Cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd
Diweddarwyd 9 Rhagfyr 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais a anfonir at Gofrestrfa Tir EF yw datganiad o wirionedd. Gallai鈥檙 angen i ddarparu tystiolaeth godi mewn sawl sefyllfa, er enghraifft:
- pan fyddwch yn gwneud cais i gael eich cofrestru鈥檔 berchennog tir ar sail meddiant gwrthgefn, neu os am ryw reswm arall nid oes dogfennau鈥檔 profi eich teitl, neu fod y dogfennau wedi mynd ar goll
- pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru budd a gaffaelwyd trwy bresgripsiwn
- pan fyddwch yn gwneud cais am gofnod ar y gofrestr i warchod budd heb ei ddogfennu mewn tir
- pan fyddwch yn gwneud cais i ddileu cyfyngiad sy鈥檔 gwarchod ymddiried mewn tir sydd wedi dod i ben
Mae cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF yn egluro鈥檙 dystiolaeth y dylech ei darparu o dan amgylchiadau o鈥檙 fath.
Cyn Tachwedd 2008, y dull arferol o ddarparu tystiolaeth o鈥檙 fath oedd trwy ddatganiad statudol. Ym mis Tachwedd 2008, mabwysiadodd Cofrestrfa Tir EF ddatganiadau o wirionedd fel ffurf arall o dystiolaeth, gan ddilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil.
- mae ffurflen ADV2 a ffurflen CT1 yn ymgorffori datganiad o wirionedd
- mae ffurflen datganiad o wirionedd ST1, ffurflen ST2, ffurflen ST3, ffurflen ST4 a ffurflen ST5 yn darparu ar gyfer y rhan fwyaf o amgylchiadau cyffredin lle mae angen tystiolaeth i gefnogi cais
- gellir paratoi datganiad o wirionedd fel dogfen sy鈥檔 sefyll ar ei phen ei hun hefyd. Os felly, rhaid iddo gwrdd 芒鈥檙 gofynion a grynhoir yn Gofynion ar gyfer datganiad o wirionedd
Ac eithrio lle bo鈥檙 ffurflen gais benodedig yn ymgorffori datganiad o wirionedd, gallwch ddefnyddio datganiad statudol ar gyfer tystiolaeth gefnogol os yw鈥檔 well gennych.
Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.
Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond cop茂au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o鈥檙 dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop茂au ardystiedig.
Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gop茂au gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.
Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol gan ddefnyddio鈥檙 datganiadau ardystio sydd ar gael.
Os yw鈥檔 ymddangos bod y datganiad o wirionedd neu鈥檙 datganiad statudol yn cynnwys m芒n wallau neu wallau clerigol, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn ei ddychwelyd gyda chais i鈥檞 newid, gyda鈥檙 newidiadau i鈥檞 llofnodi gan ddefnyddio blaenlythrennau a鈥檜 dyddio gan y datganwr, ac i gyflwyno copi ardystiedig newydd. Os yw鈥檙 datganiad o wirionedd neu鈥檙 datganiad statudol yn cynnwys gwallau neu hepgoriadau mwy sylweddol sy鈥檔 cwestiynu natur y dystiolaeth a/neu ddibynadwyedd y ddogfen, mae鈥檔 bosibl y byddwn yn gwrthod neu鈥檔 dileu鈥檙 cais.
2. Ffurflenni datganiadau o wirionedd
Mae鈥檙 ffurflenni canlynol yn darparu fframwaith ar gyfer darparu鈥檙 wybodaeth sydd ei hangen arnom yn y rhan fwyaf o achosion:
- ffurflen ST1: datganiad o wirionedd i gefnogi cais am gofrestriad tir ar sail meddiant gwrthgefn
- ffurflen ST2: datganiad o wirionedd i gefnogi cais am gofrestriad rhent-d芒l ar sail meddiant gwrthgefn
- ffurflen ST3: datganiad o wirionedd i gefnogi cais am gofrestriad tir ar sail gweithredoedd teitl a gollwyd neu a ddinistriwyd
- ffurflen ST4: datganiad o wirionedd i gefnogi cais am gofrestriad a/neu nodi hawddfraint trwy bresgripsiwn
- ffurflen ST5: datganiad o wirionedd i gefnogi cais i ddileu cyfyngiad Ffurf A
Ni ddylid defnyddio un o鈥檙 ffurflenni uchod ar gyfer unrhyw fath o gais heblaw鈥檙 math y cynlluniwyd y ffurflen ar ei gyfer.
Nid yw defnyddio鈥檙 ffurflenni hyn yn gwarantu y bydd y cais sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檙 datganiad yn llwyddiannus, ond byddant yn cynorthwyo i sicrhau eich bod wedi ystyried pob agwedd berthnasol. Os yw鈥檔 well gennych, gallwch baratoi eich ffurf datganid o wirionedd eich hunan neu dyngu datganiad statudol yn yr achosion hyn.
3. Gofynion ar gyfer datganiad o wirionedd
At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd yn rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 (a welir yn llawn yn Atodiad: rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003) fel a ganlyn:
- fe鈥檌 gwneir yn ysgrifenedig
- rhaid iddo gael ei lofnodi gan yr unigolyn sy鈥檔 ei wneud (ond gweler Datganiad a wneir gan berson nad yw鈥檔 gallu darllen neu lofnodi)
- nid oes rhaid iddo gael ei dyngu na鈥檌 dystio
- rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: 鈥楥redaf fod y ffeithiau a鈥檙 materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir鈥�
- os yw trawsgludwr yn gwneud datganiad o wirionedd neu鈥檔 llofnodi ar ran rhywun, rhaid i鈥檙 trawsgludwr ei lofnodi mewn inc gwlyb yn ei enw ei hun a nodi ei swyddogaeth
Nid oes yn rhaid llofnodi鈥檙 datganiad mewn 鈥榠nc gwlyb鈥�; gellir ei lofnodi trwy ddull Mercury neu ei lofnodi gan ddefnyddio llofnod electronig wedi ei ardystio gan drawsgludwr neu, mewn achosion cyfyngedig, ar ffurf llofnod electronig syml. Rhaid i鈥檙 broses a ddefnyddir ar gyfer y mathau hyn o lofnodion ddilyn y drefn a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF.
Er nad yw rheol 215A yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad o wirionedd gael ei ddyddio, mae gan y cofrestrydd y p诺er i ofyn am hyn (yn unol 芒 rheol 17). Argymhellwn felly fod pob datganiad o wirionedd yn cael eu dyddio er mwyn osgoi ymholiadau.
4. Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu darllen neu lofnodi
Os gwneir datganiad o wirionedd gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu darllen, rhaid iddo gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr a chynnwys tystysgrif a wnaed ac a lofnodwyd gan y trawsgludwr ar y ffurf a osodir yn rheol 215A(4)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Os gwneir datganiad o wirionedd gan unigolyn nad yw鈥檔 gallu ei lofnodi, rhaid iddo nodi enw鈥檙 unigolyn, gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn 么l eu cyfarwyddyd, yn enw鈥檙 trawsgludwr ei hunan a nodi ei swyddogaeth, a chynnwys tystysgrif wedi ei llunio a鈥檌 llofnodi gan y trawsgludwyr ar y ffurf a osodir yn rheol 215A(5)(c) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Nid oes yn rhaid i鈥檙 datganiad gael ei lofnodi mewn 鈥榠nc gwlyb鈥�; gellir ei lofnodi trwy ddull Mercury neu gan ddefnyddio llofnod electronig wedi ei ardystio gan drawsgludwr. Yn y ddau achos olaf, rhaid i鈥檙 broses a ddefnyddir ar gyfer y mathau hyn o lofnodion ddilyn yr hyn a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF.
5. Y dyddiad y gwneir y datganiad o wirionedd
Rhaid i ddyddiad datganiad o wirionedd gan geisydd i gefnogi cais ar sail meddiant gwrthgefn, lle bo鈥檙 cais yn cael ei wneud o dan Atodlen 6 i Reolau Cofrestru Tir 2003, gael ei wneud ddim hwyrach na mis cyn yr ystyriwyd i鈥檙 cais gael ei wneud: rheol 188(1)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Dylid gwneud datganiadau o wirionedd eraill mor agos 芒 phosibl o ran amser ag sy鈥檔 rhesymol ymarferol i鈥檙 cais neu鈥檙 gwarediad a gefnogir ganddynt hefyd. Fel arall, gall Cofrestrfa Tir EF ymholi o dan reol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003 am dystiolaeth fwy diweddar cyn parhau 芒鈥檙 cais.
6. Rhybudd am dwyll
Mae ffurflenni Cofrestrfa Tir EF sy鈥檔 cynnwys datganiad o wirionedd yn cynnwys y rhybudd canlynol ynghylch canlyniadau twyll. Mae鈥檙 rhybudd hefyd yn gymwys i ddatganiad o wirionedd sy鈥檔 sefyll ar ei ben ei hun ac i ddatganiad statudol.
鈥淥s ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu鈥檔 gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu鈥檔 gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu鈥檙 risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni鈥檙 trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a鈥檙 uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu鈥檙 ddau.鈥�
7. Atodiad: rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003
215A.鈥�(1) In these rules, a statement of truth means a statement which:
(a) is made by an individual in writing
(b) contains a declaration of truth in the following form:
鈥業 believe that the facts and matters contained in this statement are true鈥�
(c) is signed in accordance with paragraphs (2) to (6)
(2) Subject to paragraph (5), a statement of truth must be signed by the individual making the statement.
(3) The full name of the individual who signs a statement of truth must be printed clearly beneath his signature.
(4) Where a statement of truth is to be signed by an individual who is unable to read, it must:
(a) be signed in the presence of a conveyancer
(b) contain a certificate made and signed by that conveyancer in the following form:
鈥業 [name and address of conveyancer] certify that I have read over the contents of this statement of truth and explained the nature and effect of any documents referred to in it and the consequences of making a false declaration to the person making this statement who signed it or made [his] or [her] mark in my presence having first (a) appeared to me to understand the statement (b) approved its content as accurate and (c) appeared to me to understand the declaration of truth and the consequences of making a false declaration.鈥�
(5) Where a statement of truth is to be made by an individual who is unable to sign it, it must:
(a) state that individual鈥檚 full name
(b) be signed by a conveyancer at the direction and on behalf of that individual, and
(c) contain a certificate made and signed by that conveyancer in the following form:
鈥業 [name and address of conveyancer] certify that [the person making this statement of truth has read it in my presence, approved its content as accurate and directed me to sign it on [his] or [her] behalf] or [I have read over the contents of this statement of truth and explained the nature and effect of any documents referred to in it and the consequences of making a false declaration to the person making this statement who directed me to sign it on [his] or [her] behalf] having first (a) appeared to me to understand the statement (b) approved its content as accurate and (c) appeared to me to understand the declaration of truth and the consequences of making a false declaration.鈥�
(6) Where a statement of truth, or a certificate under paragraph (4) or (5), is signed by a conveyancer:
(a) the conveyancer must sign in their own name and not that of their firm or employer
(b) the conveyancer must state the capacity in which they sign and where appropriate the name of their firm or employer.
[Inserted by Land Registration (Amendment) Rules 2008, rule 4(1), Schedule 1 paragraph 72, coming into force on 10 November 2008]
Sylwer: Cadwyd y testun uchod yn Saesneg am nad yw鈥檙 rheolau ar gael yn Gymraeg.
8. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.