Guidance

Rhieni a Gwarcheidwaid: Plant yn pledio鈥檔 ddieuog

Updated 20 August 2021

Applies to England and Wales

Siarad 芒 chyfreithiwr

Cyn dyddiad y gwrandawiad llys siaradwch 芒 chyfreithiwr ar unwaith. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr trwy:

  • cysylltu 芒 neu ffonio 020 7320 5650

Efallai gall Asiantaeth Gynghori fel eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr.

Sut y gall cyfreithiwr helpu eich plentyn

Gall y cyfreithiwr:

  • roi cyngor i鈥檆h plentyn am yr achos
  • gwneud cais am gymorth cyfreithiol, sydd fel arfer ar gael i blant, felly byddant yn cynrychioli eich plentyn am ddim

Mae angen i chi roi鈥檙 holl wybodaeth i鈥檙 cyfreithiwr yn achos eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a roddwyd i chi gan yr heddlu, yr erlyniad neu鈥檙 llys. Efallai na fydd y cyfreithiwr yn gallu helpu eich plentyn heb yr wybodaeth hon.

Sut mae鈥檙 cyfreithiwr yn amddiffyn hawl eich plentyn i breifatrwydd yn y llys

Mae鈥檙 cyfreithiwr yn annibynnol ac mae popeth a ddywedir rhwng eich plentyn a鈥檌 gyfreithiwr yn gyfrinachol a dim ond gyda chaniat芒d eich plentyn y gellir ei rhannu.

Fodd bynnag, ni chaniateir i gyfreithiwr gamarwain y llys na dweud wrth y llys rhywbeth y maent yn gwybod sy鈥檔 anwir.

Bydd angen i鈥檙 cyfreithiwr rannu manylion yr amddiffyniad gyda鈥檙 llys i baratoi ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Bydd angen caniat芒d eich plentyn ar y cyfreithiwr i wneud hyn.

Pan fydd eich plentyn yn dweud wrth y llys eu bod nhw鈥檔 ddieuog

Os yw eich plentyn yn dweud wrth y llys ynadon neu鈥檙 llys ieuenctid ei fod yn ddieuog o gyflawni trosedd, mae angen i gyfreithiwr eich plentyn, yr erlynydd a鈥檙 llys lenwi ffurflen paratoi ar gyfer treial mewn llys ynadon neu lys ieuenctid.

Mae鈥檙 ffurflen yn cynnwys gwybodaeth bwysig sydd ei hangen ar gyfreithiwr eich plentyn, y llys a鈥檙 erlynydd ar gyfer yr achos. Mae hyn yn sicrhau bod gan y treial y siawns orau o fynd ymlaen ar ddyddiad y treial.

Bydd y llys fel arfer yn dewis dyddiad arall ar gyfer gwrando鈥檙 treial.

Gwybodaeth y bydd ei hangen ar gyfreithiwr eich plentyn i lenwi鈥檙 ffurflen

I gynrychioli鈥檆h plentyn a llenwi鈥檙 ffurflen, bydd angen i鈥檙 cyfreithiwr wybod eich manylion chi a鈥檆h plentyn (os yn wahanol), gan gynnwys:

  • cyfeiriad
  • rhifau ff么n
  • cyfeiriad e-bost

Mae angen i鈥檆h cyfreithiwr wybod popeth am achos eich plentyn, fel:

1) Pam fod eich plentyn yn credu ei fod yn ddieuog.

2) Unrhyw dystion, ac os yw鈥檔 hysbys - eu henwau, dyddiadau geni, rhifau ff么n a chyfeiriadau.

3) Os oes angen cyfieithydd ar unrhyw un o dystion eich plentyn a鈥檙 iaith y maent yn siarad. Os yw鈥檙 llys yn cytuno bod angen cyfieithydd ar y tyst, bydd y llys yn trefnu ac yn talu am hyn.

4) Os oes unrhyw un o dystion eich plentyn eisiau rhoi tystiolaeth y tu 么l i sgrin neu dros fideo o leoliad arall. Bydd angen i chi a鈥檆h plentyn esbonio pam. Gelwir hyn yn fesur arbennig.

Os nad yw eich plentyn yn dweud popeth wrth ei gyfreithiwr

Efallai na fydd y cyfreithiwr yn gallu rhoi鈥檙 cyngor gorau i鈥檆h plentyn am ei achos. Os na all y cyfreithiwr ddweud wrth y llys am dystiolaeth neu dystion y mae eich plentyn am ei ddefnyddio yn y treial cyn gynted 芒 phosibl, gallai鈥檙 llys benderfynu:

  • a ddylai鈥檙 treial fynd yn ei flaen heb y dystiolaeth a鈥檙 tyst
  • a ddylai eich plentyn (neu chi) dalu mwy o gostau os gohirir yr achos a bod eich plentyn yn euog

Os yw eich plentyn yn anghofio dweud rhywbeth wrth y cyfreithiwr, neu os oes gwybodaeth newydd, mae鈥檔 bwysig eich bod chi a鈥檆h plentyn yn dweud wrth y cyfreithiwr ar unwaith.

Beth sy鈥檔 digwydd pan fydd y llys yn penderfynu ar ddyddiad y treial

Bydd y llys yn dweud wrthych chi a鈥檆h plentyn beth yw dyddiad, amser a lleoliad yr achos. Mae angen i chi sicrhau eich bod chi a鈥檆h plentyn yn aros mewn cysylltiad 芒鈥檙 cyfreithiwr. Dywedwch wrth y cyfreithiwr os yw eich manylion cyswllt chi neu鈥檆h plentyn yn newid.

Rhaid i chi a鈥檆h plentyn ddod i鈥檙 llys ar gyfer yr achos. Os na wnewch chi hynny:

  • efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu siarad 芒鈥檙 llys ar eich rhan
  • efallai y bydd y llys yn penderfynu gwrando ar yr achos heb eich plentyn
  • efallai bydd y llys yn penderfynu cyhoeddi gwarant i鈥檆h plentyn gael ei arestio
  • gallai eich plentyn gyflawni trosedd arall o beidio 芒 dod i鈥檙 llys heb reswm da

Os na allwch chi neu鈥檆h plentyn ddod i鈥檙 llys oherwydd rheswm meddygol, neu argyfwng, rhaid i chi gysylltu 芒鈥檆h cyfreithiwr a鈥檙 llys cyn gynted 芒 phosibl. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ategu鈥檙 hyn rydych chi鈥檔 ei ddweud, er enghraifft nodyn gan eich meddyg teulu.

Sut i helpu eich plentyn

Sicrhewch eich bod chi a鈥檆h plentyn yn cyrraedd 30 munud cyn y gwrandawiad llys.

Defnyddiwch y canllaw hwn i egluro i鈥檆h plentyn beth fydd yn digwydd. Mae canllaw y gallent ei ddarllen eu hunain os dymunant : Pobl ifanc: Beth sy鈥檔 digwydd pan fyddaf yn mynd i鈥檙 llys ac eisiau dweud fy mod yn ddieuog?

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am fynd i鈥檙 llys

Mae鈥檙 taflenni hyn yn egluro beth sy鈥檔 digwydd pan fyddwch chi a鈥檆h plentyn yn mynd i鈥檙 llys- a rhai o鈥檙 geiriau y byddwch chi鈥檔 eu clywed yn y llys:

Maent hefyd ar gael yn eich llys lleol.