Crynodeb gweithredol
Cyhoeddwyd 23 Mawrth 2021
Mae鈥檙 weledigaeth hon ledled y DU ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol i bawb sy鈥檔 gweithio yn y GIG, i unrhyw un sy鈥檔 ystyried cymryd rhan mewn ymchwil ac i bawb sy鈥檔 noddi ac yn cefnogi ymchwil ar draws diwydiant, y byd academaidd a鈥檙 trydydd sector.
Ymchwil clinigol yw asgwrn cefn gofal iechyd 鈥� dyma鈥檙 ffordd yr ydym yn gwella atal, canfod, diagnosio, a thrin afiechyd. Mae cyflenwi鈥檙 ymchwil hwn yn dibynnu ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cefndir yn gweithio law yn llaw 芒 chyfranogwyr ymchwil, eu teuluoedd a鈥檜 gofalwyr.
Yma, rydym yn nodi ein huchelgais i greu amgylchedd ymchwil clinigol sy鈥檔 canolbwyntio ar y claf, sydd o blaid arloesi ac wedi鈥檌 alluogi鈥檔 ddigidol, sy鈥檔 grymuso pawb ledled y GIG i gymryd rhan mewn cyflenwi ymchwil, ac yn sicrhau bod cleifion o bob rhan o鈥檙 DU yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn ymchwil sy鈥檔 berthnasol iddynt.
Bydd gweithredu鈥檙 weledigaeth hon yn rhyddhau gwir botensial ein hamgylchedd ymchwil clinigol i wella iechyd pob un ohonom, i fanteisio ar ein harbenigedd ymchwil enwog, a gwneud y DU yn un o鈥檙 lleoedd gorau yn y byd i ddylunio a chyflenwi ymchwil.
Dangosodd y pandemig COVID-19 yn glir gryfder ein sylfaen ymchwil, trwy ddarparu treialon platfform yn gyflym, fel RECOVERY, a鈥檔 cyfraniad blaenllaw i鈥檙 ymdrech frechlyn fyd-eang, sef ein hachubiaeth yn 么l i normalrwydd.
Bu cydweithredu yn sylfaen i鈥檔 llwyddiant. Mae ein gwyddonwyr a鈥檔 rheolyddion sy鈥檔 arwain y byd wedi gweithio鈥檔 agos gyda diwydiant ac elusennau ymchwil meddygol, ochr yn ochr 芒鈥檔 gweithlu ymchwil ymroddedig, gan gynnwys staff o bob rhan o鈥檙 GIG a miloedd o gyfranogwyr o bob un o 4 cornel y DU. Rydym wedi dangos, pan ddown at ein gilydd, y gall ymchwil clinigol y DU fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau gofal iechyd mwyaf dybryd.
Ond rydym hefyd wedi dysgu rhai gwersi pwysig o鈥檙 pandemig yngl欧n 芒 lle mae angen i ni wella. Er holl lwyddiannau ein hymchwil COVID-19, rydym wedi gweld ymchwil arall yn dioddef. Mae鈥檙 pwysau ar y gweithlu a鈥檙 amharu a fu ar ddulliau cyflenwi traddodiadol wedi arwain at gau safleoedd astudio, neu fe鈥檜 gwelsom nhw鈥檔 cael trafferth recriwtio yn ystod y pandemig 鈥� gan beri i ymchwil arafu. Ac er ein bod wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o ddylunio a darparu treialon arloesol, mae angen i ni fynd ymhellach fyth i gefnogi treialon mwy arloesol ar draws pob cam, pob math o driniaeth a phob cyflwr 鈥� i ymgorffori dulliau arloesol ar draws ein hecosystem ymchwil gyfan. Yn bwysicaf oll, mae鈥檙 pandemig wedi dangos yn glir yr anghydraddoldebau iechyd annerbyniol sy鈥檔 parhau ledled ein gwlad. Rhaid i鈥檙 rhain fod yn gatalydd ar gyfer newid.
Yr amser i weithredu yw nawr. Mae technolegau a thriniaethau newydd a yrrir gan ddata a dadansoddeg yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn diagnosio, yn trin ac yn atal salwch. Rydym yn benderfynol y bydd y DU ar flaen y gad yn y chwyldro gofal iechyd hwn ac mae ein gweledigaeth yn nodi sut y byddwn yn darparu ecosystem ymchwil clinigol sy鈥檔 manteisio ar arloesi, yn cyflawni ar gyfer yr holl noddwyr ymchwil, yn wydn yn wyneb argyfyngau gofal iechyd yn y dyfodol ac yn cynnig gobaith o鈥檙 newydd i gleifion ledled y DU.
Felly, wrth i ni ddechrau dod allan o gysgod y pandemig, mae鈥檔 rhaid i ni ddefnyddio hwn fel cyfle i ddysgu gwersi ac adeiladu鈥檔 么l yn well.
Yr hyn yr ydym am gyflawni
Mae 5 thema allweddol yn sail i鈥檔 gweledigaeth:
-
Ymchwil clinigol wedi鈥檌 ymgorffori yn y GIG 鈥� i greu diwylliant sy鈥檔 gadarnhaol o safbwynt ymchwil, lle mae鈥檙 holl staff iechyd a gofal yn teimlo eu bod wedi鈥檜 grymuso i gefnogi a chymryd rhan mewn ymchwil clinigol fel rhan o鈥檜 swydd.
-
Ymchwil sy鈥檔 canolbwyntio ar y claf 鈥� i wneud mynediad a chyfranogiad mewn ymchwil mor hawdd 芒 phosibl i bawb ledled y DU, gan gynnwys poblogaethau gwledig, amrywiol a鈥檙 rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu鈥檔 ddigonol.
-
Ymchwil symlach, effeithlon ac arloesol 鈥� fel bod y DU yn cael ei hystyried fel y lle gorau yn y byd i gynnal ymchwil clinigol cyflym, effeithlon a blaengar.
-
Ymchwil wedi鈥檌 alluogi gan ddata ac offer digidol 鈥� i sicrhau bod gan y DU yr amgylchedd ymchwil clinigol mwyaf datblygedig a alluogir gan ddata yn y byd, sy鈥檔 manteisio ar ein hasedau data unigryw i wella iechyd a gofal cleifion ledled y DU a thu hwnt.
-
Gweithlu ymchwil cynaliadwy a gefnogir 鈥� sy鈥檔 cynnig cyfleoedd gwerth chweil a gyrfaoedd cyffrous i鈥檙 holl staff gofal iechyd ac ymchwil o bob cefndir proffesiynol 鈥� ar hyd a lled ymchwil masnachol ac anfasnachol.
Ein strategaeth a鈥檔 cynlluniau ar gyfer cyflenwi
Mae gennym gynlluniau yn eu lle i wireddu鈥檙 weledigaeth hon. Rydym wedi nodi 7 maes ar gyfer gweithredu, i chwalu rhwystrau traddodiadol a chyflenwi amgylchedd ymchwil clinigol sy鈥檔 canolbwyntio ar y claf ac sydd o blaid arloesi.
-
Gwella cyflymder ac effeithlonrwydd sefydlu鈥檙 astudiaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflymu costio, contractio a chymeradwyo 鈥� i gyd yn feysydd y gwyddom a all achosi oedi. Ac rydym yn mynd ymhellach, i gyflymu cymeradwyo a chyflenwi ymchwil. Er enghraifft, mae鈥檙 Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi lansio peilot adolygiad moeseg cyflym ar gyfer treialon clinigol byd-eang a cham I, sy鈥檔 ceisio haneru鈥檙 amser a gymerir i gymeradwyo ceisiadau ymchwil.
-
Adeiladu ar lwyfannau digidol i ddarparu ymchwil clinigol. Rydym wedi gweld grym llwyfannau ymchwil digidol yn ystod COVID-19, gydag NHS DigiTrials yn cefnogi cyflenwi treialon brechlyn a therapiwtig yn gyflym. Bellach, mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiannau hyn a chynyddu鈥檙 capasiti i lwyfannau digidol wella鈥檙 modd y cyflenwir ymchwil. Bydd hyn yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 beichiau iechyd poblogaeth pwysig eraill, megis canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, yn lleihau鈥檙 baich ar staff iechyd a gofal rheng flaen a chefnogi cyflenwi ymchwil ar gyfer triniaethau a thechnolegau blaengar, gan gynnwys meddyginiaethau genomig.
-
Cynyddu鈥檙 defnydd o ddyluniadau ymchwil arloesol. Rydym yn gweld timau astudio ledled y wlad yn addasu dulliau cyflenwi ymchwil i fanteisio ar brosesau a thechnolegau rhithwir yn yr amgylchedd presennol. Mae arnom angen i鈥檙 dulliau newydd hyn gael eu mabwysiadu ar draws ymchwil masnachol ac anfasnachol yn y dyfodol. Bydd hyn yn gwneud yn haws i bobl gael mynediad at ymchwil, a bydd hefyd yn rhyddhau capasiti yn y GIG. Trwy helpu i ddarparu鈥檙 ymchwil gorau lle mae鈥檔 fwyaf addas, byddwn yn parhau i gefnogi astudiaethau arloesol ar gyfer triniaethau a thechnolegau blaengar ar draws pob cam, pob therapi a phob cyflwr.
-
Alinio ein rhaglenni a鈥檔 prosesau ymchwil ag anghenion system iechyd a gofal y DU. Rydym yn edrych tuag at anghenion iechyd y boblogaeth a鈥檙 gwasanaeth iechyd yn y dyfodol 鈥� er mwyn deall yn well y gofynion a roddir ar y gwasanaeth ac i sicrhau ein bod yn nodi鈥檙 ymchwil sydd ei angen fwyaf i gefnogi cleifion a鈥檙 GIG ledled y Deyrnas Unedig.
-
Gwella gwelededd a gwneud cyflenwi ymchwil yn bwysig i鈥檙 GIG. Rydym yn ymgysylltu 芒 staff iechyd a gofal ac arweinyddiaeth i wreiddio鈥檙 syniad bod ymchwil clinigol yn rhan hanfodol a gwerth chweil o ofal cleifion effeithiol. Ac rydym yn gweithio i greu鈥檙 cymhellion ac ysgogiadau yn y system i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod wedi鈥檜 grymuso i gefnogi ymchwil a gweld y buddion a ddaw yn ei sgil i鈥檞 cleifion. Mae hyn yn golygu dal, monitro a hyrwyddo gweithgaredd ymchwil ar draws y GIG 鈥� gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau at astudiaethau ymchwil, nifer y cyfranogwyr sy鈥檔 cael eu recriwtio, a chasglu data da mewn cofnodion iechyd electronig. Ac mae鈥檔 golygu adeiladu ymchwil i mewn i ofynion rheolyddion gofal iechyd ar gyfer cyrff y GIG a gofynion ailddilysu ar gyfer meddygon a nyrsys.
-
Gwneud ymchwil yn fwy amrywiol ac yn fwy perthnasol i鈥檙 DU gyfan. Trwy adeiladu ar ganolfannau rhagoriaeth, fel y Ganolfan Iechyd BME yng Nghaerl欧r, byddwn yn cynyddu鈥檙 gefnogaeth i ymchwil mewn poblogaethau mwy amrywiol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu鈥檔 ddigonol. Byddwn hefyd yn sicrhau, lle bynnag y bo hynny鈥檔 bosibl, bod ymchwil yn cael ei gyflenwi yn y mannau hynny lle mae鈥檙 cleifion 芒鈥檙 anghenion mwyaf yn byw. Mae hyn yn golygu cynyddu鈥檙 capasiti a鈥檙 hyder i gyflenwi ymchwil mewn ardaloedd sydd 芒鈥檙 beichiau gofal iechyd mwyaf a鈥檙 lefelau amddifadedd uchaf.
-
Cryfhau cyfranogiad y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth mewn ymchwil. Byddwn yn ehangu cefnogaeth i helpu noddwyr i gael mynediad hawdd at grwpiau cleifion a all gefnogi datblygiad eu hastudiaethau. Byddwn yn sicrhau bod ymchwil a ariennir yn gyhoeddus yn modelu鈥檙 safonau uchaf o ran cyfranogiad y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio a chyflenwi ymchwil, ac yn parhau i bartneru 芒 chyllidwyr eraill i wella amrywiaeth ac ymgysylltiad ar draws yr holl ymchwil clinigol.
Y camau nesaf
Dilynir cyhoeddi鈥檙 weledigaeth hon ledled y DU gan gynlluniau a strategaethau ar draws llywodraeth y DU a鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhain yn nodi鈥檙 hyn y byddwn yn ei gyflawni yn ystod 2021 i 2022.
Mae iechyd yn fater datganoledig, ac felly mae gan bob gweinyddiaeth unigol yr hyblygrwydd i gyflawni鈥檙 weledigaeth yn y ffordd sydd fwyaf effeithiol i鈥檞 phoblogaeth. Fodd bynnag, mae鈥檙 4 weinyddiaeth wedi ymrwymo i gydweithio ar y cyd a, lle bynnag y bo hynny鈥檔 bosibl, byddwn yn cronni ein hymdrechion ar y cyd ac yn defnyddio dulliau ledled y DU. Unwaith y bydd cyflenwi ar gyfer 2021 i 2022 ar y gweill a bod ein sylfeini cryf yn eu lle, byddwn wedyn yn gosod ein golygon hyd yn oed yn uwch.
Bydd cynllun manwl a fydd yn cyflenwi ein gweledigaeth ac yn rhyddhau gwir botensial ymchwil clinigol y DU. Gyda鈥檔 gilydd, gallwn greu amgylchedd cyflenwi ymchwil sy鈥檔 gwella bywydau cleifion, yn lefelu cyfleoedd economaidd ledled y DU ac yn cryfhau ein gwytnwch iechyd, i gyd tra鈥檔 mynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Dyma beth sydd ei angen ar y DU, yr hyn y mae cleifion yn ei haeddu, a鈥檙 hyn sy鈥檔 rhaid i ni ei gyflenwi.