Hysbysiad

Datganiad 188ÌåÓý wedi’i ddiweddaru â€� troseddau rheilffyrdd (ar ôl gwrandawiad y Prif Ynad)

Diweddarwyd 21 Mawrth 2025

Diweddariad � 21 Fawrth 2025

Ddydd Iau 15 Awst 2024 cyhoeddodd y ar nifer fach o achosion lle’r oedd sawl cwmni trên wedi erlyn unigolion gan ddefnyddio’r Weithdrefn Un Ynad (SJP) mewn camgymeriad. Roedd hyn er mwyn penderfynu sut yr ymdrinnir ag achosion ac euogfarnau gwallus. Penderfynodd y dylid datgan bod yr achosion hyn yn annilys, a dylid ad-dalu unrhyw beth a dalwyd am y drosedd honno.

Y cam nesaf oedd rhestru achosion eraill o’r math hwn gerbron y llys fel y gellir gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid datgan eu bod hwythau hefyd yn annilys.

Phob achosion a nodwyd eu rhestru gerbron y llys ar sawl dyddiad rhwng dydd Iau 28 Tachwedd 2024 a dydd Iau 13 Chwefror 2025. Cafodd achosion sy’n ymwneud â darparwr rheilffordd penodol eu gwrando gyda’i gilydd ac nid oedd yn ofynnol i bobl sy’n ymwneud â’r achosion hyn fynychu’r gwrandawiadau hyn.

Penderfynodd y llys ddatgan bod yr achosion hyn yn annilys,  fe defnyddio GLlTEF cofnodion llys a gwybodaeth achos a gedwir gan ddarparwyr rheilffyrdd i gysylltu y mwyafrif helaeth â’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ar bapur. Mae’r llythyrau hyn yn amlinellu beth fydd yn digwydd nesaf, yn dibynnu a yw unigolyn eisoes wedi talu dim, rhywfaint neu’r cyfan o gosb ariannol yn ymwneud â’i achos. 

Ar gyfer lleiafrif bach o achosion lle mae angen i GLlTEF egluro’r data sydd ganddo sy’n ymwneud â’r achos, byddwn yn cysylltu â’r unigolion hynny yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

Os ydych chi’n credu y gallai effeithio arnoch chi, dylech aros i ni gysylltu â chi’n uniongyrchol a dweud beth fydd yn digwydd nesaf, gan gynnwys os ydych chi wedi talu rhywfaint neu’r cyfan o’r gosb ariannol.

Os ydych chi’n credu bod eich cyfeiriad wedi newid ers i chi ddarparu hwn ddiwethaf i GLlTEF, cysylltwch dros y ffôn ar 0300 303 5858 i ddarparu gwybodaeth wedi’i diweddaru. Byddwch hefyd angen eich rhif achos neu rif cyfrif er mwyn i ni allu diweddaru eich manylion.

Os nad yw achos yn bodloni’r holl feini prawf canlynol, yna gallwn gadarnhau eisoes nad yw’n effeithio arnoch chi. Gweler yr achosion yr effeithiwyd arnynt a gafodd eu herlyn: 

  • gan Northern, Transpennine, Avanti West Coast, Greater Anglia, Great Western Railway, Arriva Rail Northern, Merseyrail, C2C neu Govia
  • rhwng 2018 a 2023 (gyda’r mwyafrif helaeth o achosion yr effeithiwyd arnynt wedi’u herlyn o 2020)
  • o dan Adran 5(1) neu 5(3) Deddf Rheoleiddio Rheilffyrdd (a byddai geiriad un o’r rhain wedi ymddangos ar yr hysbysiad un ynad y byddech wedi’i gael)

Cefndir

Mae’r Weithdrefn Un Ynad (SJP) yn caniatáu i’r rhai sy’n pledio’n euog i rai troseddau lefel isel, angharcharadwy ddatrys eu hachos heb fynd i’r llys.

Mae cwmnïau trên ac amryw gyrff eraill wedi’u hawdurdodi gan Orchymyn Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (Dull Newydd o Gychwyn Achosion) (Manyleb Erlynwyr Perthnasol) 2016 i gychwyn achos gan ddefnyddio Hysbysiad SJP.

Mae’r penderfyniad i ddefnyddio SJP yn fater i erlynwyr. Pan ddaw achosion i’r llys, mae ynadon yn penderfynu ar euogfarn a dedfryd, a gynghorir gan gynghorwyr cyfreithiol. 

Troseddau prisiau rheilffyrdd

Mae GLlTEF, yr Adran Drafnidiaeth a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol bod sawl cwmni trên wedi erlyn rhai troseddau penodol drwy SJP mewn camgymeriad mewn amgylchiadau lle:

  • nad yw’r drosedd wedi’i chynnwys yng Ngorchymyn 2016 neu
  • bod y drosedd yn un y gellir rhoi dedfryd o garchar (er na chafodd dedfryd o garchar ei phasio am y troseddau hyn drwy SJP)

Byddai unrhyw wall gweithdrefnol o’r math hwn yn ymwneud â throseddau prisiau rheilffordd penodol yn unig ac nid yw’n effeithio ar unrhyw fath arall o erlyn drwy SJP.