Canllawiau

Diogelwch a goruchwyliaeth: newidiadau i gyfraith PIP o 9 Mawrth 2017

Diweddarwyd 26 Tachwedd 2024

Cefndir

Wrth i chi wneud cais am PIP, mae鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn asesu鈥檙 effaith sydd gan unrhyw anableddau a chyflyrau iechyd ar eich gallu i fyw bywyd annibynnol.

Yn asesiadau PIP, caiff eich gallu ei asesu neu ei fesur yn erbyn nifer o weithgareddau bob dydd ac os ydych yn gallu eu cwblhau:

  • yn ddiogel
  • i safon dderbyniol
  • dro ar 么l tro
  • o fewn cyfnod amser rhesymol

Rydym hefyd yn ystyried os oes angen goruchwyliaeth arnoch ar gyfer rhai gweithgareddau.

Newid i gyfraith PIP

O 9 Mawrth 2017, bu newid i鈥檙 ffordd y mae DWP yn ystyried a allwch gwblhau gweithgaredd PIP yn ddiogel ac os oes angen goruchwyliaeth arnoch trwy ystyried:

  • y tebygrwydd o niwed yn digwydd
  • difrifoldeb a natur y niwed a allai ddigwydd

Beth mae hyn yn ei olygu i chi

Rydym yn edrych ar yr holl hawliadau PIP cyfredol i wirio a yw鈥檙 newid hwn yn golygu y gallech fod yn gymwys i gael rhagor o gefnogaeth o dan PIP.

Rydym hefyd yn edrych eto ar hawliadau a benderfynwyd gennym ar neu ar 么l 9 Mawrth 2017 lle na wnaethom ddyfarnu PIP.

Ni fyddwn yn edrych ar eich cais PIP eto os ydych wedi bod yn cael y gyfradd well o elfennau bywyd bob dydd a symudedd PIP ers 9 Mawrth 2017.

Unwaith y byddwn wedi edrych ar eich hawliad eto byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y canlyniad. Oherwydd y nifer fawr o achosion y bydd angen i鈥檙 DWP eu hadolygu, efallai y bydd yn cymryd peth amser i chi gael y llythyr hwn.

Efallai na fyddwch yn cael mwy o PIP o dan y newid hwn. Os penderfynwn y dylech gael mwy o PIP, bydd eich dyfarniad fel arfer yn cael ei 么l-ddyddio i 9 Mawrth 2017, neu os gwnaethoch hawlio PIP ar 么l 9 Mawrth 2017, wedi鈥檌 么l-ddyddio i鈥檙 dyddiad y dechreuoch gael PIP.

Nid ydym yn bwriadu鈥檆h gwahodd i asesiad wyneb yn wyneb fel rhan o鈥檙 adolygiad hwn.

Mae鈥檙 newid i sut y mae diogelwch a goruchwyliaeth yn cael ei ystyried o ganlyniad i farn Uwch Dribiwnlys ar ddiogelwch a goruchwyliaeth.

Gallwch wneud cais am PIP eto os credwch y gallech fod yn gymwys erbyn hyn. Bydd y newid i gyfraith PIP yn berthnasol i bob cais newydd.

Help gyda PIP

Gallwch gysylltu 芒 sefydliad cymorth lleol neu i gael help i ddeall PIP.