Gosod prisiau ar gyfer asiantau teithio
Cyhoeddwyd 5 Gorffennaf 2017
Gall gwestai ddewis cynnig prisiau, amodau ac argaeledd gwahanol wrth restru eu hystafelloedd ar asiantau teithio ar-lein (OTA).
Beth sydd wedi newid?
Roedd Expedia a Booking.com yn arfer gofyn i westai warantu na fyddent yn cynnig eu hystafelloedd yn rhatach ar OTA eraill. Ers haf 2015, mae Expedia a Booking.com wedi newid eu polis茂au ac nid ydynt yn gosod y gofyn hwn bellach.
Nid yw Expedia a Booking.com bellach yn gofyn i westai gynnig yr un neu well argaeledd o ran ystafelloedd neu amodau ag y mae gwestai yn eu cynnig i OTA eraill chwaith.
Beth mae hyn yn ei olygu i westai?
Gall gwestai ddewis cynnig pris is ar OTAs eraill nag y maent yn cynnig i Expedia ac/neu Booking.com.
Gall gwestai hefyd benderfynu cynnig gwell amodau neu argaeledd i OTA eraill (fel elfennau ychwanegol neu 鈥榝recwast yn gynwysedig鈥�) nag ar Expedia a/neu Booking.com.
Pethau eraill y dylech eu gwybod
Gall OTAs, yn cynnwys Expedia a Booking.com, gynnwys cymalau yn eu contractau sy鈥檔 atal gwestai rhag codi prisiau is ar wefan y gwesty ei hun na鈥檙 hyn y gallant gynnig trwy wefannau OTA.
Fodd bynnag, mae Expedia a Booking.com wedi ymroi i beidio cael cymalau yn eu contractau sy鈥檔 atal gwestai rhag codi prisiau is ar OTAs eraill nag y byddant yn godi ar Expedia neu Booking.com.
Mae Expedia a Booking.com wedi ymroi i beidio ceisio rheoli prisiau 鈥渁ll-lein鈥� gwestai. Mewn geiriau eraill, gall gwestai gynnig unrhyw bris y maent yn ei ddymuno i gwsmeriaid yn bersonol, ar y ff 么n, trwy e-bost uniongyrchol neu trwy grwpiau defnyddwyr caeedig preifat (e.e. grwpiau teyrngarwch gwestai).
Dylai gwestai fod yn ymwybodol o鈥檙 pwyntiau uchod pan fyddant yn trafod amodau gydag OTA.
Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen achos y CMA: Monitro Arferion Prisio ym maes Archebu Gwestai Ar-lein.
Sianeli ar-lein
Mae gwestai yn defnyddio sianeli gwerthu ar-lein yn gynyddol. Felly, mae鈥檔 bwysig fod gwestai yn ymwybodol o鈥檜 gallu i osod gwahanol brisiau ar OTAs.
Nid yw鈥檙 deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.