Dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU: Cynllun gweithredu 2021 i 2022
Cynllun Gweithredu Ymchwil Clinigol ledled y DU ar gyfer 2021-2022 - sy'n nodi ein camau cyntaf tuag at gyflenwi'r weledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol y DU.
Dogfennau
Manylion
Wedi鈥檌 gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, mae Arbed a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU yn nodi ein gweledigaeth i ryddhau potensial llawn cyflwyno ymchwil clinigol yn y DU i helpu i fynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau iechyd, hybu twf economaidd a gwella bywydau pobl ledled y DU.
Fel y cam cyntaf tuag at wireddu鈥檙 weledigaeth hon, rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu ledled y DU ar gyfer 2021-2022 gyda chefnogaeth o dros 拢64m mewn cyllid pwrpasol. Yma rydym yn nodi鈥檙 camau diriaethol y byddwn gyda鈥檔 gilydd yn eu cymryd yn ystod y misoedd nesaf, mewn cydweithrediad agos 芒鈥檙 gymuned ymchwil clinigol a鈥檔 partneriaid cyflenwi trwy raglen Adfer, Cydnerthedd a Thwf Ymchwil Clinigol (RRG) y DU (RRG).
Gyda鈥檔 gilydd byddwn yn canolbwyntio ar:
- Gyflenwi ein rhaglen waith ledled y DU i yrru adferiad rheoledig astudiaethau aml-safle
- Cyflenwi鈥檙 ymrwymiadau presennol i wneud cyflwyno ymchwil clinigol yn y DU yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol
- Dechrau cyflenwi mentrau newydd uchelgeisiol a fydd yn ein gosod ar y llwybr tuag at wireddu ein gweledigaeth feiddgar ar gyfer dyfodol ymchwil clinigol y DU.
Gyda鈥檙 buddsoddiad cywir ar waith, byddwn yn cyhoeddi cynlluniau pellach yn y blynyddoedd i ddod, a fydd yn adeiladu ar y sylfeini cryf hyn i greu amgylchedd ymchwil wedi鈥檌 alluogi鈥檔 ddigidol, o blaid arloesi ac sy鈥檔 canolbwyntio ar y claf.
Hoffai鈥檙 Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiolch i鈥檙 gymuned ymchwil a鈥檙 holl randdeiliaid am eu cymorth i ddatblygu鈥檙 Cynllun Gweithredu hwn.