Cylch Gorchwyl Ymchwiliad COVID-19
Published 28 June 2022
Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio, yn ystyried ac yn adrodd ar y paratoadau a鈥檙 ymateb i鈥檙 pandemig yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, hyd at ac yn cynnwys dyddiad sefydlu ffurfiol yr Ymchwiliad, x Mehefin 2022.
Wrth gyflawni ei waith, bydd yr Ymchwiliad yn ystyried materion a gadwyd yn 么l ac a ddatganolwyd ar draws y Deyrnas Unedig, yn 么l yr angen, ond bydd yn ceisio lleihau dyblygu o ran ymchwilio, casglu tystiolaeth ac adrodd gydag unrhyw ymchwiliad cyhoeddus arall a sefydlwyd gan y llywodraethau datganoledig. I gyflawni hyn, bydd yr ymchwiliad yn nodi鈥檔 gyhoeddus sut y mae鈥檔 bwriadu lleihau dyblygu, a bydd yn cysylltu ag unrhyw ymchwiliad o鈥檙 fath cyn iddo ymchwilio i unrhyw fater sydd hefyd o fewn cwmpas yr ymchwiliad hwnnw.
Wrth gyflawni ei nodau, bydd yr Ymchwiliad yn gwneud y canlynol:
a) ystyried unrhyw wahaniaethau sy鈥檔 amlwg yn effaith y pandemig ar wahanol gategor茂au o bobl, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y rheini sy鈥檔 ymwneud 芒 nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chategor茂au cydraddoldeb o dan Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998;
b) gwrando ar brofiadau teuluoedd mewn profedigaeth ac eraill sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i鈥檙 pandemig, ac ystyried hynny鈥檔 ofalus. Er na fydd yr ymchwiliad yn ystyried achosion unigol o niwed neu farwolaeth yn fanwl, bydd gwrando ar y cyfrifon hyn yn sail i鈥檞 ddealltwriaeth o effaith y pandemig a鈥檙 ymateb, ac o鈥檙 gwersi i鈥檞 dysgu;
c) tynnu sylw at ba wersi a ganfuwyd yn sgil parodrwydd a鈥檙 ymateb i鈥檙 pandemig a allai fod yn berthnasol i argyfyngau sifil eraill;
d) rhoi ystyriaeth resymol i gymariaethau rhyngwladol perthnasol; a
e) chynhyrchu ei adroddiadau (gan gynnwys adroddiadau interim) ac unrhyw argymhellion yn brydlon.
Dyma nodau鈥檙 Ymchwiliad hwn:
1 Archwilio鈥檙 ymateb i COVID-19 ac effaith y pandemig yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a llunio adroddiad naratif ffeithiol, gan gynnwys:
a) Yr ymateb i iechyd y cyhoedd ledled y DU, gan gynnwys
- parodrwydd a gwytnwch;
- sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud, eu cyfleu, eu cofnodi a鈥檜 gweithredu;
- gwneud penderfyniadau rhwng llywodraethau鈥檙 DU;
- rolau llywodraeth ganolog, gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol a rhanbarthol, a鈥檙 sector gwirfoddol a chymunedol, a鈥檙 cydweithio rhyngddynt;
- argaeledd a defnydd data, ymchwil a thystiolaeth arbenigol;
- rheolaeth a gorfodaeth ddeddfwriaethol a rheoleiddiol;
- gwarchod a diogelu pobl sy鈥檔 agored i niwed yn glinigol;
- defnyddio鈥檙 cyfyngiadau symud ac ymyriadau 鈥榓nfferyllol鈥� eraill fel cadw pellter cymdeithasol a defnyddio gorchuddion wyneb;
- profi ac olrhain cysylltiadau, ac ynysu;
- yr effaith ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth, gan gynnwys y rheini a gafodd eu niweidio鈥檔 sylweddol gan y pandemig, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny;
- yr effaith ar iechyd meddwl a lles y rhai sydd mewn profedigaeth, gan gynnwys cymorth ar 么l profedigaeth;
- yr effaith ar weithwyr y sector iechyd a gofal a gweithwyr allweddol eraill;
- yr effaith ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys iechyd, lles a gofal cymdeithasol;
- darpariaeth addysg a blynyddoedd cynnar;
- cau ac ailagor y sectorau lletygarwch, manwerthu, chwaraeon a hamdden, a theithio a thwristiaeth, addoldai, a sefydliadau diwylliannol;
- tai a digartrefedd;
- diogelu a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig;
- carchardai a mannau cadw eraill;
- y system gyfiawnder;
- mewnfudo a lloches;
- teithio a ffiniau; a
- diogelu arian cyhoeddus a rheoli risg ariannol.
b) Ymateb y sector iechyd a gofal ledled y DU, gan gynnwys:
- parodrwydd, capasiti cychwynnol a鈥檙 gallu i gynyddu capasiti, a gwytnwch;
- cyswllt cychwynnol 芒 gwasanaethau cyngor gofal iechyd swyddogol fel 111 a 999;
- r么l lleoliadau gofal sylfaenol megis Ymarfer Cyffredinol;
- rheoli鈥檙 pandemig mewn ysbytai, gan gynnwys atal a rheoli heintiau, brysbennu, capasiti gofal critigol, rhyddhau cleifion, defnyddio penderfyniadau 鈥楴a cheiser dadebru cardio-anadlol鈥� (DNACPR), y dull o ymdrin 芒 gofal lliniarol, profi鈥檙 gweithlu, newidiadau i arolygiadau, a鈥檙 effaith ar lefelau staffio a staff;
- rheoli鈥檙 pandemig mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill, gan gynnwys atal a rheoli heintiau, trosglwyddo preswylwyr i gartrefi, triniaeth a gofal preswylwyr, cyfyngiadau ar ymweld, profi鈥檙 gweithlu a newidiadau i arolygiadau;
- gofal yn y cartref, gan gynnwys gan ofalwyr di-d芒l;
- gofal cynenedigol ac 么l-enedigol;
- caffael a dosbarthu cyfarpar a chyflenwadau allweddol, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ac peiriannau anadlu;
- datblygiad, darpariaeth ac effaith gwasanaethau therapiwtig a brechlynnau;
- canlyniadau鈥檙 pandemig ar ddarpariaeth ar gyfer cyflyrau ac anghenion nad ydynt yn gysylltiedig 芒 COVID; a
- ar gyfer y rheini sy鈥檔 profi COVID hir.
c) Yr ymateb economaidd i鈥檙 pandemig a鈥檌 effaith, gan gynnwys ymyriadau llywodraethol drwy:
- cymorth i fusnesau, swyddi a phobl hunangyflogedig, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm i鈥檙 Hunangyflogedig, cynlluniau benthyciadau, rhyddhad ardrethi busnes a grantiau;
- cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus perthnasol;
- cyllid ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol; a
- budd-daliadau a th芒l salwch, a chefnogaeth i bobl agored i niwed.
2 Nodi鈥檙 gwersi i鈥檞 dysgu o鈥檙 uchod, er mwyn cyfrannu at y paratoadau ar gyfer pandemigau yn y dyfodol ledled y DU.