Cylch Gorchwyl ar gyfer adolygu trefniadau ymchwilio sy'n dilyn defnydd yr heddlu o rym a digwyddiadau yn ymwneud 芒 gyrru'r heddlu (Welsh version)
Updated 13 November 2023
Pwrpas
Mae swyddogion heddlu[footnote 1] ar draws Cymru a Lloegr yn gwneud gwaith anhygoel o anodd, mewn rhai achosion yn gorfod gwneud penderfyniadau bywyd neu farwolaeth mewn eiliad hollt i鈥檔 cadw鈥檔 ddiogel. Mae鈥檔 hanfodol bod gan y cyhoedd a swyddogion eglurder a hyder yn y system atebolrwydd sy鈥檔 ymwneud 芒 defnydd yr heddlu o rym a gyrru鈥檙 heddlu, gan gynnwys effeithiolrwydd ymchwiliadau.
Mae Llywodraethau olynol wedi cyfeirio at yr angen i ystyried y cydbwysedd rhwng sicrhau y gall yr heddlu wneud eu gwaith i gadw鈥檙 cyhoedd yn ddiogel, tra鈥檔 sicrhau y cydymffurfir 芒 chanllawiau gweithredol a bod swyddogion yn gweithredu o fewn y gyfraith.
Bydd yr adolygiad hwn a arweinir gan y Swyddfa Gartref yn asesu鈥檙 fframweithiau cyfreithiol presennol a鈥檙 canllawiau ar arfer sy鈥檔 sail i ddefnydd yr heddlu o rym a gyrru gan yr heddlu, a鈥檙 fframwaith dilynol ar gyfer ymchwilio i unrhyw ddigwyddiadau a allai ddigwydd. Bydd yn archwilio:
- A yw鈥檙 defnydd o rym neu fframweithiau gyrru鈥檙 heddlu yn darparu canllawiau clir, dealladwy ac a ddeallir yn dda i swyddogion;
- A yw diffyg eglurder neu鈥檙 fframweithiau eu hunain mewn unrhyw ffordd yn rhwystro neu鈥檔 atal yr heddlu rhag cyflawni eu r么l i amddiffyn bywyd;
- A ydynt yn cynnal hyder y cyhoedd yn yr heddlu, yn arbennig yn achos y rhai y mae defnydd yr heddlu o rym yn effeithio arnynt.
- Sut mae鈥檙 DU yn bodloni ei rhwymedigaeth i ymchwilio鈥檔 annibynnol i sefyllfaoedd lle mae marwolaeth neu anaf difrifol (DSI) yn deillio o ddigwyddiad sy鈥檔 ymwneud 芒 gorfodi鈥檙 gyfraith;
- A yw gwersi angenrheidiol wedi鈥檜 deall yn flaenorol ac a weithredwyd arnynt ar 么l digwyddiadau hanesyddol; ac
- A yw unigolion yn cael eu dwyn i gyfrif yn briodol.
Ni fydd yr adolygiad yn ystyried ymchwiliadau neu achosion byw neu barhaus. Mae鈥檙 angen i sicrhau nad yw鈥檙 adolygiad hwn yn rhagfarnu nac yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd ag ymchwiliadau neu achosion parhaus neu sydd wedi鈥檜 cwblhau yn hollbwysig ac, i鈥檙 perwyl hwnnw, rhaid i鈥檙 Swyddfa Gartref ystyried unrhyw effaith bosibl ar ymchwiliadau neu achosion o鈥檙 fath yn barhaus.
Gan gydnabod pwysigrwydd annibyniaeth weithredol yr heddlu a chyrff o fewn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach sy鈥檔 dod o fewn cwmpas y Cylch Gorchwyl hwn, ni fydd yr adolygiad yn amharu ar yr annibyniaeth hon nac yn gwneud argymhellion a allai ei pheryglu.
Cwmpas
Bydd yr adolygiad yn archwilio pedair thema allweddol:
1. Y fframwaith cyfreithiol / rheoleiddiol ar ddefnyddio grym a gyrru gan yr heddlu
Bydd yr adolygiad yn archwilio鈥檙 fframwaith cyfreithiol sy鈥檔 sail i ddefnydd yr heddlu o rym a gyrru ac yn cynghori a oes angen newidiadau i egluro neu ddiweddaru deddfwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:
- A yw鈥檙 ddeddfwriaeth bresennol sy鈥檔 sail i鈥檙 defnydd o rym, gan gynnwys amddiffyniadau, yn darparu amddiffyniadau digonol i swyddogion heddlu yn unol 芒鈥檜 dyletswydd, yn arbennig mewn perthynas 芒 swyddogion arfau tanio.
- A yw鈥檙 ddeddfwriaeth bresennol yn darparu amddiffyniadau digonol ar gyfer gyrru鈥檙 heddlu at ddibenion yr heddlu.
- A ddylid egluro neu newid y profion cyfreithiol perthnasol sy鈥檔 ymwneud 芒 defnyddio grym mewn hunanamddiffyniad mewn perthynas ag achosion camymddwyn a chwestau鈥檙 heddlu.
- A ddylid defnyddio鈥檙 safon prawf troseddol ar gyfer canfyddiad o ladd anghyfreithlon ar gyfer cwestau ac ymchwiliadau perthnasol.
- A yw鈥檙 fframwaith cyfreithiol yn darparu hawliau digonol i鈥檙 aelodau hynny o鈥檙 cyhoedd y mae defnydd yr heddlu o rym neu yrru鈥檙 heddlu yn effeithio arnynt.
- A yw鈥檙 fframwaith yn ddigon i gynnal hyder y cyhoedd mewn plismona, yn arbennig ar gyfer cymunedau a theuluoedd y mae defnydd yr heddlu o rym yn effeithio arnynt.
2. Ymchwiliadau a phrosesau ar 么l digwyddiad
Bydd yr adolygiad yn asesu鈥檙 systemau ar gyfer sicrhau craffu ar gamau gweithredu鈥檙 heddlu, yn bennaf mewn digwyddiadau lle mae aelodau o鈥檙 cyhoedd wedi鈥檜 lladd neu eu hanafu, a systemau ar gyfer dwyn swyddogion i gyfrif. Bydd yr adolygiad yn ystyried effaith y trefniadau presennol ar swyddogion heddlu sy鈥檔 destun ymchwiliad a鈥檙 effaith ar hyder y cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:
- A yr鈥檙 system o archwilio DSIs yn dilyn cyswllt 芒鈥檙 heddlu yn gweithio鈥檔 effeithiol i鈥檙 heddlu a鈥檙 cyhoedd.
- A yw鈥檙 gofynion i鈥檙 heddlu atgyfeirio DSIs a materion eraill i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn briodol.
- A yw鈥檙 trothwyon ar gyfer lansio ymchwiliad camymddwyn neu droseddol yn briodol, ac a ddylai achosion sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 gweithredu yn unol 芒 dyletswydd gael eu trin yn wahanol.
- A ddylid diwygio鈥檙 trothwyon i鈥檙 IOPC gyfarwyddo achos disgyblu neu atgyfeirio mater at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), ac a ddylid trin achosion sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 gweithredu yn unol 芒 dyletswydd yn wahanol.
3. Amseroldeb ymchwiliadau a phrosesau cyfreithiol
Bydd yr adolygiad yn archwilio a ellir cyflawni canlyniadau cyflymach ar draws yr ymchwiliadau amrywiol sy鈥檔 dilyn defnydd yr heddlu o rym neu yrru, er budd swyddogion a鈥檙 rhai yr effeithir arnynt gan weithredoedd yr heddlu. Bydd hyn yn cynnwys sut mae鈥檙 ymatebion amrywiol i ddigwyddiadau (gan gynnwys ymchwiliadau ac achosion troseddol, crwnerol a chamymddwyn) gyda鈥檌 gilydd yn effeithio ar brydlondeb casgliadau cyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried:
- A all y system sicrhau canlyniadau mwy amserol i swyddogion yr heddlu a鈥檙 cyhoedd, gan ganolbwyntio鈥檔 benodol ar achosion DSI, gan gynnwys opsiynau ar gyfer terfynau amser a llwybr carlam ar gyfer ymchwiliadau ar sail budd y cyhoedd.
- A all gweithio mwy effeithiol rhwng yr IOPC a鈥檙 CPS leihau graddfeydd amser mewn ymchwiliadau troseddol.
- A oes lle i leihau dyblygu yn y prosesau troseddol, crwnerol a chamymddwyn ac a all mwy o weithgarwch ddigwydd ochr yn ochr, tra鈥檔 sicrhau nad yw achosion troseddol sy鈥檔 mynd rhagddynt neu sydd wedi dod i ben yn cael eu rhagfarnu nac yr ymyrrir 芒 nhw.
4. Cyfathrebu a dysgu ar 么l digwyddiad
Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw gweithdrefnau o amgylch yr holl gyfathrebiadau yn dilyn digwyddiad yn sicrhau cydbwysedd digonol rhwng darparu eglurder, tawelu meddwl y cyhoedd a pheidio 芒 rhagfarnu nac ymyrryd ag ymchwiliadau neu achosion cyfreithiol sy鈥檔 mynd rhagddynt neu achosion o鈥檙 gorffennol. Bydd yr adolygiad hefyd yn archwilio sut i sicrhau bod swyddogion yn hyderus eu bod yn deall y fframwaith cyfreithiol a鈥檜 bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau penderfyniadau perthnasol a wneir gan yr IOPC, penderfynwyr disgyblu, CPS, Crwneriaid a Llysoedd. Bydd hyn yn cynnwys:
- A ellir gwella cyfathrebu ar 么l digwyddiad er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd a swyddogion, a sicrhau nad yw ymchwiliadau鈥檔 cael eu rhagfarnu nac yr ymyrrir 芒 nhw.
- A yw鈥檙 gofynion i roi鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf i bart茂on 芒 diddordeb ar gynnydd achosion ac ymchwiliadau yn ddigonol.
- A yw鈥檙 systemau a鈥檙 prosesau perthnasol yn ddigon clir i鈥檙 heddlu a鈥檙 cyhoedd ac a all swyddogion heddlu fod yn hyderus bod eu hyfforddiant a鈥檜 harweiniad yn adlewyrchu鈥檙 gyfraith a chwmpas eu pwerau.
- A ellid gwneud gwelliannau i bolis茂au sy鈥檔 ymwneud 芒 diogelu swyddogion a鈥檙 cyhoedd yn ystod ymchwiliadau ac achosion, gan gynnwys atal swyddogion o鈥檙 gwaith a bod yn ddienw.
Adrodd
Bydd yr adolygiad yn cael ei gydlynu gan y Swyddfa Gartref, gan adrodd i鈥檙 Ysgrifennydd Cartref, gan weithio gyda鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa鈥檙 Twrnai Cyffredinol. Bydd yn anelu at ddarparu canfyddiadau i鈥檙 Ysgrifennydd Cartref erbyn diwedd y flwyddyn.
Goruchwyliaeth y Twrnai Cyffredinol ar y CPS
Ar wah芒n i adolygiad y Swyddfa Gartref, bydd y Twrnai Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau goruchwylio i ystyried canllawiau鈥檙 CPS a phrosesau gwneud penderfyniadau, er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth briodol i r么l a gweithredoedd swyddogion heddlu gan gynnwys a yw鈥檙 olaf yn unol 芒鈥檜 hyfforddiant. Wrth gynnal yr ymarfer hwn, ni fydd y Twrnai Cyffredinol yn ystyried achosion neu faterion byw neu barhaus a bydd yn blaenoriaethu鈥檙 angen i sicrhau nad yw鈥檔 rhagfarnu nac yn ymyrryd mewn unrhyw fodd ag ymchwiliadau, achosion neu faterion sydd ar y gweill neu sydd wedi dod i ben.
-
gan gynnwys Y Cwnstabliaeth Niwclear Sifil (CNC), Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) a Heddlu鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn (MDP).聽鈫�