Sut i gwblhau dewis ar gyfer llenwi Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P350)
Diweddarwyd 11 Awst 2022
Gwneud dewis ffurfiol
Os oes angen cyfeirnod TWE y cyflogwr gwahanol arnoch ar gyfer gwahanol grwpiau o gyflogeion, mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol:
- defnyddio鈥檙 ffurflen P350 i wneud dewis ffurfiol
- gwneud hyn unrhyw bryd cyn dechrau鈥檙 mis treth 鈥� dylai hyn fod yn union cyn y mis treth rydych am i鈥檙 dewis ffurfiol ddechrau ohono
Os ydych am i ddewis ddechrau ar 6 Mehefin, dylech gyflwyno鈥檆h cais i CThEM erbyn 5 Mai. Os byddwch yn cyflwyno cais ar 6 Mai i ddewis ddechrau ar 6 Mehefin, ni fydd yn dechrau tan 6 Gorffennaf.
Os byddwch yn gwneud dewis hwyr, caiff ei drin fel pe bai wedi鈥檌 wneud ar gyfer y mis treth ar 么l y mis treth rydych wedi gofyn iddo ddechrau ynddo.
Rhaid bod gennych reswm busnes dilys dros wneud dewis ar gyfer mwy nag un cyfeirnod TWE y cyflogwr. Gallwn wrthod unrhyw ddewis pan mae鈥檔 ymddangos eich bod yn ei wneud yn gyfan gwbl neu鈥檔 bennaf at ddiben amhriodol (er enghraifft, er mwyn osgoi鈥檙 gofyn i wneud taliadau drwy ddull electronig).
Os byddwn yn gwrthod eich dewis
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn gwrthod eich dewis.
Apelio os anghytunwch 芒鈥檔 penderfyniad
Os byddwch yn anghytuno gyda鈥檔 rhesymau dros wrthod, gallwch apelio cyn pen 30 diwrnod i鈥檙 dyddiad yr anfonwn yr hysbysiad atoch.
Rhoi hysbysiad o ganslo
Mae鈥檔 rhaid i chi roi hysbysiad o ganslo cyn dechrau鈥檙 mis treth rydych am i鈥檙 dewis gael ei ganslo ohono.
Gallwch gysylltu 芒 ni i ganslo neu gyflwyno cyflwyniad taliadau llawn (FPS) neu grynodeb o daliadau鈥檙 cyflogwr (EPS).