Canllawiau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: hysbysiad preifatrwydd

Cyhoeddwyd 13 Ebrill 2022

Mae鈥檙 canlynol yn esbonio鈥檆h hawliau ac yn rhoi鈥檙 wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu data鈥檙 Deyrnas Unedig (y DU).

Sylwch fod yr adran hon yn cyfeirio at eich data personol yn unig (eich enw, cyfeiriad ac unrhyw beth y gellid ei ddefnyddio i鈥檆h adnabod yn bersonol, nid gwybodaeth arall sydd wedi鈥檌 chynnwys yn eich dogfennau ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU).

1. Pwy yw鈥檙 rheolwr data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data

Mae鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rheolwr data ar gyfer yr holl ddata personol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gesglir yn y ffurflenni perthnasol a gyflwynir i鈥檙 Adran, a rheoli a phrosesu Data Personol.

Gellir cysylltu 芒鈥檙 Swyddog Diogelu Data trwy [email protected].

2. Pam yr ydym yn casglu eich data personol

Mae Awdurdodau Cyfunol Maerol, Awdurdod Llundain Fwyaf, Cynghorau Dosbarth neu Awdurdodau Unedol, wedi cael eu dynodi鈥檔 awdurdodau lleol arweiniol ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn rhan o broses asesu鈥檙 Cynllun Buddsoddi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, byddwn yn casglu鈥檙 data canlynol gan awdurdodau lleol arweiniol:

  • Enwau a manylion cyswllt staff allweddol yr awdurdod lleol sy鈥檔 paratoi鈥檙 cynlluniau buddsoddi (data personol)
  • Siartiau sefydliadol a gwybodaeth lefel uchel arall am staff a thimau mewn awdurdodau lleol a fydd yn rheoli cyflwyno rhaglenni Cronfa Ffyniant Gymunedol y DU (data personol)

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fel y gallwn gysylltu 芒 chi yngl欧n 芒鈥檆h Cynllun Buddsoddi, gofyn am ddogfennau ategol os bydd angen, prosesu ceisiadau yn y dyfodol ac at ddibenion monitro. Efallai byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu 芒 chi yngl欧n 芒 materion sy鈥檔 benodol i鈥檙 Gronfa hefyd.

3. Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu鈥檆h data personol

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn prosesu鈥檙 holl ddata yn unol 芒 darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU 2018 (GDPR y DU) a鈥檙 holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol sy鈥檔 ymwneud 芒 phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, gan gynnwys, pan fydd angen, yr arweiniad a鈥檙 codau ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw reoliadau diogelu data perthnasol eraill (a adwaenir gyda鈥檌 gilydd fel 鈥測 Ddeddfwriaeth Diogelu Data (fel y鈥檌 diwygir o bryd i鈥檞 gilydd)鈥�).

Mae鈥檙 Ddeddfwriaeth Diogelu Data yn amlinellu pryd y caniateir i ni brosesu鈥檆h data yn gyfreithlon.

Y sail gyfreithlon sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 math hwn o brosesu yw Erthygl 6 (1) (e) GDPR y DU; bod y prosesu鈥檔 angenrheidiol i gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddwyd i鈥檙 rheolwr; bod y data sy鈥檔 cael ei brosesu yn perthyn i gysylltiadau busnes a brosesir yn ystod busnes arferol adran o鈥檙 llywodraeth.

4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu鈥檙 data

Fel rhan o鈥檙 broses o asesu a monitro Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhannu鈥檆h data personol gydag adrannau perthnasol o鈥檙 llywodraeth neu gyrff hyd braich, gan gynnwys:

  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)
  • Yr Adran Addysg (DfE)
  • Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban
  • Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Swyddfa Gogledd Iwerddon
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • Trysorlys Ei Fawrhydi (HMT)
  • Swyddfa鈥檙 Cabinet

Yn dibynnu ar yr ardal gyllido, gallai鈥檙 Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau rannu data gydag adrannau鈥檙 llywodraeth yn y Gweinyddiaethau Datganoledig yn rhan o鈥檙 broses o asesu a monitro.

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data gyda chontractwyr er mwyn asesu, monitro a gwerthuso. Yn yr achos hwnnw, bydd eu contract yn amlinellu鈥檙 hyn y caniateir iddynt ei wneud 芒鈥檙 data.

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn defnyddio meddalwedd Citizen Space a ddarperir gan Delib i helpu i gasglu gwybodaeth am gynlluniau buddsoddi. Fel prosesydd data, bydd y sefydliad hwn yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol 芒 chyfarwyddyd yr Adran yn unig. Ni all gymryd perchnogaeth o鈥檙 data nac unrhyw beth sy鈥檔 deillio ohono.

Mae cytundebau prosesu data ar waith rhwng yr Adran a鈥檌 phrosesyddion data i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu gan gydymffurfio鈥檔 llwyr 芒 gofynion deddfwriaeth diogelu data.

5. Am ba mor hir y byddwn yn cadw鈥檙 data personol, neu鈥檙 meini prawf a ddefnyddir i bennu鈥檙 cyfnod cadw

Bydd eich data personol yn cael ei ddal am hyd at 7 mlynedd o鈥檙 adeg y cymeradwyir Cynlluniau Buddsoddi. Amcangyfrifir ar hyn o bryd mai鈥檙 haf 2030 fydd hyn. Yn rhan o鈥檙 broses fonitro, byddwn yn cysylltu 芒 chi鈥檔 rheolaidd i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol.

6. Eich hawliau, e.e. mynediad, cywiro, dileu

Eich data personol chi yw鈥檙 data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych lais sylweddol o ran beth sy鈥檔 digwydd iddo.

Mae gennych yr hawl i:

a. wybod ein bod yn defnyddio鈥檆h data personol

b. gweld pa ddata sydd gennym amdanoch

c. gofyn am gywiro鈥檆h data, a gofyn sut rydym yn gwirio bod y wybodaeth sydd gennym yn gywir

ch. gwrthwynebu defnyddio鈥檆h data personol mewn rhai amgylchiadau a gofyn am ddileu鈥檆h data personol pan na fydd angen ei brosesu mwyach

d. cwyno i Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) (gweler isod)

7. Anfon data dramor

Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor.

8. Gwneud penderfyniadau awtomataidd

Ni fyddwn yn defnyddio鈥檆h data ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd.

9. Storio, diogelwch a rheoli data

Rydym yn defnyddio system trydydd parti, sef Citizen Space, i gasglu gwybodaeth ar gyfer cynlluniau buddsoddi. Yn y lle cyntaf, bydd eich data personol yn cael ei storio ar eu gweinydd diogel nhw sydd wedi鈥檌 leoli yn y DU. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted 芒 phosibl, a bydd yn cael ei storio yno am hyd at 7 mlynedd cyn iddo gael ei ddileu, oni bai y byddwn yn penderfynu nad oes angen parhau i鈥檞 gadw cyn hynny.

Pan fydd data鈥檔 cael ei rannu 芒 thrydydd part茂on, fel yr amlinellir yn adran 4 uchod, rydym yn mynnu bod trydydd part茂on yn parchu diogelwch eich data a鈥檌 drin yn unol 芒鈥檙 gyfraith. Mae鈥檔 ofynnol i bob trydydd parti gymryd mesurau diogelwch priodol i ddiogelu鈥檆h gwybodaeth bersonol yn unol 芒鈥檔 polis茂au.

10. Cwynion a rhagor o wybodaeth

Os ydych yn anfodlon 芒鈥檙 ffordd y mae鈥檙 adran yn defnyddio鈥檆h data personol, gallwch gwyno.

Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) annibynnol os credwch nad ydym yn trin eich data鈥檔 deg neu yn unol 芒鈥檙 gyfraith. Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檙 ICO i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data. Mae manylion cyswllt yr ICO i鈥檞 gweld isod.

Os nad ydych yn fodlon 芒鈥檙 ffordd rydym yn defnyddio鈥檆h data personol, dylech gysylltu 芒鈥檙 canlynol yn gyntaf [email protected].

Os ydych yn anfodlon o hyd, neu os hoffech gael cyngor ar ddiogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu 芒鈥檙 canlynol:

The Information Commissioner鈥檚 Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ff么n: 0303 123 1113 neu 01625 545 745