Policy paper

Strategaeth ar gyfer Seilwaith Amddiffyn: Summary (Welsh)

Updated 30 August 2023

Mae ein hystad a鈥檔 seilwaith wrth galon popeth y mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud. Dyma鈥檙 ased allweddol lle mae ein staff yn byw, yn gweithio ac yn hyfforddi. Yma, rydyn ni鈥檔 gweithredu ac yn trefnu ein milwyr. Mae鈥檙 strategaeth hon yn darparu鈥檙 fframwaith ar gyfer trawsnewid a moderneiddio鈥檙 ystad Amddiffyn a datblygu ei hasedau dros y degawdau nesaf. Mae hyn yn cynnwys codi safon llety preswyl ar gyfer person茅l y Lluoedd Arfog, gwella ansawdd gweithleoedd a chynnal cyfleusterau i gefnogi鈥檙 gwaith o ddarparu technolegau byd-eang i鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae鈥檙 ystad yn hanfodol i allu milwrol a bydd y strategaeth hon nid yn unig yn cyfeirio gweithgarwch ar draws y seilwaith Amddiffyn, ond bydd hefyd yn garreg filltir uchelgeisiol ar gyfer nodau鈥檙 dyfodol, fel cyfrannu at ymrwymiadau Sero Net a chynaliadwyedd y DU mewn ymateb i鈥檙 bygythiad cynyddol o鈥檙 newid yn yr hinsawdd.

Yn y DU yn unig, mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithredu o dair prif ganolfan llynges, saith safle forwrol llai, 148 barics, 37 gorsaf awyr gan gynnwys 9 maes awyr mawr a dros 1,800 o safleoedd Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid. Mae鈥檙 ystad Amddiffyn yn darparu dros 100,000 o welyau a 49,500 o gartrefi i staff a鈥檜 teuluoedd. Mae hefyd yn cynnwys 58 o sefydliadau hyfforddi a 157,500 hectar o yst芒d hyfforddi.

Mae gan yr SDI naw amcan o dan dair thema polisi.

Thema polisi A: Ystad sy鈥檔 cefnogi ein pobl, yn hwyluso gallu鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn ac sy鈥檔 cyflawni ei hamcanion

Amcan 1: Sicrhau bod gennym y seilwaith cywir, o鈥檙 maint iawn ac yn y lleoliad iawn, nawr ac yn y dyfodol.

Amcan 2: Atal a gwrthdroi鈥檙 dirywiad yng nghyflwr ein hyst芒d.

Amcan 3: Sicrhau bod ein hyst芒d yn gallu gwrthsefyll bygythiadau diogelwch presennol a rhai sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg, yn ogystal 芒 pheryglon naturiol ac effeithiau鈥檙 newid yn yr hinsawdd.

Amcan 4: Cynnal gwerth yr asedau ar draws ein hyst芒d, gan fanteisio i鈥檙 eithaf ar eu budd i鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn.

Thema polisi B: Moderneiddio鈥檙 ystad, gan groesawu arloesedd, i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol

Amcan 5: Sicrhau bod ein hamgylchedd byw a gweithio yn diwallu anghenion Lluoedd y Dyfodol.

Amcan 6: Gwella cynaliadwyedd ar draws yr ystad Amddiffyn.

Amcan 7: Manteisio ar arloesedd a thrawsnewid prosesau adeiladu a chaffael.

Thema polisi C: Gweddnewid sut rydyn ni鈥檔 meddwl am yr ystad ac yn ei rheoli

Amcan 8: Darparu sgiliau a chapasiti seilwaith effeithiol ac integredig i alluogi amcanion y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Amcan 9: Meithrin a defnyddio partneriaethau cryf i gefnogi鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn i gyflawni ein hamcanion.

Ochr yn ochr 芒 strategaethau鈥檙 Adran ar gyfer llety a gweithleoedd yn y dyfodol, bydd yr SDI yn codi safon llety preswyl ar gyfer staff y Lluoedd Arfog, gan wella ansawdd gweithleoedd a chefnogi ffyrdd clyfar o weithio. Mae鈥檙 ADI hefyd wedi ymrwymo i ddarparu鈥檙 setiau sgiliau cywir i gyflawni ein seilwaith, gyda buddsoddiad mewn sgiliau arbenigol yn 么l y gofyn. Bydd hyn yn golygu ehangu ein partneriaethau 芒 diwydiant, denu gweithlu amrywiol, rhannu arferion gorau a chroesawu syniadau newydd ac arloesol.

Bydd yr SDI yn cefnogi twf y DU ac yn Codi鈥檙 Gwastad drwy arloesi, buddsoddi a datblygu. Bydd ei ffocws ar gynaliadwyedd yn cyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Sero Net y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ystad yn barod ar gyfer bygythiadau yn awr ac yn y dyfodol, gan gynnwys bygythiad y newid yn yr hinsawdd.