Policy paper

Llwybr Hirdymor Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU

Published 18 December 2023

This was published under the 2022 to 2024 Sunak Conservative government

1. Pwysleisiodd yr Independent Review of Net Zero gyfle economaidd sero net a鈥檙 angen i roi sicrwydd polisi hirdymor i fusnesau er mwyn galluogi buddsoddiad datgarboneiddio. Roedd yn cynnig r么l ehangach i Gynllun Masnachu Allyriadau鈥檙 DU (UK ETS) fel sylfaen ar gyfer economi ffyniannus, wedi鈥檌 datgarboneiddio hyd at 2050 a thu hwnt. Argymhellodd fod Awdurdod UK ETS yn datblygu llwybr hirdymor ar gyfer y cynllun. [footnote 1] Mae Awdurdod UK ETS, sy鈥檔 cynrychioli Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, yn derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym yn nodi yma鈥檙 camau yr ydym yn eu cymryd i ddatblygu鈥檙 llwybr hirdymor hwnnw. [footnote 2]

Rydym wedi ymrwymo i barhau ag UK ETS yn y tymor hir

2. Mae prisio carbon yn ffordd effeithiol sy鈥檔 seiliedig ar y farchnad o alluogi busnesau i wneud penderfyniadau buddsoddi mewn datgarboneiddio sy鈥檔 rhesymegol yn economaidd. [footnote 3] Mae UK ETS yn darparu dull eang o brisio carbon, gan gefnogi marchnadoedd cystadleuol i ysgogi datgarboneiddio. Bydd y cynllun yn parhau i fod yn ysgogiad pwysig ar gyfer trosglwyddo鈥檔 economaidd effeithlon i sero net. Mae prisio allyriadau鈥檔 briodol yn unol 芒鈥檙 egwyddor mai鈥檙 llygrwr sy鈥檔 talu yn cymell datgarboneiddio ac arloesi gwyrdd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i fusnesau a gwmpesir gan UK ETS benderfynu sut i ddatgarboneiddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae鈥檔 gwneud hynny am y gost leiaf ar draws y sectorau a gwmpesir gan y cynllun ac ar yr un pryd yn darparu refeniw i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cefnogi鈥檙 pontio i sero net. [footnote 4]

3. Mae Awdurdod UK ETS felly yn cyhoeddi heddiw ein bod yn bwriadu deddfu i barhau ag UK ETS y tu hwnt i 2030 tan o leiaf 2050. Bydd y cynllun yn parhau i fod yn gyson 芒鈥檔 targedau sero net, gan roi鈥檙 sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau i fuddsoddi mewn datgarboneiddio. Rydym hefyd yn ystyried ymestyn cam nesaf UK ETS, gan ddechrau yn 2031, am fwy na deng mlynedd i鈥檞 gysoni 芒 dyddiadau cyllidebau carbon y DU. Byddwn yn ymgynghori ar y cynigion hyn wrth i ni ddatblygu鈥檙 cynllun. Byddwn hefyd yn ystyried canfyddiadau asesiad rhaglen werthuso UK ETS o鈥檌 heffeithiolrwydd o ran galluogi lleihau allyriadau mewn modd cost-effeithiol.

Byddwn yn parhau i ddatblygu UK ETS

4. Pan sefydlwyd UK ETS, ein nod oedd darparu parhad yn ein dull o brisio carbon wrth inni adael yr UE. Roeddem am roi sicrwydd polisi hirdymor i fusnesau ynghylch r么l y cynllun wrth gefnogi ein llwybr datgarboneiddio tuag at sero net. Fe wnaethom alinio鈥檙 cap ETS 芒鈥檙 trywydd sero net priodol, i ymchwilio i ehangu鈥檙 cynllun i fwy o sectorau o鈥檙 economi, ac i gynnal signal prisio carbon cadarn i roi鈥檙 hyder i fusnesau ddefnyddio鈥檙 raddfa o fuddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i gyflwyno technolegau ynni gl芒n. [footnote 5]

5. Ar 么l sefydlu鈥檙 cynllun, mae Awdurdod UK ETS wedi cymryd camau cychwynnol i鈥檞 ddatblygu yn unol 芒鈥檙 ymrwymiadau hyn. Nodwyd y camau hyn yn ein hymateb i鈥檙 ymgynghoriad ar Ddatblygu UK ETS. [footnote 6]

  • O 2024, bydd cap UK ETS yn cyd-fynd 芒鈥檙 trywydd sero net. Byddwn yn cyfyngu nifer y lwfansau carbon i gwmn茂au eu prynu mewn arwerthiant yn 2024 i 69 miliwn 鈥� 12.4 y cant yn llai nag yn 2023, a鈥檜 lefel isaf erioed. Erbyn 2027, bydd hyn yn gostwng i tua 44 miliwn 鈥� gostyngiad o 45 y cant o鈥檌 gymharu 芒 2023 鈥� cyn cyrraedd tua 24 miliwn erbyn 2030.

  • Rydym wedi cyhoeddi ehangiad cychwynnol UK ETS: cwmpas ehangach o allyriadau gan sectorau sydd eisoes yn y cynllun, gan gynnwys cwmpasu awyru CO2 gan y sector olew a nwy uwch o 2025; ehangu i allyriadau morol domestig yn 2026; i ynni o wastraff a llosgi gwastraff yn 2028; ac, yn amodol ar ymgynghoriad, ein bwriad i gynnwys prosesau tynnu nwyon t欧 gwydr peirianyddol (GGRs). Fel y nodwyd gennym yn yr ymateb i鈥檙 ymgynghoriad ar Ddatblygu UK ETS, mae鈥檙 Awdurdod yn credu y gallai UK ETS hefyd gynnig marchnad hirdymor briodol ar gyfer prosesau tynnu nwyon t欧 gwydr o ansawdd uchel yn seiliedig ar natur, yn amodol ar waith pellach i ystyried yr ystod o faterion posibl y tynnwyd sylw atynt drwy鈥檙 alwad am dystiolaeth ar brosesau tynnu nwyon t欧 gwydr a chan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd ynghylch sefydlogrwydd, costau ac effeithiau rheoli tir ehangach.

  • Mewn byd cysylltiedig, dim ond os cymerir camau i liniaru鈥檙 risg o ollyngiadau carbon y gall UK ETS fod yn wirioneddol effeithiol. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ymgynghoriad helaeth ar fesurau posibl i liniaru鈥檙 risg o ollyngiadau carbon gan gynnwys cyflwyno mecanwaith addasu ffiniau carbon ac mae bellach wedi cyhoeddi ei hymateb. Ochr yn ochr 芒鈥檙 gwaith ehangach hwn i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 risg o ollyngiadau carbon, [footnote 7] mae Awdurdod UK ETS yn adolygu ei ddull o ddyrannu lwfansau UK ETS am ddim. Bydd unrhyw fesur neu fesurau newydd yn ystyried yr effaith ar ddiwydiant a bydd angen iddynt weithio鈥檔 gydlynol gyda鈥檔 mesurau polisi gollyngiadau carbon presennol, yn enwedig dyrannu lwfansau am ddim UK ETS. Bydd Cap y Diwydiant ar faint o lwfansau sydd ar gael i鈥檞 dosbarthu am ddim yn cael ei osod ar 40% o鈥檙 cap cyffredinol. Rydym yn cynnal Adolygiad o Ddyrannu am Ddim i dargedu cymorth yn well at y sectorau sydd fwyaf mewn perygl o ollyngiadau carbon; a bydd lwfansau am ddim ym maes hedfan yn dirwyn i ben yn raddol yn 2026.

  • Rydym hefyd yn cynnal adolygiad parhaus o鈥檙 farchnad i bennu dyluniad polisi marchnadoedd UK ETS yn y dyfodol.

6. Byddwn yn parhau i ddatblygu UK ETS yn unol 芒鈥檙 cyhoeddiadau hyn. Rydym yn lansio ymgynghoriadau heddiw ar bolisi marchnadoedd a dyrannu am ddim. Byddwn yn ymgynghori ymhellach ar y rhyngweithio rhwng UK ETS a鈥檙 Cynllun Gwrthbwyso a Lleihau Carbon ar gyfer Hedfan Rhyngwladol (CORSIA) maes o law. Rydym hefyd yn adolygu gweithrediad UK ETS ers ei lansio yn 2021. Byddwn yn ymgynghori yn 2024 ar sut y bydd UK ETS yn cael ei ehangu i gynnwys gwastraff ac allyriadau morol ac ar gynnwys GGRs. Rydym yn datblygu fframwaith rheoleiddio ar gyfer integreiddio cludo heb ddefnyddio piblinellau ar gyfer Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS) a byddwn yn ymgynghori ar y manylion penodol yn 2024. Byddwn yn ymgynghori ar gyflwyno meini prawf cynaliadwyedd ar gyfer biomas. Yn amodol ar ymgynghori pellach, rydym hefyd yn bwriadu cynnwys allyriadau methan ac ocsid nitraidd o鈥檙 sector olew a nwy uwch yn y cynllun ac adolygu鈥檙 diffiniad o ffaglu er diogelwch.

Byddwn yn archwilio ehangu UK ETS i fwy o sectorau鈥檙 economi

7. O ystyried r么l prisio carbon wrth alluogi datgarboneiddio cost-effeithiol, byddwn hefyd yn parhau i archwilio ehangu鈥檙 cynllun i fwy o sectorau鈥檙 economi, gan gynnwys sectorau ag allyriadau uchel. Wrth inni wneud hynny, byddwn yn ystyried y llwybr cyflawni dangosol hyd at 2037 fesul sector a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yn y Strategaeth Sero Net, a ddangosir yn y siart isod. [footnote 8] I gydnabod bod gan bob un o鈥檙 Gweinyddiaethau Datganoledig eu targedau hinsawdd a鈥檜 llwybrau datgarboneiddio a ragwelir eu hunain, byddwn hefyd yn sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried a鈥檜 hadlewyrchu yn ein cynlluniau. Byddwn yn sicrhau bod ein hymagwedd at brisio carbon yn cefnogi busnesau ac aelwydydd i drosi i economi sero net, gan gynnwys trwy liniaru鈥檙 risg o ollyngiadau carbon, cefnogi buddsoddiad mewn technolegau carbon isel a chefnogi aelwydydd i sicrhau trosi cyfiawn.

8. Byddwn yn ystyried y pum ffactor canlynol wrth i ni archwilio鈥檙 posibilrwydd o ehangu UK ETS ymhellach. Byddwn yn cynnal asesiad ac ymgynghoriad pellach ar gyfer sectorau newydd cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau.

  • Ymarferoldeb: byddwn yn archwilio argaeledd technolegau sy鈥檔 ddigon cywir ar gyfer Monitro, Adrodd a Gwirio (MRV) nwyon t欧 gwydr ar adegau priodol yn y gadwyn werth.
  • Addasrwydd: byddwn yn asesu鈥檙 r么l bosibl y gallai UK ETS ei chwarae wrth annog datgarboneiddio ar gyfer unrhyw sector dan sylw.
  • Effaith busnes: byddwn yn ystyried yr effaith y byddai unrhyw ehangu ar y cynllun yn ei chael ar sectorau newydd ac ar gyfranogwyr presennol ym marchnad UK ETS.
  • Effaith ddosbarthiadol: byddwn yn ystyried unrhyw effeithiau andwyol ar ddefnyddwyr ac aelwydydd a chamau lliniaru posibl sydd eu hangen, gan gynnwys ystyried cydraddoldeb a chysylltiadau da o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, cyn unrhyw ehangu ar UK ETS.
  • Amseru: bydd yr amseriad ar gyfer cynnwys sectorau unigol yn dibynnu ar eu cam ar eu llwybr datgarboneiddio; gallai rhai sectorau gael eu cyflwyno鈥檔 raddol i鈥檙 cynllun dros nifer o flynyddoedd.

9. Byddwn yn archwilio r么l bosibl marchnadoedd masnachu allyriadau wrth ailgydbwyso prisiau nwy/trydan wrth i ni ystyried opsiynau ar gyfer ailgydbwyso costau polisi i ffwrdd oddi wrth drydan ac at ddefnyddio ynni ffosil pan fydd y prisiau nwy uchel presennol yn disgyn.

10. Nid ydym yn cynnig ehangu UK ETS i amaethyddiaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan ddefnyddio canfyddiadau鈥檙 cais am dystiolaeth ar r么l MRV cadarn o allyriadau nwyon t欧 gwydr ar ffermydd yn ymgynghoriad UK ETS y llynedd a thystiolaeth ychwanegol o brosiectau ymchwil parhaus, yn Lloegr bydd Llywodraeth y DU yn datblygu dull cyson o fesur allyriadau carbon o ffermydd, a allai helpu i ddatgloi llwybrau newydd i ddatgarboneiddio.

Byddwn yn parhau i ymgynghori 芒 rhanddeiliaid wrth i ni nodi rhagor o fanylion am y llwybr hirdymor ar gyfer UK ETS

11. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu UK ETS, byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn ar ein cynigion i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i鈥檙 diben: marchnad brisio carbon eang i gyfyngu ar allyriadau nwyon t欧 gwydr, gan helpu i gyflawni datgarboneiddio cost-effeithiol, wedi鈥檌 deilwra i anghenion economi鈥檙 DU yn ystod ein cyfnod pontio i sero net.

  1. adroddiad terfynol (HMSO, 13 Ionawr 2023), tud. 276.聽鈫�

  2. Mae hyn hefyd yn bodloni ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn (DESNZ, 30 Mawrth 2030), tud. 55.聽鈫�

  3. Mae鈥檙 syniad hwn wedi bod yn un o hanfodion economeg ers i Pigou (1920) ei ffurfioli. O ran sut mae鈥檔 gymwys i newid hinsawdd gweler Adolygiad Stern (2006). Am astudiaeth empirig o effeithiolrwydd prisio carbon gweler聽 , neu am adolygiad o dystiolaeth ar effeithiau ETS yr UE. Mae鈥檙 sefydliadau neu鈥檙 grwpiau economaidd sy鈥檔 cefnogi prisio carbon economi gyfan yn cynnwys, yn y DU: yr Institute for Fiscal Studies (), Policy Exchange (), Bright Blue (), yr Adam Smith Institute (), yr Institute for Public Policy Research () a鈥檙 Tony Blair Institute for Global Change (). Yn rhyngwladol: OECD (), World Bank (), IMF (), International Energy Agency (), Global Commission on the Economy and Climate ().听鈫�

  4. Gweler y (HMT, 19 Hydref 2021), tud. 68.聽鈫�

  5. (BEIS, 18 Rhagfyr 2020), tud. 129.聽鈫�

  6. i鈥檙 ymgynghoriad ar Ddatblygu UK ETS (UK ETS Authority, 3 Gorffennaf 2023).听鈫�

  7. (HMT a DESNZ, 30 Mawrth 2023).听鈫�

  8. (BEIS, 19 Hydref 2021, diweddarwyd y data 2 Ebrill 2022), tud. 18.聽鈫�