Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (SD12): Cyfrifoldebau dirprwyaeth awdurdod cyhoeddus (fersiwn y we)
Diweddarwyd 31 Awst 2017
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Crynodeb
Atgoffir awdurdodau cyhoeddus am eu rhwymedigaethau cyfreithiol a鈥檜 dyletswydd gofal pan benodir hwy鈥檔 ddirprwy gan y Llys Gwarchod i reoli materion ariannol pobl sydd heb alluedd meddyliol.
Ni chaniateir dirprwyo dyletswyddau y tu allan i鈥檙 awdurdod cyhoeddus, a dylid cymryd gofal wrth gontractio gyda neu atgyfeirio cleientiaid bregus at ddarparwyr dirprwyaeth allanol.
Dirprwyo dyletswyddau: y Ddeddf Galluedd Meddyliol a鈥檙 Cod Ymarfer
Mae awdurdodau cyhoeddus a benodir gan y Llys Gwarchod i reoli cyllid ac eiddo pobl sydd heb alluedd meddyliol yn gyfrifol am incwm ac asedau pobl fregus, a all fod yn werth miliynau lawer o bunnoedd.
Mae rhwymedigaeth arnynt i weithredu yn unol 芒 , ei rheoliadau cysylltiedig, a Chod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Lle mae鈥檙 dirprwy a enwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau i oedolion neu鈥檔 swyddog awdurdod cyhoeddus arall, gall ddirprwyo dyletswyddau i staff eraill yr awdurdod cyhoeddus, ond mae鈥檔 parhau i fod yn atebol am weithredoedd a phenderfyniadau mewn perthynas 芒鈥檙 cleientiaid hynny.
Ni ellir dirprwyo dyletswyddau i gyrff y tu allan i鈥檙 awdurdod cyhoeddus.
Ffactorau pwysig i鈥檞 cofio
Cynghorir awdurdodau cyhoeddus sy鈥檔 ystyried newid o ddarpariaeth uniongyrchol gwasanaeth dirprwyaeth i ystyried yn ofalus y dewisiadau sydd ar gael yn lleol i sicrhau nad yw cleientiaid bregus yn cael eu hamlygu i risg o gam-drin ariannol.
Os yw鈥檔 ymrwymo i drefniadau cytundebol 芒 darparwr allanol, bydd yr awdurdod cyhoeddus yn dymuno bodloni ei hun fod y darparwr yn addas i ymdrin 芒 sefyllfa ariannol pobl fregus.
Gall archwiliadau gynnwys sicrhau fod gwiriadau troseddol priodol ynghylch unigolion a gyflogir gan ddarparwyr wedi cael eu cynnal gan ddefnyddio鈥檙 Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd y gwiriad manylach yn datgelu鈥檙 un wybodaeth 芒 gwiriad safonol, ond bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth gan yr heddlu lleol sy鈥檔 berthnasol ac y dylid ei datgelu.
Mae鈥檔 bosibl y bydd gan awdurdodau cyhoeddus gysylltiadau cryf hefyd 芒鈥檜 heddlu lleol drwy eu byrddau diogelu, a allai ddarparu cyfle i drafod achosion o鈥檙 fath cyn eu penodi.
Mae鈥檔 rhaid i unrhyw awdurdod cyhoeddus sydd eisiau ymddeol o fod yn ddirprwy yn eu hachosion presennol wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod, ac os felly, bydd y llys yn disgwyl i鈥檙 awdurdod cyhoeddus ddangos bod dirprwy amgen priodol wedi cael ei nodi, os bydd yn ofynnol cael un o hyd.
Gall methu 芒 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion hyn arwain at bryderon diogelu a gwneud yr awdurdod cyhoeddus yn agored i risg i鈥檞 enw da, ac mewn rhai achosion, risg ariannol.
Am ragor o gyngor
Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
Ff么n 0300 456 0300
www.gov.uk/become-deputy