Asesiad o effaith

Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes): asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb - crynodeb

Diweddarwyd 16 Mai 2025

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Cyflwyniad

Byddai’r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (‘y bil�) yn caniatáu i rywun sy’n derfynol sâl ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol am gymorth, a chael y cymorth hwn, i roi terfyn ar ei fywyd ei hun. Yn y bil, mae person terfynol sâl yn rhywun y disgwylir iddo farw o fewn 6 mis o salwch neu glefyd na ellir ei wella. Byddai angen i’r person fod:

  • dros 18 oed
  • yn byw yn Lloegr neu Gymru
  • wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu (GP)

Byddai angen iddynt allu - hynny yw, fod â’r gallu - i wneud y penderfyniad hwn. Mae sawl cam y mae’n rhaid eu cymryd i wneud yn siŵr bod y person:

  • yn siŵr ei fod eisiau roi terfyn ar ei fywyd ei hun
  • wedi gwneud y penderfyniad hwn yn wirfoddol
  • heb fod wedi ei roi o dan bwysau i wneud y penderfyniad

Mae nifer o fesurau diogelwch yn y bil i gynorthwyo i sicrhau bod rhywun yn siŵr ei fod eisiau rhoi terfyn ar ei fywyd ei hun.

Mae’r bil yn fil aelod preifat. Mae hyn yn golygu ei fod yn cael ei arwain gan Aelod Seneddol - yn yr achos hwn Kim Leadbeater AS. Nid oes gan y llywodraeth safbwynt ar farw â chymorth. Cafodd y bil ei drafod gan grŵp o ASau o’r enw pwyllgor. Mae’r ddogfen hon yn nodi sut y gall gwasanaeth marw â chymorth effeithio ar wahanol grwpiau o bobl os yw’r bil hwn yn dod yn gyfraith.

Dadansoddiad o’r effeithiau

Byddai’r bil yn effeithio’n bennaf ar oedolion cymwys, terfynol sâl a fydd yn gallu gofyn am gymorth i ddod â’u bywyd eu hunain i ben. Gallai hefyd effeithio ar weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth hwn, fel meddygon. Mae’r asesiad effaith cydraddoldeb (EQIA) hwn yn ystyried sut y gallai’r bil effeithio ar bobl sy’n rhannu un neu fwy o’r 9 ‘nodwedd warchodedig�, fel y’u diffinnir yn . Mae’r asesiad yn dangos y gallai’r bil effeithio ar bobl â’r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • anabledd
  • hil
  • oedran
  • crefydd neu gred

Mae’r asesiad hefyd yn dangos effeithiau posibl oherwydd y ffactorau eraill hyn:

  • cefndir economaidd-gymdeithasol
  • daearyddiaeth
  • iechyd meddwl

Nid ydym yn disgwyl effeithiau cydraddoldeb o bwys ar bobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • rhywedd
  • ailbennu rhywedd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • priodas a phartneriaeth sifil

Nodweddion gwarchodedig

Anabledd

Mae’n bosibl y gallai pobl anabl gael problemau wrth gael mynediad i’r gwasanaeth. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl anabl yn cael problemau o ran deall yr iaith neu’r wybodaeth a ddefnyddir i esbonio’r gwasanaeth (gweler cyfeiria 2). Gall rhai pobl anabl hefyd gael problemau siarad (a elwir yn ) neu ysgrifennu, gan gynnwys dysgraffia a dyslecsia (gweler cyfeiriad 11).

Gall rhai anableddau achosi - efallai na fydd rhai pobl â’r broblem hon yn gallu llyncu’r feddyginiaeth a ragnodwyd iddynt i ddod â’u bywyd eu hunain i ben. Gall hyn felly gyfyngu ar eu opsiynau i ddewisiadau amgen eraill. Ni fyddai rhai pobl anabl â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd sy’n lleihau ansawdd eu bywyd, fel , yn gymwys fel ‘terfynol sâl� o dan y bil. Gallai’r bobl hynny deimlo dan anfantais. Gall pobl anabl fod yn fwy tebygol o deimlo fel eu bod yn faich ar eu teulu a’u ffrindiau. Maent hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

Mae’r bil yn cynnwys mesurau i leihau’r anawsterau posibl sy’n wynebu pobl anabl.

Byddai’n rhaid hyfforddi meddygon sy’n rhan o’r broses ar ba drefniadau penodol y gellid eu rhoi ar waith ar gyfer pobl anabl a phobl awtistig. Byddai angen hyfforddiant arnynt hefyd ar sut i gydnabod a oedd rhywun wedi cael eu rhoi o dan bwysau i benderfynu gofyn am gymorth i roi terfyn ar ei fywyd ei hun.

Byddai bwrdd cynghori anabledd yn cael ei sefydlu i gynghori ar effaith y bil ar bobl anabl a’r broses o’i gyflwyno.

Bydd rhai pobl (y rhai ag anhwylderau meddwl, awtistiaeth neu ‘anawsterau sylweddol� eraill wrth ddeall prosesau neu wybodaeth) yn cael mynediad at eiriolwr annibynnol. Mae eiriolwr yn berson sy’n gallu darparu cymorth i helpu’r person i ddeall opsiynau ar ofal diwedd oes, gan gynnwys yr opsiwn o farw â chymorth.

Nod y mesurau hyn fyddai helpu i atal pobl anabl rhag cael eu trin yn wahanol o’i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Byddent yn helpu i roi cyfle cyfartal i bobl anabl cymwys gael mynediad at y gwasanaeth hwn. Efallai y bydd angen ystyried addasiadau pellach yn ystod y cyfnod cyflwyno os yw’r bil hwn yn dod yn gyfraith.

Hil - lleiafrifoedd ethnig, cenedligrwydd, Sipsiwn, Roma, Teithwyr a rhwystrau iaith

Mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn profi gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd (gweler cyfeiriad 4). Gall hyn arwain at anawsterau wrth gael gafael ar y gwasanaeth hwn. Mae rhai pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o fod â 2 ddogfen prawf adnabod ddilys fel pasbort. Efallai na fydd Saesneg yn iaith gyntaf rhywun (gweler cyfeiriad 5). 

Mae’r GIG eisoes yn mynd i’r afael â gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd i bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, er enghraifft, trwy Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG. Yn ogystal, mae’r bil hwn yn cynnwys mesurau i helpu gyda rhwystrau iaith, siarad, darllen ac ysgrifennu.

Oedran

Byddai’r bil yn caniatáu i oedolion (dros 18 oed) yn unig gael mynediad at farw â chymorth. Gall pobl hŷn deimlo ychydig mwy o bwysau i ddod â’u bywydau i ben o’i gymharu â phobl iau (gweler cyfeiriad 1). Mae hyn oherwydd eu bod yn aml yn dibynnu ar bobl eraill sy’n gofalu amdanynt (gweler cyfeiriad 8). Mae’r bil yn cynnwys mesurau a fyddai’n lleihau’r risg o bwysau ar unrhyw berson yng nghyd-destun marw â chymorth.

Crefydd neu gred

Mae’r bil yn berthnasol yn gyfartal i bobl o bob crefydd a chredo. Gall gweithwyr meddygol proffesiynol, fel meddygon, nad ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y gwasanaeth marw â chymorth benderfynu peidio â gwneud hynny. Mae yna hefyd fesurau i amddiffyn gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gwrthod neu nad ydynt yn dymuno cymryd rhan. Gall y mesurau hyn leihau’r risg o rywun yn cael ei drin yn wahanol oherwydd ei fod yn penderfynu peidio ag ymwneud â darparu gwasanaethau marw â chymorth.

Grŵpiau eraill a nodwyd (nad ydynt wedi’u cynnwys gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010)

Cefndir economaidd-gymdeithasol

Mae pobl sy’n byw mewn tlodi neu mewn ardaloedd difreintiedig yn profi gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd (gweler cyfeiriad 6). Yn aml, mae gan bobl sy’n byw mewn tlodi nodweddion gwarchodedig eraill fel anabledd a hil.

Nid yw marw â chymorth yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Mae rhai pobl yn teithio dramor i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn (gweler cyfeiriad 9). Gall hyn fod yn ddrud. Pe bai marw â chymorth yn dod yn gyfraith yng Nghymru a Lloegr, byddai hyn yn dileu’r costau o gael mynediad at farw â chymorth dramor i bobl gymwys.

Rhaid i bobl sy’n gofyn am farw â chymorth ddarparu 2 brawf adnabod. Mae’r mathau o ddogfennau adnabod eto i’w penderfynu. Gall hyn gael effaith ariannol ar rai pobl sy’n byw mewn tlodi. Gall hefyd fod yn anodd i bobl sy’n ddigartref neu sy’n cysgu allan gan eu bod yn llai tebygol o fod â phrawf adnabod, fel pasbort.

Gallai’r bil wella mynediad at farw â chymorth i’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is trwy sicrhau bod y gwasanaeth ar gael heb y costau sy’n gysylltiedig â theithio i wlad arall.

Daearyddiaeth

Mae gwasanaethau gofal sylfaenol (fel meddygon teulu) dan bwysau ledled Cymru a Lloegr (gweler cyfeiria 3). Efallai y bydd cleifion mewn ardaloedd gwledig yn ei chael yn anodd siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar amser. Efallai y bydd gan rai fynediad cyfyngedig i’r gofal cywir ar ddiwedd eu hoes. Mae’r gwahaniaeth rhanbarthol hwn wedi cael ei nodi gan rai yn rheswm i rai cleifion ystyried marw â chymorth pan na fyddent efallai wedi gwneud hynny pe bai gofal diwedd oes priodol ar gael iddynt (gweler cyfeiriad 1).

Mae mesurau yn y bil a fyddai’n lleihau’r risg hon. Er enghraifft, rhaid i feddygon drafod yr holl opsiynau gofal priodol gyda’r person sy’n gofyn am farw â chymorth. Pe bai’r bil hwn yn dod yn gyfraith, byddai angen gwaith yn ystod y cyfnod cyflwyno i roi mynediad cyfartal i bobl i’r gwasanaeth hwn ledled Cymru a Lloegr.

Iechyd Meddwl

Nid yw’r bil yn ystyried ‘salwch meddwl� ar ei ben ei hun yn salwch terfynol. Mae salwch meddwl yn aml yn gorgyffwrdd â nodweddion gwarchodedig fel anabledd, ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol (gweler cyfeiriad 7). Efallai y bydd rhai grwpiau o bobl sy’n gymwys i farw â chymorth, fel cleifion â mathau penodol o ganser, yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain (gweler cyfeiriad 10). Weithiau gall salwch meddwl effeithio ar allu rhywun i wneud a deall penderfyniadau.

Mae sawl mesur yn y bil a fyddai’n gwneud yn siŵr bod gan berson alluedd meddyliol cyn y gallant gael mynediad at farw â chymorth. Byddai hyn yn cael ei asesu gan weithiwr meddygol proffesiynol. Gall pobl ag anhwylderau meddwl hefyd gael mynediad at eiriolwr annibynnol i ddarparu cefnogaeth.

Nid yw’r bil yn trin y rhai sydd â salwch meddwl yn wahanol. Mae’n darparu mynediad cyfartal i farw â chymorth os yw’r person yn gymwys, yn derfynol sâl a bod ganddo’r alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad i ddod â’i fywyd ei hun i ben.

Casgliad

Os bydd y bil hwn yn dod yn gyfraith, bydd y llywodraeth yn cymryd camau i helpu i sicrhau bod materion cydraddoldeb posibl yn cael eu nodi a’u datrys. Byddai’r llywodraeth yn nodi beth sydd angen ei wneud i helpu i leihau risgiau o effeithiau cydraddoldeb anghyfreithlon.

Cyfeiriadau

Gwelwyd yr holl gyfeiriadau ym mis Mawrth 2025.

Papur briffio Seneddol, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin a chyhoeddiadau ac ymchwil y llywodraeth neu gorff hyd braich

1. Equality and Human Rights Commission. .

2. 188ÌåÓý. Learning disability - applying All Our Health.

3. Older People’s Commissioner for Wales. .

4. NHS Race and Health Observatory. .

Ymchwil gan y sector gwirfoddol, cyrff anllywodraethol, cyrff proffesiynol melinau trafod

5. The Migration Observatory at the University of Oxford. .

6. The King’s Fund. .

7. Stonewall. .

Ymchwil academaidd

8. Jahn DR and others. . Clinical Gerontology 2013, volume 36, number 5.

9. Knights M and others. . Death Studies 2024: pages 1 to 10.

Ystadegau swyddogol Gymru a Lloegr

10. ONS. .

Gwybodaeth ar gyflyrau iechyd penodol, anableddau a galluedd meddyliol

11. Dyslexia UK. .