Canllawiau

Gwasanaeth Dal Tir y Ceidwad Swyddogol i Elusennau

Cyhoeddwyd 1 Medi 2004

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Am beth mae鈥檙 canllaw hwn?

Mae鈥檙 canllaw hwn yn disgrifio鈥檔 fyr wasanaethau鈥檙 Ceidwad Swyddogol i Elusennau o ran tir elusennau.

2. Pwy yw鈥檙 Ceidwad Swyddogol?

Mae鈥檙 Ceidwad Swyddogol yn gorfforaeth sydd wedi鈥檌 chreu gan statud i ddal tir ar ran elusennau; yn ymarferol mae鈥檔 aelod o staff y Comisiwn Elusennau a benodir i鈥檙 r么l hon. Os yw tir yn cael ei ddal gan y Ceidwad Swyddogol mae鈥檔 rhaid iddo gael ei 鈥榝reinio鈥� ynddo/ynddi.

3. Ystyr geiriau a ddefnyddir

Deddf Elusennau yw Deddf Elusennau 2011.

Tir yw tir yng Nghymru a Lloegr gyda neu heb adeiladau, ac mae鈥檔 cynnwys unrhyw ystad neu fudd mewn tir, megis prydles, hawl tramwy, hawddfraint, neu rent-dal. Yn y cyd-destun hwn nid yw鈥檔 cynnwys budd mewn tir trwy gyfrwng morgais neu warant arall yn benodol.

Ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw鈥檙 bobl sy鈥檔 gyfrifol o dan y ddogfen lywodraethol am reoli gweinyddiad yr elusen. Yn y ddogfen lywodraethol gallant gael eu galw鈥檔 aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr, yn gyfarwyddwyr, neu gall fod rhyw deitl arall ganddynt. Weithiau bydd ymddiriedolwyr gwarchod neu ymddiriedolwyr daliannol gan elusen hefyd, ac mae eu r么l wedi鈥檌 chyfyngu i ddal ei heiddo. Nid oes gan ymddiriedolwyr gwarchodaeth neu ymddiriedolwyr daliannol unrhyw bw藛 er i wneud penderfyniadau rheoli a rhaid iddynt weithredu ar gyfarwyddyd cyfreithlon yr ymddiriedolwyr elusen.

Mae鈥檙 gair 鈥榬haid鈥� yn cael ei ddefnyddio pan fydd gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol y mae鈥檔 rhaid i chi gydymffurfio ag ef. Mae 鈥榙ylai鈥� yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y canllawiau arfer da lleiaf y dylech eu dilyn oni bai bod rheswm da dros beidio 芒 gwneud hynny.

4. Cyn y gellir breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol

Rhaid i鈥檙 teitl i鈥檙 tir gael ei ddal gan yr elusen eisoes cyn y gellir ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol. Hyd yn oed pan fydd y ddwy weithred o brynu tir a breinio鈥檙 tir wedi hynny yn y Ceidwad Swyddogol yn cael eu hystyried yn rhan o un broses, dylid eu cyflawni trwy ddwy ddogfen gyfreithiol ar wah芒n. Ni all y Ceidwad Swyddogol fod yn barti a enwir mewn unrhyw drawsgludiad, trosglwyddiad, prydles neu weithred arall sy鈥檔 prynu tir.

5. Sut mae tir yn cael ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol

Gall tir gael ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol gan Orchymyn sy鈥檔 cael ei baratoi gan y Llys neu, yn fwy arferol, gan y Comisiwn, gan ddefnyddio鈥檙 darpariaethau yn y Ddeddf Elusennau. Gallwch wneud cais i freinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Cewch gopi o鈥檙 gorchymyn.

Mae tir elusennau a oedd, cyn 1 Ionawr 1961, wedi鈥檌 freinio yn Ymddiriedolwr Swyddogol Tir Elusennau, yn cael ei freinio鈥檔 awtomatig ar y dyddiad hwnnw yn y Ceidwad Swyddogol.

6. Cofrestru tir

Ar 么l i ni freinio鈥檙 tir yn y Ceidwad Swyddogol, gall ymddiriedolwyr yr elusen wneud cais i鈥檙 Gofrestrfa Tir i gofrestru eu teitl yn enw鈥檙 Ceidwad Swyddogol. Os nad yw鈥檙 tir wedi鈥檌 gofrestru, byddem yn annog ymddiriedolwyr i ystyried manteision cofrestru tir cyn breinio, megis sicrhau prawf teitl - cysylltwch 芒鈥檙 Gofrestrfa Tir am fanylion (gweler ei gwefan /government/organisations/land- registry neu edrychwch yn y cyfeirlyfr ff么n o dan 鈥淟and Registry鈥� i gael hyd i鈥檆h swyddfa leol).

7. Manteision breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol

Nid oes gan elusennau sy鈥檔 anghorfforedig, megis ymddiriedolaethau neu gymdeithasau, hunaniaeth gyfreithiol ac ni allant ddal eiddo (gan gynnwys tir) yn eu henw eu hunain. Yn lle hynny mae鈥檔 rhaid iddo gael ei ddal ar ran yr elusen gan unigolion enwebedig (a elwir yn ymddiriedolwyr daliannol, ac yn aml mewn un neu ragor o鈥檙 ymddiriedolwyr elusen) neu gorfforaeth gorfforedig (gweler isod). Yn achos unigolion, bydd yr unigolion hyn yn newid o bryd i鈥檞 gilydd (e.e. oherwydd eu bod yn ymddeol neu鈥檔 marw), a bydd gweithredoedd newydd yn ofynnol i drosglwyddo鈥檙 eiddo i鈥檞 holynydd. Fodd bynnag, mae breinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol yn osgoi鈥檙 angen i wneud hyn. Mae dwy fantais i hyn:

  • mae鈥檙 elusen yn arbed y gost o baratoi鈥檙 gweithredoedd newydd sy鈥檔 ofynnol pan fydd ei hymddiriedolwyr daliannol yn newid
  • nid oes unrhyw berygl y bydd tir elusen yn aros wedi鈥檌 freinio mewn pobl nad ydynt yn ymwneud 芒鈥檙 elusen mwyach ac y gall fod yn anodd i鈥檞 holrhain

Os yw鈥檙 elusen yn gwmni neu鈥檔 gorfforaeth gorfforedig arall mae ganddi ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun a gall ddal eiddo (gan gynnwys tir) yn ei henw ei hun. Felly nid oes angen breinio鈥檙 tir yn y Ceidwad Swyddogol oherwydd nid yw hyn yn cynnig unrhyw fanteision ychwanegol. Mae hyn yn gymwys i elusennau anghorfforedig sydd o dan ymddiriedolaeth corfforaeth gorfforedig hefyd (er enghraifft os yw鈥檙 ymddiriedolwyr wedi corffori eu hunain o dan y Ddeddf Elusennau). Yn yr achos hwn gall yr ymddiriedolwr corfforedig ddal y tir ar ran yr elusen, heb ystyried unrhyw newid yn yr unigolion sy鈥檔 ffurfio鈥檙 corff ymddiriedolwyr.

Os yw tir elusennau wedi鈥檌 freinio mewn pobl sydd heb gysylltiad mwyach 芒鈥檙 elusen ac yn enwedig os yw鈥檙 holl bobl y breiniwyd y tir ynddynt wedi marw neu nid oes modd eu holrhain, mae鈥檔 bosib mai Gorchymyn gan y Comisiwn sy鈥檔 breinio鈥檙 tir yn y Ceidwad Swyddogol yw鈥檙 ffordd orau o sicrhau bod yr elusen yn gallu dangos ei bod yn berchen ar y tir.

Mae breinio yn y Ceidwad Swyddogol yn symleiddio perchnogaeth tir elusen a gall olygu bod delio 芒鈥檙 tir (megis gwerthu neu ei roi ar brydles) yn llai trafferthus a chostus. Er enghraifft, yn achos tir anghofrestredig bydd nifer y gweithredoedd y mae angen ei gynhyrchu yn cael ei leihau ac ni fydd angen profi bod yr ymddiriedolwyr blaenorol wedi marw.

At hynny, mae gwasanaethau鈥檙 Ceidwad Swyddogol yn rhad ac am ddim.

8. Rheoli鈥檙 tir

Ni all y Ceidwad Swyddogol gymryd rhan wrth reoli鈥檙 tir a freiniwyd ynddo/ynddi. Mae ymddiriedolwyr elusen yn cadw鈥檙 holl bwerau a dyletswyddau rheoli. Er enghraifft, bydd rhaid iddynt barhau i wneud y canlynol:

  • penderfynu sut y dylid gosod y tir (os yw dogfen lywodraethol yr elusen yn datgan y gall y tir gael ei osod neu fod rhaid i鈥檙 tir gael ei osod)
  • gwneud trefniadau ar gyfer casglu rhent
  • sicrhau os yw鈥檙 tir yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth at ddiben arbennig ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben hwnnw ac nid rhyw ddiben arall
  • gwarchod y tir, er enghraifft, trwy sicrhau bod ei ffiniau wedi鈥檜 diffinio鈥檔 glir a thrwy archwilio cyflwr y tir o dro i dro er mwyn gwneud yn siw藛 r nad yw鈥檔 cael ei gamddefnyddio
  • gwneud trefniadau ar gyfer cynnal a chadw a gwella鈥檙 tir, os oes angen

Nid yw breinio tir elusen yn y Ceidwad Swyddogol yn newid unrhyw bwerau ymddiriedolwyr elusen i werthu鈥檙 tir. Efallai fod cyfyngiadau ar werthu鈥檙 tir ond fel arfer byddant yn codi o鈥檙 canlynol:

  • telerau dogfen lywodraethol yr elusen
  • y Ddeddf Elusennau
  • Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 yn achos elusen a gofrestrwyd fel cymdeithas tai

Mae鈥檙 cyfyngiadau hyn yn gymwys os yw鈥檙 tir wedi鈥檌 freinio yn y Ceidwad Swyddogol neu beidio.

9. Beth sydd angen ei wneud pan fydd tir a freiniwyd yn y Ceidwad Swyddogol yn cael ei werthu?

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Ceidwad Swyddogol fod yn barti i unrhyw drawsgludiad, trosglwyddiad, prydles neu weithred arall sy鈥檔 ymwneud 芒 gwerthu tir a freiniwyd ynddo/ynddi.

Nid oes angen i鈥檙 Ceidwad Swyddogol roi ei s锚l ar y weithred heblaw yn yr achos a nodwyd isod. Yn lle hynny, bydd y weithred yn cael ei harwyddo yn enw ac ar ran y Ceidwad Swyddogol gan ymddiriedolwyr yr elusen. Bydd rhaid i bob un o鈥檙 ymddiriedolwyr elusen arwyddo鈥檙 weithred oni bai bod dau neu ragor ohonynt wedi cael eu hawdurdodi i wneud hynny o dan y Ddeddf Elusennau.

Mae achos lle mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Ceidwad Swyddogol roi ei s锚l ar unrhyw weithred sy鈥檔 ymwneud 芒 gwerthu鈥檙 tir a freiniwyd ynddo/ynddi yn codi:

  • os cafodd y tir dan sylw ei freinio yn y Ceidwad Swyddogol trwy Orchymyn a wnaed o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993 cyn hyn), sy鈥檔 rhoi鈥檙 pw藛 er i ni weithredu er mwyn gwarchod elusennau
  • os nad yw鈥檙 tir sy鈥檔 cael ei werthu wedi鈥檌 awdurdodi trwy Orchymyn gan y Llys neu gan y Comisiwn
  • Yn yr achosion hyn mae angen anfon drafft o鈥檙 weithred atom i鈥檞 gymeradwyo. Os ydym yn cymeradwyo鈥檙 drafft bydd y Ceidwad Swyddogol yn rhoi ei s锚l ar y weithred ar gais yr ymddiriedolwyr elusen, ar yr amod nad yw鈥檔 golygu tor-ymddiriedaeth ac nid yw鈥檔 gosod unrhyw atebolrwydd personol ar y Ceidwad Swyddogol

Yn achos tir cofrestredig, dylai鈥檙 ymddiriedolwyr hefyd hysbysu鈥檙 Gofrestrfa Tir am y trafodiad er mwyn i鈥檙 Gofrestrfa allu newid ei chofnodion yn unol 芒 hynny.

Am wybodaeth yngly藛n 芒 phryd mae angen awdurdod y Llys neu鈥檙 Comisiwn er mwyn gwerthu tir elusen, edrychwch ar ein canllaw Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28).

10. Y gweithredoedd eiddo

Fel arfer bydd y Ceidwad Swyddogol yn caniat谩u i ymddiriedolwyr elusen gadw neu gael rheolaeth ar y dystysgrif tir neu鈥檙 gweithredoedd eiddo i鈥檙 tir a freiniwyd ynddo/ynddi.

11. Pryd na ellir breinio tir yn y Ceidwad Swyddogol

Fel rheol ni fyddwn yn gwneud Gorchymyn yn breinio tir elusennau yn y Ceidwad Swyddogol os cafodd y tir ei drawsgludo i ymddiriedolwyr:

  • o dan ddarpariaethau arbennig Deddf Safleoedd Ysgolion 1841, Deddf Sefydliadau Gwyddonol a Llenyddol 1854 neu Ddeddf Safleoedd Addoli 1873
  • ar y telerau penodol y dylai鈥檙 tir gael ei ddychwelyd i鈥檙 rhoddwr neu ei etifeddion os yw鈥檔 peidio 芒 chael ei ddefnyddio at y diben y rhoddwyd y tir ar ei gyfer

Y rheswm am hyn yw y gallai鈥檙 Ceidwad Swyddogol yn yr achosion uchod fod yn ymddiriedolwr y tir at ddibenion anelusennol, a gall ef/hi ddal tir a ddelir ar ymddiriedolaethau elusennol yn unig.