Ymchwil a dadansoddi

Crynodeb Gweithredol

Cyhoeddwyd 12 Chwefror 2025

Diben Swyddfa鈥檙 Farchnad Fewnol (OIM) yw cefnogi gweithrediad effeithiol marchnad fewnol y DU drwy roi cyngor economaidd a chyngor technegol arall ar waith. Mae鈥檙 OIM yn rhan o鈥檙 Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).

Mae鈥檙 adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau鈥檙 OIM o adolygiad dewisol o gyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro (SUP) dan adran 33(1) o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (y Ddeddf). Mae adran 33(1) o鈥檙 Ddeddf yn caniat谩u i鈥檙 OIM adolygu unrhyw fater sy鈥檔 berthnasol i asesu neu hybu gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol yn y DU.

Ffocws yr adroddiad hwn

Mae鈥檙 adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf ag effeithiau rheoliadau cynhyrchion plastig untro ar fusnesau, gyda ffocws penodol ar weithrediad marchnad fewnol y DU. Mae llywodraethau wedi bod yn gweithredu i reoleiddio cynhyrchion plastig untro nad ydynt yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu鈥檔 gyffredinol oherwydd eu heffaith ar yr amgylchedd. Yn aml, nid yw deunyddiau plastig untro yn diraddio, a gallant bara am ganrifoedd mewn safleoedd tirlenwi, neu fel arall c芒nt eu taflu fel sbwriel yn yr amgylchedd naturiol, sydd yn ei dro yn gallu llygru priddoedd, afonydd a moroedd, a niweidio鈥檙 bywyd gwyllt sy鈥檔 byw yno.

Mae ein hadolygiad wedi ystyried gwahanol fathau o reoliadau, megis gwaharddiadau a chyfyngiadau prisio, gan gwmpasu ystod o gynhyrchion plastig untro (e.e. gwellt yfed, platiau, powlenni, cyllyll a ffyrc), gan edrych ar gadwyni cyflenwi sy鈥檔 cynnwys amrywiaeth o gyflenwyr megis gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr. O ran y cyfnod dan sylw, rydym wedi canolbwyntio ar reoliadau cynhyrchion plastig untro yn dilyn cyflwyno鈥檙 ffi am fagiau plastig a godwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011, ac yn cynnwys rheoliadau plastig untro penodol a gynigir ar gyfer y dyfodol, e.e. gwaharddiad arfaethedig ar weips gwlyb sy鈥檔 cynnwys plastig a gwerthu f锚ps untro.

Er mwyn deall effaith rheoliadau plastigau untro ar y farchnad fewnol, rydym wedi archwilio鈥檙 materion canlynol, ymysg eraill:

  • dealltwriaeth busnesau o鈥檙 Ddeddf

  • sut mae busnesau wedi addasu eu strategaethau mewn ymateb i鈥檙 rheoliadau plastigau untro presennol a disgwyliedig

  • costau ac effeithiau gwahaniaethau rheoleiddio ar fusnesau ar wahanol lefelau o鈥檙 gadwyn gyflenwi

  • unrhyw wersi y gellir eu dysgu o gyflwyno鈥檙 rheoliadau plastigau untro i helpu i lywio gweithrediad y farchnad fewnol yn y dyfodol

Rydym wedi casglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys ymgynghoriadau llywodraeth ac asesiadau effaith. Rydym hefyd wedi derbyn gwybodaeth gan bedair llywodraeth y DU, gan gynnwys gan swyddogion gyda gwybodaeth benodol am reoliadau cynhyrchion plastigau untro. Ein prif ffynhonnell dystiolaeth oedd cyfweliadau ansoddol manwl gyda busnesau a sefydliadau masnach. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a鈥檙 cymorth a gawsom.

Prif ganfyddiadau

Mae ein prif ganfyddiadau mewn perthynas 芒 gweithrediad marchnad fewnol y DU fel a ganlyn:

  • Mae rheoliadau sy鈥檔 rheoli cynhyrchion unigol wedi cael eu cyflwyno yn bennaf mewn gwahanol genhedloedd yn y DU ar adegau digon tebyg, gan olygu bod cyflenwyr ar draws cadwyni cyflenwi a鈥檙 cenhedloedd wedi addasu ar yr un pryd i bob pwrpas. Gyda rhai eithriadau, nid ydym wedi canfod gwahaniaethau materol cyn ac ar 么l cyflwyno鈥檙 rheoliadau yn hunaniaeth y cyflenwyr sy鈥檔 weithredol ar draws y gadwyn gyflenwi yn y DU neu yn y cenhedloedd unigol. Mewn rhai achosion, mae鈥檔 ymddangos mai cwmn茂au mawr ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yw prif arweinwyr y trawsnewidiad i gynnyrch amgen yn hytrach na chynhyrchion plastig untro, gan fod y cwmn茂au hyn yn gallu cyfrif am gyfran fawr o鈥檙 galw, ac yn aml, mae ganddynt ymrwymiadau cynaliadwyedd cyhoeddus

  • Mae busnesau o bob maint yn ffafrio aliniad rheoliadau plastig untro o ran cwmpas a dyddiadau gweithredu, a hynny ar draws y DU, a gyda rheoliadau鈥檙 UE (lle mae busnesau鈥檔 gwerthu i mewn i鈥檙 UE a/neu鈥檔 dibynnu ar gadwyni cyflenwi鈥檙 UE). Mae hyn er bod busnesau鈥檔 gweld rhywfaint o fuddion o gyfleoedd i dreialu cynhyrchion newydd mewn cenhedloedd sydd wedi cyflwyno cyfyngiadau ar blastigau untro yn y lle cyntaf a/neu鈥檔 gallu symud stoc heb ei ddefnyddio i genhedloedd gyda dyddiadau gweithredu hwyrach ar gyfer cyfyngiadau ar blastigau untro

  • Er bod costau cydymffurfio gyda rheoliadau cynhyrchion plastig untro wedi bod yn sylweddol i rai busnesau, mae鈥檙 costau ychwanegol o gydymffurfio gydag unrhyw wahaniaethau yn y farchnad fewnol wedi bod yn gymharol fach, gan fod mwyafrif y rheoliadau cynhyrchion plastig untro hyd yma wedi alinio o ran cwmpas. Mae hyn wedi galluogi鈥檙 rhan fwyaf o fusnesau sy鈥檔 masnachu ar draws marchnad fewnol y DU i fabwysiadu dull unffurf sy鈥檔 sicrhau bod eu cynhyrchion/gwasanaethau yn cydymffurfio gyda rheoliadau cynhyrchion plastig untro ym mhob un o鈥檙 cenhedloedd, yn hytrach na theilwra gwahanol ddulliau gan ddibynnu ar reoliadau cynhyrchion plastig untro penodol ym mhob cenedl

  • Cawsom wybod gan randdeiliaid bod cyflenwyr i鈥檞 gweld yn dangos gwahanol agweddau tuag at gydymffurfiaeth, gyda busnesau mwy yn aml yn mynd y tu hwnt i ofynion cyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro, ac adroddiadau bod rhai busnesau llai ddim yn cydymffurfio gyda gwaharddiadau ar gynhyrchion plastig untro penodol

  • Mae llywodraethau鈥檔 cydweithio鈥檔 effeithiol ar gyfyngiadau cynhyrchion plastig untro ar 么l ystyried gwersi a ddysgwyd o gyflwyniad rheoliadau cynhyrchion plastig untro blaenorol (er enghraifft, rhannu data ar waith ymchwil ac effeithiau a hysbysu ei gilydd am eu cynlluniau polisi cynhyrchion plastig untro. Mae llywodraethau鈥檔 defnyddio Fframweithiau Cyffredin i reoli cynigion rheoleiddio, gan gynnwys cydweithio ar waharddiad arfaethedig ar weips gwlyb sy鈥檔 cynnwys plastig a f锚ps untro

  • Dywedodd busnesau wrthym nad yw鈥檙 gwahaniaethau mewn rheoliadau cynhyrchion plastig untro hyd yn hyn wedi cael effaith negyddol sylweddol nac wedi cyfrannu at arloesi cynnyrch neu brosesau. Clywsom fod rhai busnesau mwy eisoes yn symud ymlaen i ddefnyddio cynhyrchion mwy cynaliadwy yn unol ag ymrwymiadau gwirfoddol i leihau nifer yr eitemau plastig untro, a bod rhai busnesau gyda chadwyni cyflenwi Ewropeaidd yn cymryd camau tuag at gydymffurfio gyda deddfwriaeth yr UE - er enghraifft, gwerthu poteli plastig yn y DU gyda chaeadau plastig yn sownd iddynt

Mae鈥檙 wybodaeth a gasglwyd gennym hefyd yn caniat谩u arsylwadau ehangach yngl欧n 芒 rheoleiddio cynhyrchion plastig untro ar draws y DU:

  • Mae鈥檙 rheoliadau plastig untro wedi arwain at newid ymddygiad, er, fel y nodir uchod, roedd rhai busnesau mawr eisoes wedi gwneud ymrwymiadau gwirfoddol i leihau鈥檙 defnydd o blastig untro cyn cyflwyno鈥檙 rheoliadau

  • Er bod ymchwil cwsmeriaid ac adborth gan randdeiliaid eraill yn awgrymu bod cwsmeriaid yn cefnogi nodau cynaliadwyedd ar y cyfan, gan gynnwys cyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro, clywsom fod nifer o gwsmeriaid yn gyndyn o dalu prisiau uwch

  • Dywedodd rhai busnesau a rhanddeiliaid eraill wrthym fod diffyg cydymffurfiaeth gyda rhai o鈥檙 rheoliadau plastig untro gan olygu bod rhai o鈥檙 cynhyrchion plastig untro gwaharddedig (cynwysyddion bwyd polystyren a chyllyll a ffyrc plastig yn bennaf) yn dal i fod ar gael, a allai effeithio ar fusnesau sy鈥檔 cydymffurfio gyda鈥檙 gwaharddiadau perthnasol drwy golli gwerthiannau cynhyrchion eraill sy鈥檔 cydymffurfio

  • Dywedodd rhai busnesau wrthym am yr heriau maen nhw wedi鈥檜 hwynebu o ran rheoliadau plastig untro, e.e. gwahaniaeth yn y diffiniadau ar gyfer 鈥榩lastig鈥� mewn gwahanol reoliadau a materion megis diffyg ymgynghori yn gynt, canllawiau amserol a/neu amserlenni ymarferol, yn eu barn nhw

Ar y cyfan, daethom i鈥檙 casgliad, er bod rhai busnesau unigol wedi cael eu heffeithio鈥檔 sylweddol, mae effeithiau cyffredinol rheoliadau plastig untro ar fasnach y farchnad fewnol wedi bod yn gymedrol. Mae hyn yng nghyd-destun yr aliniad eang presennol mewn cyfyngiadau plastig untro ar draws Prydain, gyda disgwyliad y bydd Gogledd Iwerddon yn cyflwyno cyfyngiadau tebyg maes o law.

Rydym wedi canfod potensial ar gyfer gwahaniaethau rheoleiddio mewn perthynas 芒 chynhyrchion plastig untro eraill a allai weld cyfyngiadau鈥檔 cael eu cyflwyno yn y dyfodol, e.e. y gwaharddiad arfaethedig ar blastigau ocso-ddiraddadwy yng Nghymru a鈥檙 Alban. Er ein bod yn rhagweld y bydd llawer o fusnesau - yn enwedig cwmn茂au mawr sy鈥檔 masnachu ar draws y DU yn ei gyfanrwydd - yn ceisio mabwysiadu cyfres o safonau ar draws y busnes, gallai rhai cwmn茂au eraill sy鈥檔 masnachu mewn mwy nag un genedl wynebu costau ychwanegol er mwyn rheoli鈥檙 gwahaniaeth.

Argymhellion

Er mwyn cefnogi gwneuthurwyr polisi ar draws y DU i reoli gwahaniaeth o ran rheoleiddio neu aliniad rhwng cenhedloedd, yn ddibynnol ar y polisi plastig untro penodol dan ystyriaeth, rydym wedi datblygu argymhellion ymarferol, gan ddefnyddio鈥檙 mewnwelediadau a鈥檙 ymgysylltiad 芒 rhanddeiliaid a gafwyd fel rhan o鈥檙 astudiaeth hon.

Rydym wedi ystyried ein hargymhellion drwy gyfeirio at ddau senario, gan ddibynnu ar raddfa aliniad polisi rhwng llywodraethau. Wrth ddatblygu鈥檙 senarios hyn, rydym yn cydnabod y bydd pob llywodraeth yn gwneud penderfyniadau polisi er budd ei dinasyddion ei hun, ac yn rhoi sylw i ystod o ystyriaethau polisi cyhoeddus wrth benderfynu sut i weithredu rheoliadau鈥檔 ymwneud 芒 chynhyrchion plastig untro. Gwneir yr argymhellion isod felly o fewn cyd-destun sut y gallai llywodraethau gyflawni eu nodau polisi gan hefyd gefnogi gweithrediad effeithiol y farchnad fewnol yn y DU.

Mewn achosion lle mae nod polisi pob cenedl yn y DU yr un fath i bob pwrpas, a鈥檜 bod yn bwriadu cyflwyno gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar yr un cynhyrchion plastig untro, rydym yn argymell cydweithio agos rhwng y llywodraethau drwy Fframweithiau Cyffredin perthnasol a mecanweithiau eraill i ddatblygu鈥檙 rheoliadau plastig untro perthnasol, gan gynnwys (lle bo鈥檔 bosibl) mewn perthynas ag unrhyw eithriadau i鈥檙 rheoliadau, gofynion adrodd a chanllawiau cysylltiedig. Gallai cydweithrediad o鈥檙 fath gynnwys trafodaethau rhwng llywodraethau i ystyried cynnal ymgynghoriadau ar y cyd i leihau syrffed posibl gan randdeiliaid ac osgoi dryswch yngl欧n 芒 chwestiynau tebyg, ac er mwyn i lywodraethau geisio cyflawni dyddiadau gweithredu cyffredin, fel sydd wedi digwydd gyda鈥檙 gwaharddiadau arfaethedig ar werthu f锚ps untro a weips gwlyb sy鈥檔 cynnwys plastig.

I鈥檙 gwrthwyneb, pan fo gan lywodraethau nodau gwahanol mewn perthynas 芒 rheoliadau plastig untro, rydym yn argymell y dylai llywodraethau gydweithio i ystyried effeithiau posibl y gwahaniaethau hyn ar gyfer busnesau sy鈥檔 masnachu ar draws ffiniau cenedlaethol, gan fod busnesau o鈥檙 fath mewn perygl o wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i orfod cydymffurfio gyda gwahanol ofynion cenedlaethol. Yn y senario hwn, rydym yn argymell y dylai llywodraethau gydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer dylunio rheoliadau mewn modd sy鈥檔 galluogi busnesau, pe byddent yn dymuno, i fabwysiadu model busnes unigol sy鈥檔 gallu cydymffurfio gydag unrhyw wahaniaethau mewn rheoliadau cenedlaethol.

canllawiau clir ar newidiadau i reoliadau plastig untro i sefydliadau masnach a busnesau, a sut i gydymffurfio 芒 nhw, cyn gynted 芒 phosibl i gynorthwyo鈥檙 busnesau i gynllunio ar gyfer newid i鈥檙 cynhyrchion amgen. Gall ymgysylltu 芒 sefydliadau masnach fod yn enwedig o bwysig gan fod busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn dibynnu鈥檔 helaeth arnynt am wybodaeth.