Sut i gofrestru fel defnyddiwr proffesiynol cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) ac adjiwfantau
Diweddarwyd 30 Medi 2022
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Pwy sy鈥檔 gorfod cofrestru
Rhaid ichi gofrestru os ydych chi鈥檔 fusnes, sefydliad neu鈥檔 unig fasnachwr sy鈥檔 defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau yn broffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu鈥檙 Alban).
Mae hyn yn eich cynnwys chi os ydych chi:
- yn defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau fel rhan o鈥檆h gwaith
- 芒 PPPs ac unrhyw adjiwfantau a daenir gan drydydd parti fel rhan o鈥檆h gwaith ym myd amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau neu goedwigaeth
- yn gontractwr sy鈥檔 cael ei hurio i storio neu daenu PPPs ac unrhyw adjiwfantau ar ran pobl eraill
- yn wirfoddolwr a鈥檆h bod yn defnyddio PPPs ac adjiwfantau yn ystod eich gwaith, er enghraifft mewn clybiau chwaraeon amatur
Does dim angen ichi gofrestru os ydych chi鈥檔 defnyddio PPPs amatur yn eich gardd. Ffurflen ar gyfer defnyddwyr proffesiynol yw hon.
Sectorau
Mae鈥檙 ffurflen yn gofyn pa sector neu sectorau rydych chi鈥檔 gweithio ynddyn nhw.
Amaethyddiaeth a garddwriaeth
Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn amaethyddiaeth neu arddwriaeth, fel ffermio neu gynnal cnydau 芒r, cnydau porthiant neu dda byw, neu drin hadau.
Amwynder
Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn garddio, tirlunio, cynnal a chadw tiroedd, neu r么l arall mewn lleoliad amwynderau megis:
- parciau
- meysydd chwaraeon, gan gynnwys cyrsiau golff
- eiddo cyhoeddus neu breifat
- isadeiledd, fel ffyrdd, rheilffyrdd a dyfrffyrdd
- cyfleustodau, megis cwmn茂au trafnidiaeth a d诺r
Coedwigaeth
Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn coedwigoedd neu goetiroedd, megis:
- rheoli coed
- plannu coed
- defnyddio coedwigoedd neu goetir
Awdurdodau lleol
Rhaid i awdurdodau lleol sy鈥檔 defnyddio neu鈥檔 storio PPPs gofrestru fel defnyddwyr proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys lle mae gweithwyr yr awdurdodau lleol yn taenu PPPs a bod yr awdurdod yn hurio trydydd parti i daenu PPPs ar eu rhan. Dylai contractwyr sy鈥檔 cael eu hurio i daenu PPPs ar ran awdurdodau lleol gofrestru鈥檔 annibynnol.
Cyfeiriadau鈥檔 gysylltiedig 芒 gweithgareddau PPPs
Mae Defra yn cofnodi eich cyfeiriadau busnes. Rhaid ichi gofrestru prif gyfeiriad busnes lle rydych chi鈥檔 gwneud un neu fwy o鈥檙 canlynol:
- defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau
- eu storio
- cadw cofnodion
Rhaid ichi hefyd gofrestru unrhyw gyfeiriadau ychwanegol lle rydych chi鈥檔 storio PPPs ac unrhyw adjiwfantau. Os ydych chi鈥檔 fusnes sydd 芒 dros 40 o gyfeiriadau i鈥檞 cofrestru, does dim angen ichi ddefnyddio鈥檙 ffurflen. Anfonwch neges ebost at [email protected] i gael arweiniad pellach.
Peidiwch ag ychwanegu cyfeiriadau lle rydych chi鈥檔 storio neu鈥檔 taenu PPPs ar ran cleientau ar eu tir nhw.
Cyfeiriadau dros dro
Rhaid ichi gofrestru o leiaf un cyfeiriad busnes parhaol. Does dim angen ichi gofrestru cyfeiriadau dros dro, er enghraifft cyfeiriadau y byddwch yn eu defnyddio am hyd at 2 flynedd yn unig.
Defnyddio PPPau
Mae鈥檙 ffurflen yn gofyn ichi amcangyfrif faint o PPPs heb eu glastwreiddio rydych chi鈥檔 eu defnyddio mewn blwyddyn nodweddiadol. Mae hyn yn cynnwys y PPPs rydych chi鈥檔 eu taenu, ac unrhyw PPPs sydd wedi鈥檜 taenu ar eich rhan gan drydydd part茂on.
Os yw鈥檙 swm rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio鈥檔 newid o flwyddyn i flwyddyn, rhowch y swm y byddech yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn arferol. Os ydych chi鈥檔 defnyddio PPPs yn ystod rhai blynyddoedd ond nid eraill, rhowch y swm nodweddiadol y byddech chi鈥檔 ei ddefnyddio mewn blwyddyn pan fyddwch chi鈥檔 eu defnyddio.
Os ydych chi鈥檔 defnyddio hadau sydd wedi鈥檜 trin 芒 PPPs, peidiwch 芒 chynnwys hyn wrth gyfrifo faint o PPPs rydych chi鈥檔 eu defnyddio mewn blwyddyn arferol.
Os ydych chi鈥檔 fusnes trin hadau sy鈥檔 taenu PPPs ar hadau, cynhwyswch faint o PPPs rydych chi鈥檔 eu taenu ar hadau wrth gyfrifo faint o PPPs rydych chi鈥檔 eu defnyddio mewn blwyddyn nodweddiadol.
Cynlluniau sicrwydd
Mae鈥檙 ffurflen yn gofyn a ydych yn aelod o unrhyw gynlluniau sicrwydd sy鈥檔 ymdrin 芒 defnyddio PPPs.
Mae cynlluniau sicrwydd yn gynlluniau gwirfoddol sy鈥檔 sefydlu safonau cynhyrchu. Mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys y Tractor Coch, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, Leaf Marque, Cymdeithas y Pridd, Amenity Assured ac RSPCA Assured.
Os nad ydych yn rhan o unrhyw gynlluniau sicrwydd, gadewch y cwestiwn hwn yn wag.
Sut i gofrestru
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel busnes, sefydliad neu unig fasnachwr sy鈥檔 defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau ym Mhrydain Fawr.
Lawrlwytho鈥檙 ffurflen
Mae鈥檙 ffurf ar fformat taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen fel Microsoft Excel, LibreOffice neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi鈥檙 ffurflen.
Mae鈥檙 ffurflen ar gael mewn 2 wahanol fath o ffeiliau:
- Fformat OpenDocument (.ods)
- Fformat Excel (.xlsx)
Os ydych chi鈥檔 defnyddio dyfais Apple a bod gennych chi OpenOffice neu LibreOffice, defnyddiwch y math o ffeil OpenDocument (.ods). Os ydych chi鈥檔 defnyddio Numbers, bydd angen ichi allforio a chadw eich ffeil orffenedig ar fformat Excel (.xls neu .xlsx) neu OpenDocument .ods.
Llenwi鈥檙 ffurflen
Mae鈥檙 ffurflen yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer sut i鈥檞 llenwi.
Dychwelyd y ffurflen
Ar 么l ei llenwi, cadwch y ffurflen fel ffeil OpenDocument (.ods) neu Excel (.xls neu .xlsx).
Ebostiwch eich ffeil .ods, .xls neu .xlsx i [email protected].
Dim ond ffurflenni sydd wedi鈥檜 cadw yn y fformatau hyn y gall Defra eu prosesu.
Os anfonwch chi鈥檆h eich ffurflen mewn fformat ffeil gwahanol, megis dogfen PDF neu Word, ni fydd yn cael ei phrosesu a gofynnir ichi ailgyflwyno鈥檙 wybodaeth.
Os bydd eich cwmni鈥檔 cau ar 么l cofrestru, rhaid ichi roi gwybod i [email protected].
Ffurflenni papur
I ofyn am ffurflen bapur, anfonwch neges ebost at [email protected]. Cofiwch gynnwys eich enw a鈥檙 cyfeiriad lle dylid anfon y ffurflen. Bydd Defra yn anfon ffurflen bapur atoch gydag amlen ddychwelyd sydd wedi鈥檌 thalu ymlaen llaw.
Bydd ffurflenni papur yn cymryd mwy o amser i鈥檞 prosesu. Fe gewch chi neges ebost gan Defra pan fyddan nhw wedi prosesu鈥檆h ffurflen.
Help gyda鈥檙 ffurflen
I gael help gyda鈥檙 ffurflen, gallwch:
- ebostio: [email protected] (defnyddiwch y llinell bwnc 鈥榊mholiad cofrestru OCR-PPP鈥�)
- ffonio鈥檙 llinell gymorth: 03459 33 55 77
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.
Gwybodaeth am daliadau am alwadau (yn Saesneg).
I gysylltu 芒 Defra ynghylch cwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno (yn Saesneg).