Cynllun Gweithredol 2025-2026 PecynUK
Cyhoeddwyd 28 Chwefror 2025
Cyflwyniad
Blwyddyn weithredol lawn gyntaf PecynUK fydd 2025 鈥� 2026. Mae gan PecynUK rwymedigaeth o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024[1] i gyhoeddi Cynllun Gweithredol ar gyfer blwyddyn nesaf y cynllun. Mae鈥檙 Datganiad Polisi ar y Cyd ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros Becynwaith yn rhoi manylion ychwanegol am yr hyn y mae鈥檙 Pedair Gwlad yn disgwyl i鈥檙 Cynllun Gweithredol hwn ei gynnwys. Ar gyfer blwyddyn nesaf y cynllun, mae nifer o bynciau sydd y tu hwnt i gwmpas y cynllun gweithredol, sef:
- cyfanswm costau gwaredu taladwy pob awdurdod perthnasol; a
- cyfanswm y costau y mae PecynUK yn disgwyl eu hwynebu i dalu am waith gweinyddol ac ymgyrchoedd gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd; a鈥檙
- cyfanswm y mae PecynUK yn disgwyl ei adennill gan gynhyrchwyr rhwymedig.
Bydd y ffioedd terfynol ar gyfer blwyddyn gyntaf EPR yn cael eu rhyddhau ar 么l 1 Ebrill 2025 (y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am becynwaith a ddarparwyd gan gynhyrchwyr cofrestredig yn 2024). Felly, ni all PecynUK ddarparu rhagolygon cywir ar gyfer y costau y mae PecynUK yn disgwyl eu hwynebu i dalu am waith gweinyddol ac ymgyrchoedd gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd, a鈥檙 symiau y mae PecynUK yn disgwyl eu hadennill gan gynhyrchwyr rhwymedig. Dyma鈥檙 elfennau sydd o fewn cwmpas y Cynllun Gweithredol:
- modiwleiddio a dyddiadau cyllid pwysig
- cyflenwr gwasanaethau ariannol
- effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- rhwymedigaethau statudol
Ffioedd a thaliadau
Rhagolygon
Ym mis Rhagfyr 2024[2], cyhoeddodd PecynUK y fersiwn ddiweddaraf o鈥檙 Ffioedd Sylfaen Enghreifftiol a鈥檙 symiau dangosol a fydd yn cael eu talu i Awdurdodau Lleol. Gallai鈥檙 symiau hyn newid wrth i ni gael mwy o ddata a chyfrifo鈥檙 union symiau, felly ni allwn ddarparu rhagolygon ar gyfer y swm y mae PecynUK yn disgwyl ei adennill gan gynhyrchwyr rhwymedig a swm y costau gwaredu taladwy y bydd Awdurdodau Lleol yn eu derbyn.
Mae PecynUK yn disgwyl wynebu costau gwaredu yng nghyswllt gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd a fydd yn talu costau unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd y mae PecynUK yn dymuno eu lansio a fydd yn help gyda鈥檙 canlyniadau amgylcheddol y mae鈥檔 gobeithio eu cyflawni. I oruchwylio鈥檙 gwaith o weithredu a rhedeg diwygiadau pEPR, bydd PecynUK yn wynebu costau gweinyddol a fydd yn talu am bob agwedd ar redeg y cynllun.
Dyddiadau pwysig
Hydref 2025 鈥� Bydd anfonebau鈥檔 cael eu hanfon at gynhyrchwyr rhwymedig, a fydd yn cynnwys ffioedd gwaredu, costau gwaith gweinyddol ac ymgyrchoedd gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd. Bydd gan gynhyrchwyr 50 diwrnod ar 么l dyddiad yr anfoneb i dalu鈥檔 llawn neu i drefnu rhandaliadau chwarterol.聽
Dyma ddyddiadau disgwyliedig y taliadau chwarterol:
- Tachwedd 2025
- Ionawr 2026
- Ebrill 2026
- Mehefin 2026
Tachwedd 2025 鈥� Disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol yn derbyn eu taliad cyntaf ym mis Tachwedd 2025 ar gyfer Ch1 a Ch2 y flwyddyn asesu, sef Ebrill 2025-Mawrth 2026.聽 Dyma ddyddiadau鈥檙 taliadau yn y dyfodol i Awdurdodau Lleol:
- Ionawr 2026
- Mawrth 2026
Rhagfyr 2025 鈥� Bydd PecynUK yn cadarnhau鈥檙 trefniadau ar gyfer ffioedd wedi鈥檜 modiwleiddio a fydd yn dechrau yn 2026.
Modiwleiddio
O ail flwyddyn weithredol EPR ymlaen (2026 i 2027), bydd ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sicrhau bod deunyddiau pecynwaith sy鈥檔 llai cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol yn arwain at ffioedd uwch. Bydd y mathau o becynwaith y bydd rhaid talu ffioedd uwch neu is arnynt yn seiliedig i ddechrau ar asesiadau ailgylchadwyedd yn unol 芒 Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM)[3], a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024.
Disgwylir y bydd y fethodoleg modiwleiddio amlinellol yn cael ei chyhoeddi yn ystod gwanwyn 2025.
Ymgyrchoedd Gwybodaeth i鈥檙 Cyhoedd
Mae gan PecynUK rwymedigaeth statudol i ddarparu gwybodaeth am ailddefnyddio pecynwaith; adfer, gan gynnwys ailgylchu, a gwaredu gwastraff pecynwaith; ac atal sbwriel pecynwaith.
I gyflawni鈥檙 rhwymedigaeth statudol hon, gall PecynUK wneud trefniadau ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth cenedlaethol neu leol a fydd yn rhoi gwybod i鈥檙 cyhoedd a busnesau sut i reoli, ailddefnyddio ac ailgylchu eu gwastraff pecynwaith yn ogystal ag atal sbwriel pecynwaith.
Bydd PecynUK yn datblygu ei ymgyrchoedd gwybodaeth i鈥檙 cyhoedd drwy gydol y flwyddyn weithredol gyntaf. Dylai鈥檙 ymgyrchoedd hyn helpu i sicrhau鈥檙 effeithiau amgylcheddol y mae鈥檙 cynllun yn ceisio eu cyflawni, sef:
- defnyddio pecynwaith sy鈥檔 gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol
- atal pecynwaith rhag mynd yn wastraff
- sicrhau bod mwy o becynwaith yn cael ei ailddefnyddio, a chynyddu nifer ac ansawdd y deunyddiau pecynwaith sy鈥檔 cael eu hailgylchu; a lleihau faint o ddeunyddiau pecynwaith a roddir ar y farchnad
Cyflenwr gwasanaethau ariannol
Ar gyfer y flwyddyn weithredol sydd i ddod, bydd PecynUK yn canolbwyntio ar weithredu a pharatoi鈥檙 Cyflenwr Gwasanaethau Ariannol (FSS) cyn anfonebu ym mis Hydref 2025. Bydd y Cyflenwr Gwasanaethau Ariannol yn goruchwylio鈥檙 gwaith o gasglu ffioedd gan gynhyrchwyr rhwymedig a gwneud taliadau i Awdurdodau Lleol.
Sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr
Ar gyfer y flwyddyn weithredol sydd i ddod, bydd PecynUK yn gosod y sylfeini i sefydlu鈥檙 Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO), gan ddatblygu r么l y Sefydliad a鈥檙 broses ymgeisio gyda鈥檙 nod o benodi er mwyn dirprwyo swyddogaethau Gweinyddwr y Cynllun. Bydd y gwaith hwn yn nodi r么l gychwynnol y Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr o ran cyflawni swyddogaethau鈥檙 cynllun, a phroses ymgeisio gadarn i sicrhau bod ymgeisydd o ansawdd uchel yn cael ei benodi gyda chefnogaeth cynhyrchwyr.
Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
Bydd PecynUK yn cynnal asesiadau o Awdurdodau Lleol i asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau casglu ac ailgylchu ar gyfer gwastraff pecynwaith. Wrth wneud hynny, bydd yn darparu cynllun sy鈥檔 dangos gwerth am arian i gynhyrchwyr yn ogystal 芒 dinasyddion.
Ym mis Ebrill 2025, bydd PecynUK yn anfon rhagor o lythyrau taliadau dangosol a chanllawiau cysylltiedig, gan gynnwys canllawiau ar effeithiolrwydd i Awdurdodau Lleol, cyn anfon llythyrau talu terfynol ym mis Tachwedd 2025.
O fis Mai 2025 ymlaen, bydd y gwaith i gaffael yr asiant a fydd yn gweithio ar ran PecynUK yn cydredeg 芒鈥檙 gwaith i gychwyn fframwaith ar gyfer y Sefydliadau Cymorth.聽 Bydd PecynUK hefyd yn datblygu cyfres o feini prawf cymorth a chymhwysedd ar gyfer Awdurdodau Lleol mewn Cynllun Gweithredu Gwelliant.聽 Mae cynlluniau hefyd i gynnal astudiaeth beilot gyda llond llaw o Awdurdodau Lleol ar draws y Pedair Gwlad ar gyfer gwaith y Cynllun Gweithredu Gwelliant.
Bydd PecynUK yn datblygu ac yn cynnal llyfrgell adnoddau i Awdurdodau Lleol ei defnyddio a darparu adborth arni erbyn mis Tachwedd 2025.
Ar yr un pryd, bydd gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu鈥檔 barhaus 芒 chynrychiolwyr Awdurdodau Lleol, i ddeall y berthynas rhwng polis茂au a鈥檙 Pedair Gwlad, ac i geisio meithrin gwell dealltwriaeth o鈥檙 problemau data sy鈥檔 wynebu Awdurdodau Lleol.聽 Byddwn yn defnyddio cynlluniau peilot i sicrhau bod camau gwella yn cael eu hintegreiddio 芒 fframweithiau gwelliant presennol pob Gwlad.
Rhwymedigaethau statudol
Mae gan PecynUK nifer o rwymedigaethau statudol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024. I fodloni鈥檙 rhwymedigaethau hyn yn y flwyddyn weithredol sydd i ddod, bydd PecynUK yn cyflawni鈥檙 gweithgareddau canlynol.
- datganiad Polisi ar Fodiwleiddio Ffioedd Gwaredu 鈥� bydd PecynUK yn ceisio ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2025 er mwyn rhoi cymaint o amser 芒 phosibl i gynhyrchwyr rhwymedig
- strategaeth 鈥� bydd PecynUK yn cyhoeddi strategaeth ym mis Mehefin 2025 a fydd yn cynnwys amcanion a swyddogaethau, trefniadau llywodraethu鈥檙 cynllun, a鈥檙 canlyniadau y mae鈥檔 bwriadu eu cyflawni
- adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 鈥� bydd PecynUK yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon ym mis Medi 2025, yn unol 芒 safonau cyfrifyddu Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus (PSFA) a鈥檙 Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)
- hysbysiadau asesu ac atebolrwydd 鈥� ym mis Hydref/Tachwedd 2025, bydd PecynUK yn anfon pob hysbysiad angenrheidiol at gynhyrchwyr ac Awdurdodau Lleol
- canllawiau i Gynhyrchwyr ac Awdurdodau Lleol 鈥� bydd PecynUK yn ceisio cyhoeddi canllawiau i gynhyrchwyr rhwymedig ynghyd ag Awdurdodau Lleol ar elfennau fel cyfrifo ffioedd, methodoleg talu, ac Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu cyhoeddi pan ddaw rhagor o wybodaeth ar gael am y pynciau sydd eisoes wedi cael eu crybwyll.
- rhestrau 鈥� rhaid i PecynUK gyhoeddi rhestr o eitemau pecynwaith sy鈥檔 cael eu gwaredu鈥檔 aml mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel ar y llawr, ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael i PecynUK. Bydd y rhestrau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd PecynUK yn casglu鈥檙 dystiolaeth angenrheidiol i allu eu cyhoeddi.
[1] https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2024/9780348264654/contents
[2] /government/publications/epr-for-packaging-updated-illustrative-base-fees-december-2024/extended-producer-responsibility-for-packaging-illustrative-base-fees-december-2024
[3] /guidance/recycling-assessment-methodology-how-to-assess-your-packaging-waste