Corporate report

Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iath Gymraeg Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MODWLS) 2020-2021

Published 10 June 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

1. Gair am yr Adroddiad hwn

Dyma Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cynllun Iaith) i Gomisiynydd y Gymraeg, a gyflwynir yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg. Mae鈥檔 amlinellu ein perfformiad o ran cyflawni ein hymrwymiadau i bolisi ein Cynllun Iaith yn ystod 2020-2021.

2. Gwybodaeth am y Cynllun Iaith

Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae鈥檙 Cynllun Iaith yn nodi sut y bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhoi鈥檙 ymrwymiad hwn ar waith wrth ddarparu gwasanaethau i鈥檙 cyhoedd yng Nghymru.

3. Rheoli鈥檙 Cynllun Iaith

Laurence Lee, Ail Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Amddiffyn, sy鈥檔 bennaf gyfrifol am gydymffurfiad cyfreithiol yr Adran 芒鈥檙 Cynllun Iaith. Rheolir y Cynllun Iaith ar ei ran gan d卯m Stiwardiaeth Gwybodaeth Adran Ddigidol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

4. Adolygiad o鈥檙 Flwyddyn

Ychydig iawn o effaith a gafodd y cyfnodau clo cenedlaethol a鈥檙 cyfyngiadau lleol ar ein gwasanaeth yng Nghymru a Lloegr yn 2020-2021.

Cafodd diweddariad sylweddol i鈥檙 Cynllun Iaith ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg a鈥檙 Ysgrifennydd Parhaol, a chafodd ei lansio鈥檔 llwyddiannus yn 2021. Cafodd y lansiad gryn sylw o fewn yr Weinyddiaeth Amddiffyn, gan arwain at lawer o adborth ac ymgysylltiad cadarnhaol, gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau e-bost at D卯m Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cafodd y Cynllun Iaith sylw cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn newyddion cenedlaethol hefyd.

Mae Pencampwr Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn (Pencampwr Iaith), sef Comodor yr Awyrlu Dai Williams, wedi bod yn amhrisiadwy yn ei r么l yn ysgogi mabwysiadu ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o鈥檙 Cynllun Iaith ar draws yr Adran. Mae ymrwymiad y Pencampwr Iaith i sicrhau bod y Cynllun Iaith yn cael ei roi ar waith mor eang 芒 phosibl wedi cael ei ddangos drwy gydol y flwyddyn lle mae ei gyngor a鈥檌 arweiniad ar lansio鈥檙 Cynllun Iaith diweddaraf wedi bod yn arbennig o ddiddorol.

Rydym wedi datblygu, lansio a hyrwyddo鈥檙 Pecyn Cymorth Cynllun Iaith i sicrhau bod effaith unrhyw bolisi, rhaglen neu wasanaeth yn yr Adran a ddefnyddir yng Nghymru yn ystyried y Gymraeg a鈥檙 cyhoedd sy鈥檔 siarad Cymraeg yng Nghymru ar gam cynharaf eu datblygiad. Ar hyn o bryd mae鈥檙 Pecyn Cymorth yn bodloni ein hymrwymiad i greu 鈥榃ici Cymraeg鈥� hyd nes y bydd llwyfan Wici Amddiffyn yn cael ei ddarparu. Mae鈥檙 Pecyn ar gael yn rhwydd ac mae鈥檔 arwain defnyddwyr drwy鈥檙 camau a鈥檙 asesiadau y mae angen iddynt eu gwneud i gydymffurfio 芒鈥檙 Cynllun Iaith.

Mae ein perthynas waith cadarnhaol gydag Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) yn parhau. Maent yn darparu gwasanaeth rhagorol, gan gyfieithu amrywiaeth eang o destunau鈥檔 brydlon a gweithredu ein gwasanaeth Llinell Gymorth Gymraeg. Rydym wedi profi rhywfaint o oedi wrth ddarparu cyfieithiadau eleni oherwydd Covid-19 a chynnydd nad oes modd ei ragweld yn llwyth gwaith Uned Iaith Gymraeg GLlTEM. Mae鈥檙 rhain wedi cael eu rheoli鈥檔 dda gan yr Uned a鈥檜 hysbysu i ni mewn da bryd.

Mae hafan y Cynllun Iaith bellach yn fyw ar gov.uk sy鈥檔 rhoi mynediad i鈥檙 cyhoedd at ddogfennau鈥檙 Cynllun Iaith, ein hadroddiadau blynyddol, gwybodaeth am y Pencampwr Iaith yn ogystal 芒 manylion cyswllt ar gyfer T卯m Cynllun Iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rydym yn parhau i hyrwyddo鈥檙 rhaglen 鈥� gan annog ein staff, yn enwedig y rheini sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru, i ddysgu neu wella eu gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg. Rydym yn bwriadu datblygu darpariaeth dysgu Cymraeg well yn y dyfodol.

5. Y Flwyddyn i Ddod: 2021-2022

Byddwn yn mynd ati yn frwd i hybu a hyrwyddo鈥檙 defnydd o鈥檙 Pecyn Cymorth newydd i sicrhau cydymffurfiad ar draws y Weinyddiaeth Amddiffyn 芒鈥檙 Cynllun Iaith a bod yr asesiadau a鈥檙 ystyriaethau gofynnol yn cael eu cynnal ar ddechrau鈥檙 broses o greu polisi, rhaglen a gwasanaeth.

Byddwn yn olrhain ein cynnydd yn y maes hwn ac yn gofyn am adborth i wella鈥檙 gwasanaeth a鈥檙 offer a gynigiwn yn gyson.

Ein nod yw parhau i feithrin ein perthynas 芒鈥檙 Ysgol Ymgysylltu Amddiffyn, y Ganolfan Amddiffyn dros Iaith a Diwylliant gyda鈥檙 bwriad o ddatblygu darpariaeth dysgu Cymraeg well ar gyfer staff y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rydym yn paratoi i lansio Rhwydwaith Siaradwyr Cymraeg y Weinyddiaeth Amddiffyn ddechrau 2022 a fydd yn dod 芒 siaradwyr Cymraeg at ei gilydd ar draws y Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd hyn yn cael ei reoli gan y Pencampwr Iaith ac yn cael ei weithredu鈥檔 gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn hyrwyddo cymunedau ac yn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

6. Casgliad

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i鈥檙 Cynllun Iaith; i sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio鈥檔 llwyr ar wreiddio ein diweddariad 2021 i mewn i鈥檙 Cynllun Iaith, ar ddatblygu a hyrwyddo鈥檙 Cynllun Iaith ar draws yr Adran, ac ar gynnig canllawiau o ansawdd uchel i holl staff y Weinyddiaeth Amddiffyn. Byddwn yn parhau i ddefnyddio a datblygu鈥檙 offer a鈥檙 gwasanaethau a gynigiwn i sicrhau ein bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 Cynllun Iaith.