Transparency data

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ffurflenni鈥檙 Llys Sifil

Updated 1 November 2023

Applies to England and Wales

1. Pwrpas

Mae鈥檙 hysbysiad preifatrwydd hwn yn pennu鈥檙 safonau y gallwch eu disgwyl gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) pan fyddwn yn prosesu data personol amdanoch ar gyfer achosion llys sifil; sut gallwch gael mynediad at gopi o鈥檆h data personol; a beth allwch ei wneud os ydych yn credu nad yw鈥檙 safonau鈥檔 cael eu bodloni.

Mae GLlTEF yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ). MoJ yw鈥檙 rheolydd data ar gyfer y data personol a gedwir gennym. Mae GLlTEF hefyd yn casglu ac yn prosesu data personol i weithredu ei swyddogaethau cyhoeddus a鈥檌 rwymedigaethau cyfreithiol ei hun a rhai cysylltiedig.

Nid yw鈥檙 hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i鈥檙 data personol sy鈥檔 cael ei gasglu a鈥檌 reoli gan y llys (a鈥檌 farnwyr) yn ystod achos cyfreithiol. Mae鈥檙 farnwriaeth yn annibynnol o MoJ a GLlTEF ac mae鈥檙 ddeddfwriaeth diogelu data yn ei heffeithio鈥檔 wahanol o ganlyniad i hyn.

Hysbysiad preifatrwydd y farnwriaeth

2. Ynghylch data personol

Data personol yw gwybodaeth sy鈥檔 ymwneud ag unigolyn byw y gellir ei adnabod o鈥檙 data hwnnw.

Nid yw鈥檔 cynnwys gwybodaeth sy鈥檔 ymwneud 芒 phobl sydd wedi marw, grwpiau neu gymunedau o bobl, sefydliadau neu fusnesau. Gall gynnwys eich enw, eich cyfeiriad neu鈥檆h rhif ff么n. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth am eich rhywedd, eich amgylchiadau ariannol, eich cefndir diwylliannol neu eich statws cymdeithasol.

Gwyddwn ei fod yn hynod bwysig i ddiogelu preifatrwydd bob unigolyn sy鈥檔 rhan o achos llys a chydymffurfio 芒 deddfau diogelu data. Bydd GLlTEF yn diogelu eich data personol ac ni fyddwn yn ei ddatgelu ond pan fydd yn gyfreithlon i ni wneud hynny neu gyda鈥檆h caniat芒d chi.

3. Mathau o ddata personol rydym yn ei brosesu

Rydym ond yn prosesu data personol sy鈥檔 berthnasol ar gyfer bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac er mwyn gweinyddu cyfiawnder. Gall y math o ddata a gesglir o ffurflenni鈥檙 llys gynnwys: eich enw, eich cyfeiriad, eich manylion cyswllt, eich amgylchiadau economaidd, eich ethnigrwydd, eich credoau crefyddol a manylion unrhyw unigolion eraill, gan gynnwys plant y mae鈥檙 achos yn ymwneud 芒 nhw, neu y gallant fod 芒 diddordeb yn yr achos.

Fel arfer, bydd y data personol yn cael ei gasglu yn uniongyrchol gennych chi neu gan unigolyn arall sydd wedi cynnwys eich data mewn ffurflen llys maent wedi鈥檌 llenwi. Hefyd, gellir casglu eich data personol gan ffynonellau eraill yn ystod yr achos, er enghraifft gan sefydliadau proffesiynol fel awdurdod lleol, yr heddlu neu barti arall i鈥檙 achos.

4. Pwrpas prosesu data personol a鈥檙 sail gyfreithiol dros wneud hynny

Y prif reswm dros brosesu data personol yw at ddibenion gweinyddu cyfiawnder a chefnogi鈥檙 farnwriaeth annibynnol wrth gynnal y gyfraith ac wrth gyflawni cyfiawnder yn ddiduedd, yn gyflym ac yn effeithlon. Mae prosesu data hefyd yn angenrheidiol i sefydlu, rheoli neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Cesglir a chedwir y data personol sydd ei angen at y diben hwn mewn ffurflenni llys. Mae鈥檔 cael ei lwytho i gronfa ddata y llys hefyd, gan gefnogi鈥檙 broses o weinyddu cyfiawnder mewn achos llys. Defnyddir y gronfa ddata gan staff y llys i reoli achosion a chasglu gwybodaeth am gynnydd achos.

Ffurflenni鈥檙 llys

Mae ffurflenni鈥檙 llys wedi鈥檜 datblygu ar gyfer eu defnyddio mewn achosion sifil i alluogi rheoli achosion yn effeithiol. Yn gyffredinol, defnyddir y ffurflenni i gychwyn achos neu i bennu camau gweithredu o fewn achos presennol, ac y mae鈥檙 wybodaeth a ddarperir yn galluogi鈥檙 llys i gyflawni cyfiawnder a gwneud penderfyniadau pwysig. Fel yr esboniwyd uchod, mae deddfau diogelu data yn berthnasol i鈥檙 llys mewn ffyrdd gwahanol pan fo data personol yn cael ei gasglu a鈥檌 ddefnyddio yn ystod achos.

Rydym hefyd yn prosesu data personol a gafwyd mewn achosion llys sifil at ddibenion ystadegol. Mae鈥檙 data personol yn gwbl ddienw ac fe鈥檌 ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau. Mae GLlTEF yn defnyddio manylion cyswllt i ofyn i ddefnyddwyr llys os yr hoffent gwblhau arolwg gwasanaeth cwsmeriaid i fesur bodlonrwydd defnyddwyr llys ac i adnabod meysydd i鈥檞 gwella.

Pan fyddwn yn gofyn am eich data personol, byddwn:

  • yn addo rhoi gwybod ichi pam bod angen eich data personol arnom
  • yn addo gofyn am y data personol sydd ei angen arnom yn unig, ac ni fyddwn yn casglu gwybodaeth sy鈥檔 amherthnasol neu鈥檔 ormodol
  • yn diogelu鈥檙 data ac yn sicrhau nad oes gan neb heb awdurdod fynediad ato efallai y byddwn yn ei rannu gyda sefydliadau eraill am resymau cyfreithlon, ond dim ond pan fo hynny鈥檔 angenrheidiol ac fe鈥檌 ganiateir gan y gyfraith (gweler isod)
  • yn sicrhau nad ydym yn ei gadw am fwy o amser na sydd angen.

Gallwch:

  • wneud cais i gael mynediad at eich data personol neu ofyn iddo gael ei gywiro
  • gwrthwynebu ein bod yn prosesu eich data personol neu ofyn i鈥檙 prosesu gael ei gyfyngu
  • cyflwyno cwyn i鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth (gweler isod).

5. Gyda phwy y gellir rhannu鈥檙 wybodaeth

Gan amlaf fe rennir yr wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni gyda鈥檙 part茂on eraill sy鈥檔 rhan o鈥檙 achos, gan gynnwys eu cynrychiolwyr cyfreithiol. Fel arfer, dan y Rheolau Trefniadaeth Sifil (鈥榶 Rheolau鈥�), mae gofyn ichi roi鈥檙 wybodaeth honno iddynt eich hun, yn aml trwy anfon copi o鈥檙 ffurflen atynt: gweler y ffurflenni penodol a鈥檙 Rheolau i gael rhagor o fanylion.

Fel arfer, ni fydd yr wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni yn cael ei rhannu gydag unrhyw un nad yw鈥檔 barti i鈥檙 achos oni bai ei fod yn cael ei orchymyn yn benodol gan y llys neu fod y Rheolau yn caniat谩u hynny. Mae yna reolau o ran pryd all gwybodaeth am achosion gael ei datgelu y tu allan i鈥檙 achos. Nid yw鈥檙 math hwn o brosesu data gan lys yn berthnasol i鈥檙 hysbysiad preifatrwydd hwn oherwydd fel rheol fe鈥檌 gyflawnir gan y farnwriaeth annibynnol.

Pan fydd yn ofynnol i ni rannu data personol byddwn yn cydymffurfio 芒 phob agwedd ar y Rheolau, ynghyd 芒 deddfau diogelu data. Gall y categor茂au o sefydliadau efallai y bydd yn ofynnol inni rannu eich data personol 芒 hwy, sef y data a gasglwyd gan ffurflenni llys, gynnwys asiantaethau sydd dan gontract i GLlTEF (e.e. asiantaethau cyfieithu ar y pryd, trawsgrifio neu gyfieithu), adrannau eraill yn y Llywodraeth neu lysoedd ac awdurdodau cyhoeddus o fewn neu tu allan i鈥檙 UE.

Yn gyffredinol, gwrandewir gwrandawiadau achosion sifil yn gyhoeddus. Mae hyn yn golygu efallai y bydd eraill yn digwydd clywed gwybodaeth bersonol amdanoch tra byddant yn eistedd yn yr ystafell llys. Fodd bynnag, mae鈥檙 Rheolau yn cynnwys amgylchiadau lle gall gwrandawiadau gael eu cynnal yn breifat, ac amgylchiadau lle dylid cadw manylion am bwy yw鈥檙 part茂on neu鈥檙 tystion yn gyfrinachol (cyfeiriwch at y Rheolau Trefniadaeth Sifil).

6. Manylion trosglwyddiadau i drydedd wlad

Weithiau efallai y bydd angen trosglwyddo data personol i wlad dramor er mwyn sefydlu, ymarfer, neu amddiffyn hawliau cyfreithiol. Bydd y rhesymau dros drosglwyddo鈥檙 data a pha drydedd wlad sy鈥檔 cael yr wybodaeth wastad yn ddibynnol ar amgylchiadau鈥檙 achos, ond bydd unrhyw drosglwyddiadau o鈥檙 fath yn cael ei wneud gan gydymffurfio鈥檔 llawn 芒 phob agwedd ar y gyfraith (mae 鈥榯rydedd wlad鈥� yn golygu gwlad y tu allan i鈥檙 UE).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 ni trwy anfon neges e-bost i [email protected].

7. Cyfnod cadw鈥檙 wybodaeth a gesglir

Rhoddir cyfarwyddiadau i adrannau鈥檙 Llywodraeth, asiantaethau a phob corff sector cyhoeddus arall gadw unrhyw a phob darn o ddogfennaeth; gohebiaeth; nodiadau; negeseuon e-bost ac unrhyw wybodaeth arall (mewn unrhyw ffurf) sy鈥檔 cynnwys, neu a all gynnwys gwybodaeth sy鈥檔 ymwneud yn uniongyrchol neu鈥檔 anuniongyrchol a cham-drin plant yn rhywiol neu sy鈥檔 ymwneud ag amddiffyn a gofal plant. Mae鈥檙 gair 鈥榩lant鈥� yn golygu unrhyw unigolyn sydd dan 18 oed.

Mae cyfnodau cadw gwahanol yn berthnasol yn ddibynnol ar y math o achos rydych yn rhan ohono.

Cyfnodau cadw a gwybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol

8. Mynediad at wybodaeth bersonol

Gallwch ganfod a oes gan GLlTEF unrhyw ddata personol amdanoch drwy wneud 鈥榗ais gwrthrych am wybodaeth鈥�.

Gallwch wneud cais gwrthrych am wybodaeth trwy anfon e-bost i: [email protected]. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gytundebau sydd gennym 芒 sefydliadau eraill o ran rhannu data personol; cynhyrchu ystadegau; sut mae staff yn casglu, yn defnyddio neu鈥檔 dileu data personol; sut y gwneir si诺r bod yr wybodaeth yn gywir a sut i wneud cwyn.

I gael rhagor o wybodaeth am drin a thrafod data personol, neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch 芒鈥檔 Swyddog Diogelu Data drwy anfon neges e-bost i [email protected].

9. Cwynion

Pan ofynnwn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith. Os ydych yn credu bod eich gwybodaeth wedi cael ei thrin yn anghywir gan GLlTEF neu MoJ, gallwch gysylltu 芒鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data.

Manylion cyswllt y Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ff么n: 0303 123 1113
gwefan ICO