl欧n 芒鈥檙 gorchmynion hyn, gallwch alw鈥檙 Uned Priodas dan Orfod neu fynd at /government/publications/forced-marriage-protection-orders-fl701.

Cymorth a chefnogaeth

  • Heddlu yn ystod argyfwng: 999
  • Heddlu pan na fydd yn argyfwng: 101
  • Rhwydwaith Ashiana (Llundain) 鈥� lloches arbenigol, cyngor, cymorth a gwasanaethau cwnsela ar gyfer mewnywod a merched 14+ du a lleiafrifoedd ethnig: 0208 539 0427
  • Childline: 0800 1111
  • Imkaan 鈥� Sefydliad ffeministaidd du sy鈥檔 cmynd i鈥檙 afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched Du ac sydd mewn lleiafrif: 020 7842 8525
  • IKWRO 鈥� Sefydliad Hawliau Menywod (Dwyrain Llundain) 鈥� sydd yn helpu menywod a merched o鈥檙 Dwyrain Canol ac Affganistan sy鈥檔 byw yn y DU: 0207 920 6460
  • Forward (Gogledd Llundiain) 鈥� Sefydliad a arweinir gan fenywod Affricanaidd sydd yn gweithio i ddod 芒 thrais yn erbyn menywod a merched i ben: 0208 960 4000
  • Elusen Rhyddid (Freedom Charity): 0845 607 0133
  • Llinell gymorth priodas dan orfod/camdrin ar sail 鈥榓nrhydedd鈥� Karma Nirvana: 0800 5999 247
  • Project Menywod Duon Llundain (London Black Women鈥檚 Project): 0208 472 0528
  • Llinell Gyngor i Ddynion: 0808 801 0327
  • Llinell Gymorth Cam-Drin Domestig Genedlaethol: 0808 2000 247
  • Respond 鈥� ar gyfer dioddefwyr a chanddynt anableddau dysgu: 0207 383 0700
  • Y Samariaid: 116123
  • Cymorth i Fenywod Shakti (Caeredin): 0131 475 2399
  • Project Sharan 鈥� elusen sy鈥檔 cynnig cymorth a chyngor i fenywod bregus, yn enwedig o darddiad De Asiaidd, sydd wedi bod mewn perygl neu sydd mewn perygl ar hyn o bryd o gael eu diarddel o ganlyniad i gamdriniaeth neu erledigaeth: 0844 504 3231
  • Shelter 鈥� cyngor ar dai: 0808 800 4444
  • Southall Black Sisters 鈥� mudiad Asiaidd sy鈥檔 cynnig cyngor, cwnsela a chymorth arall: 0208 571 9595
  • Stonewall Housing 鈥� cyngor ar dai i bobl LHDT: 0207 359 5767
  • Switsfwrdd Llinell Gymorth LDHT+聽: 0300 330 0630
  • Tai a Chymorth Throughcare (Throughcare Housing and Support) (Birmingham): 0121 554 3920
  • Gwir Anrhydedd: 07480 621711