Sut i gofrestru fel busnes sy'n gosod cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol (PPPs) ar y farchnad
Diweddarwyd 30 Medi 2022
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Pwy sy鈥檔 gorfod cofrestru
Rhaid i fewnforwyr, gweithgynhyrchwyr, proseswyr, dosbarthwyr neu werthwyr naill ai cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs), adjiwfantau neu gynhwysion PPPs at ddibenion proffesiynol ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu鈥檙 Alban) gofrestru gyda鈥檙 ffurflen hon.
Does dim angen i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw gofrestru gyda鈥檙 ffurflen hon.
Mewnforwyr
Rhaid ichi gofrestru os yw eich busnes yn mewnforio naill ai PPPs, eu cynhwysion neu adjiwfantau i鈥檞 defnyddio鈥檔 broffesiynol i Brydain Fawr.
Gweithgynhyrchwyr a phrosesyddion
Rhaid ichi gofrestru os yw eich busnes:
- yn cynhyrchu PPPs wedi鈥檜 fformiwleiddio
- yn cynhyrchu cynhwysion PPPs
- yn cynhyrchu adjiwfantau
- yn ailbacio PPPs
- yn ail-labelu PPPs
Rhaid i鈥檙 PPPs, y cynhwysion PPPs neu鈥檙 adjiwfantau gael eu gweithgynhyrchu ym Mhrydain Fawr a rhaid iddynt fod at ddibenion proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy鈥檔 gweithgynhyrchu am ffi.
Dosbarthwyr a gwerthwyr
Rhaid ichi gofrestru os yw eich busnes yn gwneud PPPs, eu cynhwysion neu adjiwfantau sydd ar gael i鈥檞 prynu i鈥檞 defnyddio鈥檔 broffesiynol ym Mhrydain Fawr, naill ai mewn siop neu dros y we.
Sut i gofrestru
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel busnes sy鈥檔 gosod cynhyrchion diogelu planhigion proffesiynol (PPPs) ar y farchnad.
Lawrlwytho鈥檙 ffurflen
Mae鈥檙 ffurf ar fformat taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen fel Microsoft Excel, LibreOffice neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi鈥檙 ffurflen.
Mae鈥檙 ffurflen ar gael mewn 2 wahanol fath o ffeiliau:
- Fformat OpenDocument (.ods)
- Fformat Excel (.xlsx)
Os ydych chi鈥檔 defnyddio dyfais Apple a bod gennych chi OpenOffice neu LibreOffice, defnyddiwch y math o ffeil OpenDocument (.ods). Os ydych chi鈥檔 defnyddio Numbers, bydd angen ichi allforio a chadw eich ffeil orffenedig ar fformat Excel (.xls neu .xlsx) neu OpenDocument (.ods).
Dychwelyd y ffurflen
Ar 么l ei llenwi, cadwch y ffurflen fel ffeil OpenDocument (.ods) neu Excel (.xls neu .xlsx).
Ebostiwch eich ffeil .ods, .xls neu .xlsx i [email protected].
Dim ond ffurflenni sydd wedi鈥檜 cadw yn y fformatau hyn y gall Defra eu prosesu. Os anfonwch chi鈥檆h eich ffurflen mewn fformat ffeil gwahanol, megis dogfen PDF neu Word, ni fydd yn cael ei phrosesu a gofynnir ichi ailgyflwyno鈥檙 wybodaeth.
Os bydd eich cwmni鈥檔 cau ar 么l cofrestru, rhaid ichi roi gwybod i [email protected].
Help gyda鈥檙 ffurflen
I gael help gyda鈥檙 ffurflen, gallwch:
- ebostio: [email protected] (defnyddiwch y llinell bwnc 鈥榊mholiad cofrestru OCR-PPP鈥�)
- ffonio鈥檙 llinell gymorth: 03459 33 55 77
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.
Gwybodaeth am daliadau am alwadau (yn Saesneg).
I gysylltu 芒 Defra ynghylch cwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno (yn Saesneg).