Canllawiau

Credyd Cynhwysol a chredydau treth

Diweddarwyd 27 Mehefin 2023

1. Sut mae credydau treth yn cael eu heffeithio

Mae credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol i鈥檙 rhan fwyaf o bobl.

Os ydych eisoes yn cael credydau treth, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai bod eich amgylchiadau鈥檔 newid neu hyd nes y bydd DWP yn dweud wrthych am wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Dylech roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich cais am gredydau treth cyn gynted ag y bo modd drwy ffonio Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 neu ysgrifennu i鈥檙 Swyddfa Credyd Treth.

Os ydych yn colli eich swydd, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich credydau treth yn dod i ben. Ni allwch gael Credyd Cynhwysol a chredydau treth ar yr un pryd.

Os ydych yn gallu gweithio, gallwch hefyd gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd os ydych yn s芒l ac yn methu 芒 gweithio. Gallwch hawlio un o鈥檙 budd-daliadau hyn, gyda, neu yn lle Credyd Cynhwysol, yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn hawlio credydau treth ac yn dechrau byw gyda phartner sy鈥檔 cael Credyd Cynhwysol bydd eich taliadau credydau treth yn dod i ben. Byddwch chi a鈥檆h partner yn cael eich trin fel hawlwyr Credyd Cynhwysol ar y cyd yn lle hynny.

Bydd hyn yn eich helpu i reoli eich arian gyda鈥檆h gilydd ac yn wahanol i gredydau treth gallwch gael taliadau Credyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych ond yn gweithio ychydig o oriau鈥檙 wythnos. Bydd Credyd Cynhwysol hefyd yn helpu tuag at gostau gofal plant os ydych eich dau mewn gwaith.

Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h partner ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) eich bod yn awr yn byw gyda鈥檆h gilydd. Mae鈥檔 bwysig eu bod yn gwneud hyn ar unwaith er mwyn i chi eich dau fod yn sicr eich bod yn cael yr holl help y mae gennych hawl iddo.

Bydd Cyllid a Thollau EF yn atal eich credydau treth ac yn cysylltu 芒 chi i gwblhau eich dyfarniad presennol. Ni fyddwch yn cael eich trosglwyddo yn awtomatig o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol.

Bydd DWP yn dweud wrthych chi a鈥檆h partner beth sydd angen i chi ei wneud i sicrhau bod eich cais Credyd Cynhwysol ar y cyd yn mynd yn esmwyth.

2. Taliadau Credyd Cynhwysol

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn cael taliad Credyd Cynhwysol misol sengl sy鈥檔 cwmpasu chi a鈥檆h partner. Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu i gyfrif addas o鈥檆h dewis chi, a all fod yn gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn eich enw chi neu enw eich partner.

Efallai y bydd yna fwlch rhwng taliadau pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu yn fisol fel 么l-daliad, tra gall credydau treth gael eu talu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.

Os byddwch yn symud i mewn gyda phartner, byddwch yn cael eich taliad cartref newydd ar y cyd o dan Credyd Cynhwysol ar yr un diwrnod y byddai eich partner wedi cael eu taliad Credyd Cynhwysol unigol.

Mae cymorth a chyngor ariannol ar gael os ydych yn poeni am reoli bwlch rhwng i鈥檆h credydau treth ddod i ben a chael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Mae yn uno canllawiau arian a phensiynau i鈥檞 gwneud hi鈥檔 gyflymach ac yn haws i ddod o hyd i鈥檙 help cywir, mae HelpwrArian yn dod ynghyd gefnogaeth a gwasanaethau 3 darparwr arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth:

  • y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

  • y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau

  • Pension Wise

Gallwch hefyd gael cyngor dros y ff么n ar 0800 138 0555 (mae鈥檙 galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau daear).

Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar gyfer cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar gyfer y taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol, i鈥檆h helpu i reoli鈥檙 newid i daliadau misol. Os byddwch yn cael taliad ymlaen llaw, bydd eich taliadau misol yn y dyfodol yn cael eu lleihau i wneud iawn am hyn.

3. Beth sy鈥檔 digwydd i ddyled credydau treth?

Os ydych yn symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol, bydd eich dyled credydau treth yn cael ei drosglwyddo i DWP. Gellid lleihau eich taliadau Credyd Cynhwysol i adennill y ddyled hon, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr atoch o鈥檙 enw 鈥楨ich gordaliad credydau treth鈥� (TC1131) os yw eich dyled credydau treth yn cael ei drosglwyddo i DWP i鈥檞 hadfer. Efallai cewch fwy nag un llythyr, os penderfynir bod unrhyw ddyled credydau treth ychwanegol yn ddyledus, mae鈥檔 rhaid i chi ad-dalu pob un o鈥檙 dyledion hyn.

Os oes eisoes gennych gynllun ad-daliad CThEF, bydd hyn yn cael ei atal a bydd trefniadau debyd uniongyrchol yn cael eu canslo. Fodd bynnag, mae鈥檔 rhaid i chi ganslo unrhyw Archebion Sefydlog sydd gennych.

Bydd unrhyw ddyledion credydau treth sy鈥檔 cael eu rheoli gan asiantaeth casglu dyledion pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, yn cael eu dychwelyd.

Unwaith y bydd eich dyled credydau treth wedi鈥檌 throsglwyddo i DWP, byddant yn gwneud trefniadau i chi ad-dalu鈥檙 ddyled hon.