Siarter Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Cymraeg)
Updated 22 April 2021
Gweithio ar y cyd i lunio鈥檆h profiad o ran gwasanaeth i gwsmeriaid
Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw鈥檙 arbenigwr ac ymgynghorwr prisio eiddo ar gyfer y sector cyhoeddus. Rydym yn rhoi鈥檙 prisiadau a鈥檙 cyngor sydd eu hangen i gefnogi trethi a budd-daliadau lleol a chenedlaethol, ac yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus eraill. Mae ein gwaith wrth wraidd cyllido a gweithredu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae鈥檙 ymrwymiadau hyn yn egluro sut y byddwn yn gweithio gyda chi i roi profiad o wasanaeth proffesiynol ac arbenigol i gwsmeriaid.
Siarter y cwsmer
Dibynadwyedd
Rydym yn gyfrifol am roi prisiadau eiddo dibynadwy. Mae hyn yn helpu cynghorau lleol i gyfrifo鈥檔 gywir swm y dreth rydych yn ei thalu, neu i ddefnyddio swm cywir y rhyddhad neu鈥檙 budd-dal, ac mae鈥檔 cefnogi CThEM a chyrff cyhoeddus eraill wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau.
Efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth gennych i gadw ein cofnodion yn gyfredol. Rydym yn dibynnu arnoch i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym am eich eiddo a鈥檆h manylion rhent yn gywir. Byddwn yn eich helpu i roi鈥檙 wybodaeth gywir, a gallwn gymryd camau yn erbyn y rhai nad ydynt yn gwneud hyn yn fwriadol.
Ymatebolrwydd
Pan fyddwch yn cysylltu 芒 ni, byddwn yn ateb eich cwestiynau鈥檔 llawn, a hynny cyn gynted ag y gallwn, neu byddwn yn eich cyfeirio at y man priodol er mwyn dod o hyd i ateb.
Byddwn yn eich helpu i ddiweddaru gwybodaeth sydd gennym am eich eiddo. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am bob penderfyniad, ac yn egluro ein rhesymau a鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd nesaf.
Gallwch ein helpu drwy ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth.
Gweithio gyda chi
Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg, ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau鈥檔 hygyrch i鈥檔 holl gwsmeriaid.
Gallwch benodi rhywun i weithio gyda ni ar eich rhan, fel asiant neu berthynas. Byddwn ond yn delio ag ef os ydych wedi ei awdurdodi i鈥檆h cynrychioli. Helpwch ni drwy sicrhau bod yr wybodaeth y mae鈥檔 ei rhoi i ni yn gywir.
Eich hawliau
Byddwn yn egluro ein penderfyniadau i chi yn glir. Byddwn yn eich helpu i ddeall eich hawliau a鈥檙 opsiynau sydd ar gael i chi.
Parch
Byddwn yn eich trin yn deg, gyda chwrteisi a pharch. Gofynnwn i chi drin ein cyflogeion yn yr un modd. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad annerbyniol, a byddwn yn cymryd camau yn erbyn bygythiadau, aflonyddu a bwlio.
Diogelu data
Byddwn yn diogelu鈥檙 wybodaeth sydd gennym amdanoch chi neu鈥檆h eiddo, ac yn ei thrin yn breifat ac yn gyfrinachol. Dim ond pan fydd angen y byddwn yn rhannu鈥檙 wybodaeth honno, a byddwn yn gwneud hynny鈥檔 deg ac yn unol 芒鈥檙 gyfraith.
Eich adborth
Mae鈥檙 ymrwymiadau hyn yn amlinellu鈥檙 gwasanaeth i gwsmeriaid yr ydym am i chi ei brofi. Os oes gennych sylwadau neu awgrymiadau, byddwn yn gwrando ar eich adborth ac yn dysgu ohonynt. Os ydych am wneud cwyn, byddwn yn delio 芒 hi鈥檔 deg ac mor gyflym ag y gallwn.