Transparency data

Cylch Gorchwyl: Adolygiad Annibynnol I鈥檙 Gwasanaeth A Phrofiad Cyn-Filwyr Lhdt A Wasanaethodd Cyn 2000 (Welsh)

Published 22 June 2022

Cefndir

Hyd at 12 Ionawr 2000, roedd gwaharddiad cyffredinol ar bresenoldeb Cyfunrywiol yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Gallai鈥檙 rhai roedd yn gwasanaethu a oedd, neu y canfuwyd eu bod, yn gyfunrywiol wynebu ymchwiliadau ymwthiol ac yn y pen draw gael eu diswyddo neu eu gorfodi fel arall i adael Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Mae鈥檙 Llywodraeth yn derbyn bod y polisi hanesyddol hwn yn anghywir ac mae wedi ymrwymo i weithio i ddeall, cydnabod a lle bo鈥檔 briodol mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 effaith y mae wedi鈥檌 chael ar gyn-filwyr heddiw, yn enwedig mewn perthynas ag aelodau o鈥檙 gymuned LHDT.

Diben

Mae Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn wedi gofyn ar y cyd i鈥檙 Arglwydd Etherton i ddarparu adroddiad annibynnol i鈥檙 Llywodraeth o wasanaeth a phrofiadau cyn-filwyr LHDT a wasanaethodd yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi rhwng 1967 a 2000. Bydd yr adolygiad hwn yn rhoi cyfle i鈥檙 rhai yr effeithiwyd arnynt gael eu clywed a galluogi鈥檙 Llywodraeth i gydnabod yn well effaith y polis茂au hanesyddol yn ogystal 芒 chydnabod y profiad bywyd o wasanaethu ar gyfer y cyn-filwyr hynny, er mwyn deall eu hanghenion cymorth yn well heddiw.

Amcanion

Bydd yr adolygiad yn ystyried profiadau cyn-filwyr LHDT a鈥檜 teuluoedd yng nghyd-destun y gwaharddiad cyn 2000, gan gynnwys:

A. natur diswyddo ac ymadawiadau eraill o鈥檙 Lluoedd Arfog;

B. yr effaith a gafodd eu profiad yn y gorffennol yn y Lluoedd Arfog ar eu bywydau dilynol; a

C. effaith y gwaharddiad ar eraill yng nghymuned y Lluoedd Arfog a allai fod wedi cael eu heffeithio, fel y rhai鈥檙 canfyddwyd yn anghywir eu bod yn gyfunrywiol.

Bydd yr Adolygiad yn gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth ynghylch sut y gall y Llywodraeth gyflawni eu hymrwymiad yn y Strategaeth Cyn-filwyr, i sicrhau bod gwasanaeth a phrofiad pob cyn-filwr yn cael eu deall a鈥檜 gwerthfawrogi, mewn perthynas 芒鈥檙 gymuned cyn-filwyr LHDT. Dylai unrhyw argymhellion fod yn gymesur, gan ystyried gweithredu.

Cwmpas

Dylai鈥檙 Adolygiad archwilio ac ystyried profiad person茅l LHDT a wasanaethodd rhwng 1967 a 2000. Mae鈥檙 cyfnod penodedig hwn yn cynrychioli dechrau dad-droseddoli gweithredoedd cyfunrywiol preifat rhwng dynion dros 21 oed yng Nghymru a Lloegr hyd at godi鈥檙 gwaharddiad ar gyfunrywioldeb yng Nghymru a Lloegr yn y Lluoedd Arfog ym mis Ionawr 2000.

Dylai鈥檙 adolygiad roi sylwadau ar:

Yr ystod o effeithiau posibl y gallai鈥檙 gwaharddiad fod wedi鈥檌 chael ar y rhai yr effeithiwyd arnynt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau ar gyfer perthnasoedd yn y dyfodol, cyflogadwyedd neu sefyllfa ariannol;

Sut y gellid gwneud gwasanaethau i gyn-filwyr heddiw yn fwy hygyrch a chynhwysol fel bod cyn-filwyr LHDT, a ddiswyddwyd neu y mae鈥檔 ofynnol iddynt fel arall adael Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu y mae鈥檙 gwaharddiad hanesyddol wedi effeithio鈥檔 andwyol arnynt fel arall, yn teimlo bod croeso iddynt a bod y gwasanaethau 鈥榠ddyn nhw鈥�;

Sut y gall y Llywodraeth sicrhau bod cyn-filwyr sy鈥檔 cael eu diswyddo neu y mae鈥檔 ofynnol iddynt fel arall adael Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol canfyddedig yn cael eu cydnabod a鈥檜 derbyn fel aelodau llawn o gymuned y Lluoedd Arfog a bod Llywodraeth EM yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu gwasanaeth; a

Unrhyw ymchwil pellach, neu adolygiad polisi y gallai鈥檙 Llywodraeth ei gynnal i ddeall a cheisio lliniaru unrhyw effeithiau, gan gynnwys unrhyw effaith ariannol.

Allan O鈥檙 Cwmpas

Ni ddylai鈥檙 Adolygiad archwilio ac ystyried profiad person茅l y lluoedd arfog a wasanaethodd y tu allan i鈥檙 cyfnod penodedig a ddisgrifir ym mharagraff 5, ac ni ddylai鈥檙 Adolygiad archwilio ac ystyried profiad person茅l y lluoedd arfog mewn grwpiau lleiafrifol eraill ychwaith.

Bydd cwmpas yr Adolygiad yn cael ei gyfyngu i edrych ar wasanaeth o fewn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi. Mater i鈥檙 Llywodraeth fydd nodi unrhyw wersi ehangach a allai fod yn berthnasol i feysydd eraill o鈥檙 Llywodraeth ac ni ddylai鈥檙 adroddiad wneud sylw ar y maes hwn.

Dylai argymhellion ganolbwyntio ar y canlyniad dymunol, gan adael hyblygrwydd i鈥檙 Llywodraeth o ran sut i gyflawni hynny drwy newid polisi neu broses. Ni ddylai argymhellion gynnwys newidiadau i lwybrau iawndal ariannol presennol, nac argymell cynlluniau iawndal newydd, nad ydynt wedi鈥檜 cyfyngu neu sy鈥檔 dyblygu prosesau presennol ar gyfer gwneud iawn.

Nid yw鈥檔 ddiben i鈥檙 adolygiad hwn i ddwyn unigolion i gyfrif nac i ddosrannu bai unigol am unrhyw gamwedd honedig. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys cyhuddiadau yn erbyn unigolion, boed wedi鈥檜 profi neu fel arall.

Llywodraethu

Bydd yr Adolygiad yn cael ei gynnal yn annibynnol ac yn cael ei arwain gan yr Arglwydd Etherton, gydag ysgrifenyddiaeth fach yn y Gwasanaeth Sifil. Mae鈥檙 Adolygydd Annibynnol wedi鈥檌 benodi gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn am gyflawni鈥檙 adolygiad hwn ac i bwy y mae鈥檔 atebol iddo.

Allbynnau Ac Amseriad

Bydd yr Adolygiad yn cynhyrchu adroddiad gan gynnwys unrhyw argymhellion, a fydd yn cael eu cyflwyno i Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn erbyn 25 Mai 2023 a bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi鈥檙 adroddiad a鈥檌 hymateb maes o law wedi hynny.

Arwyddwyd gan Gadeirydd yr Adolygiad

Y Gwir Anrh. ARGLWYDD ETHERTON PC, KC