Canllawiau

Ardystiadau Ar-lein: bod yn agored ac onest gyda'ch cynulleidfa

Diweddarwyd 4 Mawrth 2016

An illustration of online endorsements.

Mae blogiau, fideos a chyhoeddiadau ar-lein eraill yn dylanwadu ar benderfyniadau prynu pobl. Fe 诺yr busnesau y gall sicrhau ardystiad positif helpu gwerthu eu cynnyrch. Mae cwsmeriaid angen gwybod pryd fydd yr ardystiad maent yn ei ddarllen neu wylio wedi derbyn t芒l.

Nid yw鈥檔 anghyfreithlon i fusnesau dalu pobl neu gyhoeddiadau i hyrwyddo eu cynnyrch mewn blogiau, vlogiau, trydar neu erthyglau ar-lein eraill - ond mae pobl sy鈥檔 cyhoeddi cynnyrch o鈥檙 fath, busnesau sydd eisiau cael ardystiad i鈥檞 cynnyrch ac unrhyw asiantau cyfryngau sy鈥檔 gosod ardystiadau angen sicrhau bod y cwsmer yn gwybod bod yr ardystiad wedi derbyn t芒l. Os nad, gallent fod yn torri鈥檙 gyfraith.

1. Sut ddylai pobl sy鈥檔 cyhoeddi cynnwys ar-lein ei gwneud yn glir eu bod wedi cael t芒l i ardystio neu adolygu rhywbeth ar-lein?

Os bydd rhywun sy鈥檔 cyhoeddi cynnwys yn derbyn t芒l i ardystio rhywbeth, maent angen sicrhau y gellir adnabod y cynnwys yn glir fel rhywbeth maent yn derbyn t芒l amdano. Er enghraifft, gallent labelu postiadau neu fideos fel 鈥淓rthygl Hysbysebu鈥� neu 鈥淗yrwyddiad Hysbysebu鈥�.

2. Beth ddylai busnesau sy鈥檔 cysylltu 芒 sianeli ar-lein i ardystio eu gwasanaeth neu gynnyrch wneud?

Os yw busnes eisiau talu rhywun i ardystio eu gwasanaeth neu gynnyrch arlein, dylent weithio gyda鈥檙 bobl sy鈥檔 rhedeg y sianel i sicrhau bod y cynnwys a gyhoeddir wedi ei labelu鈥檔 glir fel un y talwyd amdano, a helpu sicrhau eu bod yn deall y gallai eu hardystiad gael ei ystyried fel hysbyseb.

3. Beth sydd angen i asiantau PR neu farchnata sy鈥檔 ymgysylltu gyda chyhoeddwyr ar-lein ar ran cleient wneud?

Mae cwmn茂au sy鈥檔 trefnu i gyhoeddi cynnwys ar ran busnes hefyd mewn perygl o dorri鈥檙 gyfraith os nad yw鈥檔 glir pryd fydd cynnwys wedi ei dalu amdano.

Dylent wneud yn si诺r bod cynnwys o鈥檙 fath yn glir ar bob adeg. Er enghraifft, dylent:

  • Ddarparu cyfarwyddiadau clir i鈥檙 sawl sy鈥檔 cyhoeddi鈥檙 cynnwys, ac unrhyw un arall dan sylw, ar sut ddylid nodi cynnwys am d芒l
  • Sicrhau bod deunydd hyfforddiant, polis茂au mewnol, pamffledi corfforaethol, contractau a deunyddiau cysylltiedig staff yr asiantaeth farchnata yn adlewyrchu gofynion y gyfraith

Mae Codau Hysbysebu鈥檙 Deyrnas Unedig yn cynnwys rheolau tebyg i鈥檙 diwydiant ar sicrhau bod cyfathrebu marchnata yn hawdd i鈥檞 adnabod. Gallwch gael cyngor cyflym, cyfrinachol ar gydymffurfio gyda鈥檙 Codau gan y Pwyllgor Arferion Hysbysebu (CAP).

4. Pam mae hyn yn bwysig?

Mae gwirio blogiau, vlogiau ac ardystiadau ar-lein eraill yn ffordd gynyddol gyffredin i ddefnyddwyr benderfynu pa gynnyrch neu wasanaeth i鈥檞 brynu.

Mae tua 6% o ddefnyddwyr yn defnyddio blogiau neu vlogiau cyn prynu rhywbeth.

Os ydych chi鈥檔 camarwain defnyddwyr, gallech fod yn torri cyfraith diogelu defnyddwyr. Gallech hefyd fod yn torri rheolau鈥檙 diwydiant ar hysbysebu.

5. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

  • Os na nodir ardystiadau y talwyd amdanynt, gallech fod yn torri鈥檙 gyfraith.
  • Nid yw鈥檙 deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.