Rhagair: Michelle Jarman-Howe, Prif Swyddog Gweithredu Carchardai
Updated 1 December 2023
Applies to England and Wales

Mae gweithwyr Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) yn dangos bob dydd pam eu bod yn rhai o鈥檔 gweision cyhoeddus gorau, ac mae eu hymdrechion i gadw carchardai ar waith ledled y wlad yn glod enfawr i ni fel sefydliad. Mae gwaith staff y carchar, yn weithredol neu鈥檔 weinyddol, yn cael ei wneud y tu allan i drem y cyhoedd i raddau helaeth, ond i鈥檙 carcharorion maent yn eu cefnogi i fyw bywydau heb droseddu ar 么l cael eu rhyddhau, mae eu gwaith yn hanfodol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a鈥檜 bod yn gweld y Gwasanaeth Carchardai fel lle gwych i weithio lle gallant gyflawni eu dyheadau o ran gyrfa. Fe wnaethom lansio鈥檙 adnodd 鈥楪ofalu am ein pobl鈥� y llynedd i gyflwyno ein pecyn cyflogaeth cyffredinol i staff, i鈥檞 ddefnyddio y tu mewn a鈥檙 tu allan i鈥檙 gweithle. Mae鈥檙 ddogfen hon yn dod 芒 phob rhan o鈥檔 cynnig cyflogaeth ynghyd, ac mae鈥檔 amlinellu rhywfaint o鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud ar draws HMPPS a鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) i wella ein cynnig ymhellach.
Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru鈥檙 ddogfen hon bob blwyddyn er mwyn cofnodi elfennau esblygol ein cynnig, ac ers y llynedd rydym wedi:
- lansio ein Fframwaith Llwybrau Gyrfa, er mwyn i weithwyr allu gweld yr opsiynau gyrfa a鈥檙 swyddi sydd ar gael iddynt ar draws carchardai, y gwasanaeth prawf a鈥檙 pencadlys;
- dechrau鈥檙 cynllun peilot o gynyddu asesiadau dyrchafu i ddwywaith y flwyddyn;
- a chyflwyno cynlluniau aberthu cyflog newydd lle gall staff wneud arbedion ar offer beicio a chael aelodaeth ratach o鈥檙 gampfa.
Gobeithiaf y bydd y ddogfen hon yn parhau i wasanaethu fel adnodd sy鈥檔 cydnabod y gwaith anhygoel y mae staff yn ei wneud bob dydd.