Papur polisi

Tandaliadau a gordaliadau TWE

Diweddarwyd 15 Rhagfyr 2014

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

1. Sut mae tandaliadau a gordaliadau yn digwydd

Nod y system TWE yw didynnu鈥檙 dreth gywir oddi wrth bobl yn ystod y flwyddyn dreth ac fe鈥檌 seilir ar wybodaeth y mae cyflogeion a chyflogwyr yn ei rhoi i ni.

Mae TWE yn didynnu鈥檙 dreth gywir oddi wrth tua 85 y cant o bobl. Ond i鈥檙 rheiny sy鈥檔 symud i mewn ac allan o waith, lle mae eu hincwm yn amrywio, neu y mae ganddynt dreuliau neu fuddiannau, nid yw didyniadau TWE bob amser cyfwerth 芒鈥檙 dreth sy鈥檔 ddyledus. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod materion treth y gr诺p hwn o drethdalwyr yn gallu newid yn ystod y flwyddyn, ac efallai na fydd y newidiadau鈥檔 cael eu hysbysu i ni tan rywbryd ar 么l y digwyddiad. Golyga hyn y bydd tua 15 y cant o drethdalwyr wedi talu gormod neu鈥檔 rhy ychydig o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth.

Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth rydym yn gwirio p鈥檜n a yw cwsmeriaid o dan y system TWE wedi talu鈥檙 dreth gywir. Os bydd gormod neu rhy ychydig o dreth wedi ei thalu, cynhyrchir cyfrifiad treth ar ffurflen P800 a鈥檌 hanfon at y cwsmer. Mae hyn yn rhan o broses arferol y system TWE ac mae wedi digwydd pob blwyddyn ers cyflwyno TWE yn 1944. Gelwir y broses yn Cysoni Diwedd Blwyddyn (EoYR).

2. Sut byddwn yn casglu tandaliadau ac yn ad-dalu gordaliadau

Eleni bwriadwn:

  • dechrau鈥檙 broses Cysoni Diwedd Blwyddyn ar gyfer 2011-12 y mis hwn (Mai), sydd ddau fis ynghynt na鈥檙 llynedd
  • prosesu gordaliadau a thandaliadau gyda鈥檌 gilydd, yn hytrach na mewn dwy broses ar wah芒n, sy鈥檔 golygu y cwblheir y broses Cysoni Diwedd Blwyddyn ynghynt

Bydd cwsmeriaid sydd wedi talu gormod o dreth yn 2011-12 yn dechrau derbyn ad-daliadau treth ynghynt. Bydd y cwsmeriaid hynny sydd 芒 mwy o dreth i鈥檞 thalu yn dechrau derbyn hysbysiadau bedwar mis ynghynt na鈥檙 llynedd, er mwyn eu helpu i gynllunio eu trefniadau ariannol o flaen llaw. Yn y mwyafrif o achosion, byddwn yn casglu鈥檙 dreth ychwanegol sy鈥檔 ddyledus pan delir cwsmeriaid wrth y ffynhonnell, drwy newid eu cod treth. Gelwir y broses hon yn 鈥榓ddasu cod鈥� a bydd yn digwydd yn ystod 2013-14.

Ar hyn o bryd, rydym yn parhau i gyfrifo faint o dandaliadau a gordaliadau sy鈥檔 ddyledus, ond disgwyliwn y bydd rhwng 2.1 miliwn a 3.5 miliwn o gwsmeriaid sydd wedi talu gormod o dreth, a tua 1.2 miliwn ac 1.6 miliwn o gwsmeriaid sydd wedi talu rhy ychydig o dreth. Ni fydd yn rhaid i gwsmeriaid nad ydynt yn cwblhau ffurflenni treth Hunanasesiad ac sydd arnynt llai na 拢50 dalu unrhyw beth. Mae cwsmeriaid sydd wedi gordalu eu treth yn derbyn ad-daliad sydd ar gyfartaledd yn 拢379. Mae鈥檙 cwsmeriaid hynny sydd wedi talu rhy ychydig yn gorfod ad-dalu diffyg sydd ar gyfartaledd yn 拢537.

Roedd ychydig o gwsmeriaid yn 2010-11 a gafodd ad-daliad am ordalu treth, ond a ddywedwyd wrthynt ychydig ar 么l hynny eu bod wedi tandalu treth yn yr un flwyddyn. Digwyddodd hyn oherwydd bod eu hamgylchiadau wedi newid yn y cyfamser ac nid oeddwn yn gwybod am y newid cyn i鈥檙 broses gysoni ddechrau. O ganlyniad, rydym yn cydweddu鈥檙 wybodaeth hon gyda chyfrifon ynghynt eleni, felly gallwn ostwng nifer yr achosion hyn cymaint 芒 phosibl.

3. Helpu鈥檙 rheiny sy鈥檔 methu fforddio talu

Gwyddom mewn rhai achosion y gallai ad-dalu鈥檙 dreth sy鈥檔 ddyledus dros gyfnod o 12 mis achosi anawsterau ariannol i rai trethdalwyr. Byddwn mor hyblyg 芒 phosibl fel bod pobl yn gallu gofyn i dalu鈥檙 dreth sydd arnynt drwy daenu鈥檙 taliadau dros uchafswm o dair blynedd os oes angen iddynt. Dylai trethdalwyr sydd am gael fwy o wybodaeth yngl欧n 芒 gwneud trefniadau Amser i Dalu ffonio鈥檙 rhif ff么n a ddangosir ar y llythyr a g芒nt, a rhoi eu cyfeirnod unigryw. Mae cyfeiriad ar y llythyr hefyd lle y gallant ysgrifennu atom. Ni fyddwn yn codi llog pan fo trethdalwr yn trefnu taliadau gyda ni.

4. Yr hyn rydym yn ei wneud i wella TWE

Gwybodaeth Amser Real ar gyfer TWE yw鈥檙 cam nesaf i foderneiddio TWE ac mae鈥檔 cael ei weithredu yn unol 芒鈥檙 amserlen. O dan Wybodaeth Amser Real bydd cyflogwyr a darparwyr pensiwn yn dweud wrthym am daliadau TWE ar yr adeg pan g芒nt eu gwneud - yn hytrach na dweud wrthym drwy鈥檙 system diwedd blwyddyn fel sy鈥檔 digwydd ar hyn o bryd. Bydd Gwybodaeth Amser Real yn ein caniat谩u i gadw cofnodion rhai cwsmeriaid yn fwy cyfoes yn ystod y flwyddyn, oherwydd caiff ei hysbysu i ni ynghynt pan fydd pobl yn newid swyddi neu鈥檔 symud i mewn ac allan o waith. Mewn amser bydd Gwybodaeth Amser Real yn sicrhau ein bod yn casglu鈥檙 swm cywir o dreth ac Yswiriant Gwladol gan fwy o unigolion yn ystod y flwyddyn dreth, sy鈥檔 golygu y bydd llai o gwsmeriaid wedi gordalu neu dandalu ar ddiwedd y flwyddyn. Lansiwyd cynllun peilot Gwybodaeth Amser Real ym mis Ebrill 2012 fel y cam cyntaf tuag at weithredu鈥檙 system yn llawn erbyn mis Hydref 2013. Derbyniodd CThEM mwy na 100,000 o gofnodion cwsmeriaid yn llwyddiannus ers i ddeg o gyflogwyr ymuno 芒鈥檙 cynllun peilot yn wirfoddol. Bydd 310 o gynlluniau cyflogwyr ychwanegol yn ymuno 芒鈥檙 cynllun peilot ym misoedd Mai a Mehefin.

5. I ganfod mwy

Ewch i鈥檔 gwefan yn www.hmrc.gov.uk/payinghmrc/problems/cantpay.htm.