Guidance

Pobl Ifanc: Pan fyddwch yn mynd i鈥檙 llys ac eisiau dweud eich bod yn ddieuog

Updated 20 August 2021

Applies to England and Wales

Siarad 芒 chyfreithiwr

Cyn dyddiad y gwrandawiad llys, siaradwch 芒 chyfreithiwr ar unwaith.

Gall y cyfreithiwr roi cyngor ichi ynghylch a ddylech ddweud eich bod yn euog, neu鈥檔 ddieuog, o gyflawni鈥檙 drosedd.

Bydd y cyfreithiwr yn eich cynrychioli yn y llys. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad 芒鈥檙 llys ar eich rhan.

Bydd y cyfreithiwr yn edrych i weld a allwch gael cymorth cyfreithiol. Byddwch yn cael hwn fel rheol. Os yw鈥檙 llys yn cytuno, mae鈥檔 golygu na fydd yn rhaid i chi dalu arian i鈥檙 cyfreithiwr.

Mae angen i chi ddweud wrth y cyfreithiwr am bopeth a ddigwyddodd. Maen nhw yno i helpu. Byddant yn cadw popeth rydych chi鈥檔 ei ddweud yn gyfrinachol oni bai eich bod chi鈥檔 cytuno i鈥檙 llys gael gwybod.

Mae angen i chi roi鈥檙 holl wybodaeth sydd gennych i鈥檙 cyfreithiwr am eich achos.

Sut mae鈥檙 cyfreithiwr yn amddiffyn eich hawl i breifatrwydd yn y llys

Mae popeth a ddywedir rhyngoch chi a鈥檆h cyfreithiwr yn gyfrinachol a dim ond gyda鈥檆h caniat芒d y gellir ei rannu.

Fodd bynnag, ni chaniateir i gyfreithiwr gamarwain y llys na dweud wrth y llys rhywbeth y maent yn gwybod sy鈥檔 anwir.

Bydd angen i鈥檆h cyfreithiwr rannu manylion yr amddiffyniad gyda鈥檙 llys i baratoi ar gyfer y gwrandawiad nesaf. Bydd angen eich caniat芒d ar y cyfreithiwr i wneud hyn.

Beth sy鈥檔 digwydd pan ddwedwch wrth y llys eich bod yn ddieuog

Fel rheol mae angen i鈥檆h cyfreithiwr , yr erlynydd a鈥檙 llys lenwi ffurflen paratoi ar gyfer treial mewn llys ynadon.

Mae鈥檙 ffurflen yn bwysig. Mae angen i鈥檙 llys ddeall pam rydych chi鈥檔 dweud eich bod yn ddieuog a phenderfynu beth fydd yn digwydd yn y treial.

Bydd y llys fel arfer yn dweud wrthych pa bryd, ac i ble y mae鈥檔 rhaid i chi ddod i鈥檙 llys ar gyfer eich treial.

Gwybodaeth sydd ei hangen ar eich cyfreithiwr

Bydd angen i鈥檆h cyfreithiwr siarad 芒 chi am eich achos cyn y treial, felly mae angen dweud wrthynt:

  • ble rydych chi鈥檔 byw
  • beth yw eich rhif ff么n
  • cyfeiriad e-bost os oes gennych un

Mae angen i鈥檆h cyfreithiwr wybod popeth am eich achos, fel:

1) Beth ddigwyddodd yn eich achos chi.

2) Os oes gennych unrhyw dystion. Mae鈥檙 rhain yn bobl a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu sy鈥檔 gallu dweud wrth y llys amdanoch chi. Mae angen i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr (os ydych chi鈥檔 gwybod hyn) eu henw, ble maen nhw鈥檔 byw, dyddiad geni, rhif ff么n ac a ydyn nhw鈥檔 siarad iaith arall. Efallai nad ydych yn gwybod hyn i gyd ond dywedwch wrth eich cyfreithiwr beth allwch chi.

3) Pam rydych chi鈥檔 dweud eich bod yn ddieuog. Dyma beth rydych chi鈥檔 dweud ddigwyddodd.

Os na fyddwch chi鈥檔 dweud rhywbeth wrth eich cyfreithiwr

Efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu eich helpu chi.

Os na fyddwch yn dweud wrth y cyfreithiwr am dyst neu unrhyw dystiolaeth ar unwaith, gallai鈥檙 llys benderfynu cael y treial heb y dystiolaeth honno na鈥檙 tyst hwnnw. Efallai y bydd y llys yn penderfynu y bydd eich treial yn cael ei gynnal ar ddiwrnod arall. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu arian i鈥檙 llys am yr amser sy鈥檔 cael ei wastraffu.

Os byddwch yn anghofio dweud rhywbeth wrth eich cyfreithiwr, dywedwch wrthynt cyn gynted ag y byddwch yn cofio.

Os bydd rhywbeth yn newid, dywedwch wrth eich cyfreithiwr ar unwaith.

Beth sy鈥檔 digwydd pan fydd y llys yn penderfynu ar ddyddiad y treial

Bydd y llys yn dweud wrthych beth yw dyddiad, amser a lleoliad y treial. Gwnewch yn si诺r nad ydych chi鈥檔 hwyr. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros.

Efallai y bydd angen i鈥檆h cyfreithiwr siarad 芒 chi cyn yr achos. Gwnewch yn saff fod ganddyn nhw eich rhif ff么n. Os bydd eich rhif ff么n wedi newid, mae angen i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr.

Rhaid i chi ddod i鈥檙 llys ar gyfer eich treial. Os na allwch ddod, er enghraifft gan eich bod yn s芒l neu fod argyfwng, rhaid i chi ddweud wrth eich cyfreithiwr a鈥檙 llys ar unwaith. Rhaid i chi gael rheswm da iawn am beidio bod yn bresennol.

Os na fyddwch yn dod i鈥檙 llys:

  • efallai na fydd eich cyfreithiwr yn gallu siarad 芒鈥檙 llys ar eich rhan
  • efallai bydd y llys yn penderfynu os ydych chi鈥檔 euog neu鈥檔 ddieuog yn eich absenoldeb
  • efallai y bydd yr heddlu鈥檔 eich arestio
  • efallai y bydd y llys yn penderfynu yn ddiweddarach nad oedd gennych reswm da dros beidio 芒 dod 鈥� gall y llys eich cosbi am hyn