Tir elusen: trosolwg ar gyfer gwerthu neu brydlesu tir eich elusen
Diweddarwyd 7 Mawrth 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae鈥檙 trosolwg hwn yn canolbwyntio ar werthiannau a phrydlesi tir elusen yn unig gan mai dyma鈥檙 mathau mwyaf cyffredin o waredu tir elusen.
Nod y trosolwg hwn yw eich helpu i ddeall pa rannau o鈥檔 prif ganllawiau ar waredu tir fydd yn berthnasol i chi. Dylech ddarllen y manylion yn y prif ganllaw: Tir elusen: Gwerthu, prydlesu neu waredu tir elusen fel arall yn Lloegr a Chymru.
Cyn i chi werthu neu brydlesu tir elusen, rhaid i chi fod yn sicr:
- bod eich elusen yn berchen ar y tir a
- bod y gwerthiant neu鈥檙 brydles er lles gorau eich elusen
Deall beth rydym yn ei olygu wrth y gair 鈥榯ir鈥�.
0.1 Cam 1
Gwiriwch fod gennych yr hawl i werthu neu brydlesu鈥檙 tir. Ydych chi鈥檔 gallu defnyddio p诺er yn nogfen lywodraethol eich elusen neu ddefnyddio hawliau cyfreithiol?
Darllenwch 鈥楪wybod a oes gennych y p诺er i waredu鈥檙 tir鈥� am fanylion llawn.
0.2 Cam 2
Gwiriwch os ydych yn:
- gwerthu鈥檙 tir neu
- rhoi les am fwy na 7 mlynedd neu
- rhoi les am 7 mlynedd neu lai gyda dirwy neu bremiwm neu
- rhoi les am 7 mlynedd neu lai gydag opsiwn i ymestyn y brydles
Os ydych yn gwneud unrhyw un o鈥檙 rhain, rhaid i chi ddilyn y 鈥楪ofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthu a phrydlesi 鈥榟ir鈥�.
Os ydych yn rhoi les am 7 mlynedd neu lai heb ddirwy neu bremiwm neu opsiwn i ymestyn, yna mae鈥檔 rhaid i chi ddilyn y gwahanol 鈥楪ofynion cyfreithiol ar gyfer prydlesi 鈥榖yr鈥�
0.3 Cam 3
Gwiriwch os ydych yn gwerthu neu鈥檔 prydlesu tir i berson cysylltiedig.
Os yw鈥檙 gwarediad i berson cysylltiedig, mae鈥檙 gofynion yr un fath os yw鈥檙 trafodiad yn werthiant, yn brydles hir neu鈥檔 brydles fer. Rhaid i chi gael awdurdod gan y Comisiwn cyn i chi werthu neu brydlesu鈥檙 tir.
Darllenwch 鈥楶ryd mae鈥檔 rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn Elusennau鈥� am fanylion llawn.
0.4 Cam 4
Gwiriwch os ydych yn gwerthu neu鈥檔 prydlesu tir dynodedig.
Darllenwch 鈥楪waredu tir dynodedig鈥� am fanylion llawn.
Os felly, mae yna ofynion cyfreithiol ychwanegol y mae鈥檔 rhaid i chi eu dilyn ac efallai y bydd angen awdurdod arnoch gan y Comisiwn.
0.5 Cam 5
Gwiriwch os yw eich gwerthiant neu brydles yn dod o fewn rhestr o eithriadau. Os ydyw, efallai na fydd angen i chi gydymffurfio 芒鈥檙 holl ofynion cyfreithiol, er enghraifft:
- mae eich elusen yn elusen eithriedig
- mae鈥檙 gwerthiant neu鈥檙 les yn cael ei threfnu gan ddatodydd, darpar ddatodydd, derbynnydd, codwr morgais neu weinyddwr
Gwiriwch 鈥楨ithriadau i鈥檙 gofynion cyfreithiol ar gyfer gwerthiannau, prydlesi a mathau eraill o warediadau鈥�.