Corporate report

Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Iath Gymraeg Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MODWLS) 2019-2010

Published 15 December 2021

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

1. Ynghylch yr adroddiad hwn

Dyma Adroddiad Monitro Blynyddol MODWLS ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, a gyflwynir yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Mae鈥檔 rhoi manylion am ein perfformiad o ran bodloni ein hymrwymiadau polisi ar gyfer y MODWLS yn ystod 2019-20.

2. Ynghylch y MODWLS

Mae鈥檙 MODWLS yn pennu ein hymrwymiadau o ran y Gymraeg. Rydym yn anelu at drin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal, fel y gall siaradwyr Cymraeg ymwneud 芒鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a sicrhau bod y gwasanaeth Cymraeg cystal 芒鈥檙 gwasanaeth Saesneg cyfatebol.

3. Rheoli鈥檙 MODWLS

Mae Syr Stephen Lovegrove, Ysgrifennydd Parhaol y MOD, yn parhau i fod 芒 chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio 芒鈥檙 MODWLS. Mae T卯m Digidol MOD ar gyfer Stiwardiaeth Gwybodaeth, Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion wedi bod yn rheoli鈥檙 MODWLS ar ei ran ers diwedd 2014.

4. Adolygiad o鈥檙 Flwyddyn

Yn gyffredinol, ni chafodd y cyfnodau clo cenedlaethol na鈥檙 cyfyngiadau lleol yng Nghymru lawer o effaith ar ein gwasanaethau yn 2020.

Rydym wedi paratoi a chyflwyno drafft o鈥檙 MODWLS 2020 sydd wedi鈥檌 ddiweddaru a鈥檌 ddiwygio, i gael sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg cyn cyflwyno cyhoeddiad ffurfiol gan yr Adran yn ddiweddarach eleni.

Mae鈥檔 bleser gennym gyhoeddi bod Pencampwr Iaith Gymraeg ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD WLC) wedi cael ei benodi. Commodore Dai Williams yw鈥檙 MODWLC, ac mae mewn sefyllfa ddelfrydol, fel Swyddog Llu Awyr Cymru, i arwain ar ymgysylltu 芒鈥檙 MODWLS ar draws yr Adran. Hefyd, trwy ei berthnasau gydag uwch randdeiliaid yng Nghymru, mae鈥檔 gallu rhoi cyngor ar yr effaith y gall ein polis茂au a鈥檔 prosiectau gael ar Gymru a鈥檙 Gymraeg, Rydym wedi ychwanegu鈥檙 Rhaglen 鈥淕weithio鈥檔 Gymraeg鈥� i Ysgol Ymgysylltu鈥檙 MOD a Rhestr Ieithoedd Awdurdodedig Canolfan Iaith a Diwylliant y MOD, ac mae ar gael i holl staff y MOD ar yr offer TGCh a ddarperir iddynt gan y MOD. Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i annog ein staff, yn enwedig y rhai hynny sydd yng Nghymru, i ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau Cymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Rydym yn parhau i gynnal perthynas waith dda iawn ag Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM); sy鈥檔 darparu gwasanaeth ardderchog inni, yn cyfieithu gwaith ysgrifenedig yn brydlon ac yn gweithredu ein gwasanaeth Llinell Gymorth Cymraeg.

5. Y Flwyddyn i Ddod

Ein blaenoriaeth yn 2021 fydd gweithredu鈥檙 mesurau ychwanegol rydym wedi ymrwymo iddynt yn y MODWLS 2020 diwygiedig. Yn bennaf, byddwn yn:

  • lansio Porth Gymraeg MOD ar wefan gov.uk a chanoli鈥檙 holl wybodaeth MOD sy鈥檔 berthnasol i Gymru neu aelodau鈥檙 cyhoedd sy鈥檔 siaradwyr Cymraeg yno, a
  • chreu Wiki Cymraeg dwyieithog tebyg ar ryngrwyd yr Adran, a fydd yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut i fodloni ein hymrwymiad i aelodau鈥檙 cyhoedd sy鈥檔 siaradwyr Cymraeg;
  • cyflwyno, ar y cyd 芒鈥檔 T卯m Datganoli, Llwybr Asesiad o鈥檙 Effaith ar Gymru a鈥檙 Gymraeg i鈥檙 broses Knowledge in Defence a鈥檌 wneud yn ofynnol i bob prosiect neu fenter newydd ei gwblhau. Bydd hyn yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr effaith gall ein prosiectau a鈥檔 mentrau gael ar Gymru a鈥檙 Gymraeg;
  • ffurfio Rhwydwaith Siaradwyr Cymraeg MOD ar gyfer gweithwyr, wedi鈥檌 arwain gan Bencampwr yr Iaith Gymraeg MOD, i ymestyn y defnydd o鈥檙 Gymraeg yn ein busnes o ddydd i ddydd a darparu sgiliau iaith Cymraeg ychwanegol o fewn yr Adran ac yn ein rhaglenni estyn allan;
  • cymryd rhan yn y Gweithgor Cynllun Iaith Gymraeg traws-lywodraethol sydd newydd gael ei ffurfio, ac sydd wedi鈥檌 gadeirio gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i rannu鈥檙 arfer gorau a sbarduno gwelliannau i鈥檙 darpariaethau iaith Gymraeg a gynigir gan Adrannau鈥檙 Llywodraeth a Chyrff Cyhoeddus.

6. Casgliad

Rydym yn parhau i ymrwymo i fodloni disgwyliadau siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a gwella鈥檙 gwasanaethau rydym yn eu cynnig iddynt.