Deunydd hyrwyddo

Gwybodaeth am yr ymgyrch rheoliadau hygyrchedd y Swyddfa Digidol a Data Ganolog

Diweddarwyd 20 Ebrill 2021

1. Gwneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn hygyrch

Mae rheoliadau newydd yn golygu bod gan sefydliadau sector cyhoeddus ddyletswydd cyfreithiol i ddiwallu gofynion hygyrchedd ar gyfer gwefannau ac apiau symudol. Daeth y Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 yn gyfraith y DU ym Medi 2018 ac maen nhw鈥檔 anelu at wneud gwasanaethau cyhoeddus ar-lein yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y rheiny ag anableddau.

Mae tri dyddiad cydymffurfio allweddol ar gyfer y rheoliadau:

  • 23 Medi 2019
  • 23 Medi 2020
  • 23 Mehefin 2021

Y dyddiad cau cyntaf i fodloni鈥檙 rheoliadau oedd 23 Medi 2019 ac mae鈥檔 effeithio ar wefannau 鈥榥ewydd鈥�. Mae hyn yn golygu y dylai sefydliadau sector cyhoeddus fod wedi gwirio hygyrchedd gwefannau a gyhoeddwyd ar neu wedi 23 Medi 2018 a chyhoeddi datganiad hygyrchedd cyfredol.

Mae鈥檔 rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus hefyd sicrhau bod yr holl wefannau sy鈥檔 cael eu lansio yn y dyfodol yn bodloni gofynion hygyrchedd a bod ganddynt ddatganiad hygyrchedd.

Mae gan sefydliadau sector cyhoeddus hyd 23 Medi 2020 i wneud gwefannau h欧n yn hygyrch a chyhoeddi datganiad hygyrchedd. Mae鈥檔 rhaid i apiau symudol fodloni gofynion hygyrchedd erbyn 23 Mehefin 2021. Rhaid i unrhyw fewnrwydi, allrwydi neu wefannau sy鈥檔 wynebu cyflogwyr sy鈥檔 cael eu cyhoeddi neu sy鈥檔 mynd trwy newid sylweddol ar neu ar 么l 23 Medi 2019 i fodloni鈥檙 gofynion hefyd.

2. Beth mae鈥檔 rhaid i sefydliadau ei wneud:

Mae pedwar cam y mae鈥檔 rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 rheoliadau:

  1. Deall sut fydd y rheoliadau yn effeithio arnynt
  2. Gwirio hygyrchedd eu gwefannau
  3. Gwneud cynllun i gywiro unrhyw broblemau a ganfyddant
  4. Cyhoeddi datganiad hygyrchedd

3. Sut y gallwch chi helpu

Mae y Swyddfa Digidol a Data Ganolog (CDDO) wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i gynorthwyo sefydliadau sector cyhoeddus i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, sydd ar gael ar. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth sicrhau bod eich cynulleidfaoedd yn ymwybodol o鈥檜 cyfrifoldebau a lle gallant gael cyfarwyddyd, wrth rannu deunyddiau ymgyrchu a chyfeirio at wefan yr ymgyrch.

Defnyddio鈥檙 hashnod #AccessibilityRegulations yn eich postiadau cyfryngau cymdeithasol fel y gallwn olrhain cyrhaeddiad anfon negeseuon.

Lawrlwytho asedau ymgyrchu.

4. Rhagor o gefnogaeth

Er y bydd CDDO yn parhau i gynnig cyfarwyddyd i gyrff sector cyhoeddus, mae鈥檔 rhaid i sefydliadau ddehongli鈥檙 rheoliadau a chyfarwyddyd eu hunain, gan geisio cyngor cyfreithiol yn 么l y gofyn. Mae nifer hefyd o grwpiau cymuned hygyrchedd ar gyfer rhannu gwybodaeth.

Mae sefydliadau ac unigolion sydd 芒 diddordeb mewn cymryd rhan mewn profi defnyddwyr yn gallu cofrestru eu diddordeb drwy e-bostio: [email protected].

Darllenwch y rheoliadau llawn.

Am gymorth ymgyrchu, e-bostiwch [email protected]