Risg a diogelwch: newidiadau i gyfraith PIP o 21 Awst 2020
Diweddarwyd 26 Tachwedd 2024
Cefndir
Wrth wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), mae鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ystyried eich gallu i ymolchi a chael bath.
Newid i gyfraith PIP
Yn dilyn dyfarniad tribiwnlys, o 21 Awst 2020, bu newid yn y ffordd yr ydym yn ystyried a all rhywun ymolchi neu chael bath yn ddiogel, fel rhan o鈥檙 asesiad PIP.
Os nad yw hawlydd sy鈥檔 fyddar neu sydd 芒 nam ar y clyw yn gallu clywed larwm t芒n safonol wrth ymolchi neu chael bath, er bod y risg o d芒n yn isel, rydym nawr yn ystyried a oes angen larwm gweledol (cymorth neu declyn), neu oruchwyliaeth os ni fyddai larwm gweledol yn briodol, er mwyn golchi neu chael bath yn ddiogel.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Rydym nawr yn edrych ar hawliadau PIP gan bobl sy鈥檔 fyddar neu sydd 芒 nam ar y clyw a allai gael eu heffeithio gan y newid hwn. Mae hyn yn cynnwys adolygu rhai hawliadau y gwnaethom benderfynu arnynt ar neu ar 么l 21 Awst 2020, gan gynnwys rhai lle na wnaethom ddyfarnu PIP. Nid ydym yn bwriadu gofyn i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth bellach na鈥檆h gwahodd am asesiad fel rhan o鈥檙 adolygiad hwn. Byddwn yn edrych ar wybodaeth sydd gennym eisoes am eich nam ar y clyw o鈥檆h cais PIP.
Ni fyddwn yn edrych eto ar eich cais os:
- gwnaethom ddyfarnu鈥檙 gyfradd uwch y rhan bywyd bod dydd o PIP i chi yn barhaus ers 21 Awst 2020
- mae Tribiwnlys wedi gwneud penderfyniad ar eich hawliad ers 21 Awst 2020
- gwnaethom benderfynu peidio 芒 dyfarnu PIP i chi cyn 21 Awst 2020
Os byddwn yn adolygu eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch ac nid oes angen i chi gysylltu 芒 ni. Efallai y bydd yn cymryd ychydig amser i chi gael y llythyr hwn.
Os byddwn yn penderfynu y dylech gael mwy o PIP, yna fel arfer bydd eich dyfarniad yn cael ei 么l-ddyddio i 21 Awst 2020. Os gwnaethoch hawlio PIP ar 么l 21 Awst 2020, bydd fel arfer yn cael ei 么l-ddyddio i鈥檙 dyddiad y gwnaethoch ddechrau cael PIP.
Gallwch wneud cais am PIP eto os credwch y gallech fod yn gymwys nawr. Bydd y newid i gyfraith PIP yn berthnasol i bob cais newydd.
Mae wedi鈥檌 gymhwyso i bob penderfyniad PIP ers 17 Mai 2021.
Help gyda PIP
Gallwch gysylltu 芒 sefydliad cymorth lleol neu鈥檙 i gael help i ddeall PIP.